Bywyd Dylan – y 1950au hyd ei farwolaeth

1950

Ionawr: Cyhoeddi Twenty-five Poems gan J. M. Dent a’i Feibion Cyf mewn argraffiad cyfyngedig o 150 o gopïau wedi’u llofnodi.

“When we were strangers to the guided seas,
A handmade moon half holy in a cloud,
The wisemen tell me that the garden gods
Twined good and evil on an eastern tree”
Incarnate devil

20 Chwefror: Dylan yn hedfan i Efrog Newydd i ddechrau ar ei daith gyntaf o’r Unol Daleithiau a drefnwyd gan John Malcolm Brinnin.

23 Chwefror: Darlleniad cyntaf Dylan yn Awditoriwm Kaufmann, Efrog Newydd.

1 Mehefin: Dylan yn dychwelyd i Brydain ar y Queen Elizabeth ar ôl cyflwyno o leiaf 39 o ddarlleniadau a darlithoedd ar draws UDA a Chanada.

Medi: Margaret Taylor yn mynd i Dalacharn i ddweud wrth Caitlin bod gan Dylan gariad Americanaidd, Pearl Kazin, a’i bod wedi dod i Lundain. Mae hyn yn peri’r argyfwng mawr cyntaf yn eu priodas.

1951

Ionawr/Chwefror: Dylan yn ymweld â Phersia i ysgrifennu sgript ffilm ar gyfer y Cwmni Olew Eingl-Iranaidd. Caitlin yn ysgrifennu ato yn awgrymu bod y briodas ar ben.

Chwefror: Dylan a Caitlin wedi cymodi.

Gorffennaf: John Malcolm Brinnin, asiant Americanaidd Dylan, a’r ffotograffydd Rollie McKenna yn aros gyda Dylan a Caitlin yn Nhalacharn ac yn trafod y posibilrwydd o daith arall i America.

Yr haf/yr hydref: Dylan yn ysgrifennu ‘Lament’, ‘Poem on His Birthday’, ‘Do Not Go Gentle Into That Good Night’, ‘Prologue’ a hanner Under Milk Wood yn Nhalacharn.

Summer / Autumn: Dylan writes ‘Lament’, ‘Poem on His Birthday’, ‘Do Not Go Gentle Into That Good Night’, ‘Prologue’ and half of Under Milk Wood in Laugharne.

“Now I am a man no more no more
And a black reward for a roaring life
(Sighed the old ram rod, dying of strangers)’
Lament

Margaret Taylor yn prynu 54 Stryd Delancey, Tref Camden er mwyn i’r Thomases gael cartref yn Llundain yn ogystal â’u cartref yn Nhalacharn.

1952

20 Ionawr: Dylan a Caitlin yn gadael i fynd i’r Unol Daleithiau ar y Queen Mary (mae’r ail daith hon i UDA yn para tan 16 Mai).

22 Chwefror: Dylan yn recordio ei ddetholiad cyntaf o gerddi ar gyfer Recordiau Caedmon.

28 Chwefror: Cyhoeddi ‘In Country Sleep’ yn yr Unol Daleithiau mewn argraffiad cyfyngedig o 100 o gopïau wedi’u llofnodi gydag argraffiad masnach yn dilyn.

“And you shall wake, from country sleep, this dawn and each first dawn,
Your faith as deathless as the outcry of the ruled sun.”
In Country Sleep

10 Tachwedd: Cyhoeddi Collected Poems 1934-1952 ym Mhrydain gan J. M. Dent a’i Feibion Cyf. Argraffiad cyfyngedig o 65 o gopïau wedi’u llofnodi a hefyd argraffiad masnach.

“Under the mile off moon we trembled listening
To the sea sound flowing like blood from the loud wound
And when the salt sheet broke in a storm of singing
The voices of all the drowned swam on the wind.”
Lie still, sleep becalmed

16 Rhagfyr: D. J. Thomas yn marw yn Nhalacharn yn 76 oed. Cleddir ym Mhontypridd ochr yn ochr â’i frawd, Arthur, ar ôl seremoni seciwlar.

