Lunch at Mussolini’s’: Ethel Ross a Dylan Thomas

Yn dilyn marwolaeth Dylan Thomas ym 1953, bu Ethel Ross, chwaer yng nghyfraith Alfred Janes, yn tynnu ffotograffau o Abertawe Dylan, gyda dyfyniadau priodol o’i waith yn benawdau iddynt. Adnabu Ethel, un o hoelion wyth y Little Theatre Company, Dylan a’i ffrindiau, gan gynnwys y cyfansoddwr Daniel Jones a’r bardd Vernon Watkins.

Mae’r arddangosfa’n cynnwys detholiad o ffotograffau Ethel a’i phenawdau, ac rydym yn arddangos teipysgrif Dylan am y tro cyntaf o’i sgetsh ‘Lunch at Mussolini’s’, a roddodd i Ethel ar ddechrau’r 1930au i’w pherfformio gan y Little Theatre Company. Bydd llun o Ethel Ross gan Alfred Janes hefyd yn cael ei arddangos, a roddwyd ar fenthyg yn garedig gan eu teulu.

Ethel Ross' photograph of The Empire for blog

 

Mussolini script page 1 cropped for blog

 

 

This post is also available in: English