31 Mawrth: Cyhoeddi Collected Poems yn yr Unol Daleithiau gan New Directions.

“Good men, the last wave by, crying how bright
Their frail deeds might have danced in a green bay,
Rage, rage against the dying of the light.”
Do not go gentle into that good night

16 Ebrill: Chwaer Dylan, Nancy, yn marw o ganser yn Bombay.

21 Ebrill: Dylan yn gadael i fynd i Efrog Newydd i ddechrau ar ei drydedd daith yn America, ac yn ystod y daith hon yn dechrau ei garwriaeth â Liz Reitell.

14 Mai: Cyhoeddi The Doctor and the Devils – y cyntaf o’r sgriptiau ffilm – gan J. M. Dent a’i Feibion Cyf.

14 Mai: Perfformiad llwyfan cyntaf Under Milk Wood yn Efrog Newydd gyda Dylan yn adrodd (wedi’i recordio gan Caedmon).

” ‘I’m Jonah Jarvis, come to a bad end, very enjoyable …”
Under Milk Wood

2 Mehefin: Dylan yn recordio eto ar gyfer Caedmon.

3 Mehefin: Dylan yn dychwelyd i Lundain.

10 Awst: Dylan yn ymddangos ar y teledu am yr unig dro ar y BBC, yn darllen ei stori ‘The Outing’. Nid yw’r deunydd hwn erioed wedi cael ei ddarganfod.

“The charabanc pulled up outside the Mountain Sheep …. landlord stood at the door to welcome us, simpering like a wolf.”
‘A Story’ – aka ‘The Outing’

19 Hydref: Dylan yn gadael i fynd i Efrog Newydd i ddechrau ar ei bedwaredd daith o gwmpas America, sef yr olaf.

29 Hydref: Digwyddiad cyhoeddus olaf Dylan – darlleniad amser cinio yng Ngholeg Dinas Efrog Newydd.

5 Tachwedd: Dylan yn cwympo yng Ngwesty Chelsea, Efrog Newydd.

9 Tachwedd: Dylan yn marw yn Ysbyty St Vincent, a Caitlin yn dod â’i gorff yn ôl i Dalacharn.

“And nothing I cared, at my sky blue trades, that time allows
In all his tuneful turning so few and such morning songs
Before the children green and golden
Follow him out of grace”
Fern Hill

25 Tachwedd: Angladd Dylan yn Nhalacharn. Rai wythnosau ar ôl yr angladd, Caitlin yn gadael Talacharn i fynd i Elba, yr Eidal.

25 Ionawr 1954: Darllediad cyntaf y BBC o Under Milk Wood, gyda Richard Burton ym mhrif rôl y Llais Cyntaf.

Mai 1954: Cyhoeddiad cyntaf Under Milk Wood ar ffurf llyfr; gwerthwyd 13,000 o gopïau yn y mis cyntaf, a thros 53,000 yn y flwyddyn gyntaf.

Mai 1957: Cyhoeddi cofiant cyntaf Caitlin, Leftover Life to Kill.

Hydref 1957: Caitlin yn cwrdd â dyn golygus o Sicilia sy’n 11 mlynydd yn iau na hi, Giuseppe Fazio, sy’n gweithio yn niwydiant ffilmiau’r Eidal. Mae nhw’n ymgartrefu yn Catania.

Awst 1958: Mam Dylan, Florence, yn marw yn Nhalacharn.

Mawrth 1963: Yn 49 oed, Caitlin yn rhoi genedigaeth i’w phedwerydd plentyn, Francesco Fazio.

1982: Dadorchuddio plac i Dylan yng Nghornel y Beirdd, Abaty San Steffan.

1994: Caitlin yn marw ac yn cael ei chladdu yn Nhalacharn gyda Dylan.

1995: Agor Canolfan Dylan Thomas, Abertawe.

1997: Cyhoeddi Double Drink Story, cofiant Caitlin wedi’i olygu, ar ôl ei marwolaeth.

1998: Dathliad cyntaf Dylan Thomas, Abertawe.

2000: Marwolaeth mab hynaf Dylan, Llewelyn.

This post is also available in: English