Gorllewin Cymru

Dilynwch y llwybr drwy orllewin Cymru hyd at Fernhill, a ysbrydolodd Dylan Thomas i ysgrifennu’r gerdd enwog o’r un enw. Bydd y llwybr yn eich tywys i Dalacharn, lle ysgrifennodd Dylan ‘Dan y Wenallt’.

‘(Swansea) was my world; outside a strange Wales, coal-pitted, mountained, river run, full…of choirs and football teams and sheep and story book tall black hats and red flannel petticoats…..that unknown Wales with its wild names like peals of bells in darkness, and its mountain men clothed in the skins of animals perhaps and always singing…..’
Reminiscences of Childhood’

Dyma’r pedwerydd a’r arweiniad olaf yn ein cyfres, sy’n mynd â ni i’r gorllewin o ddinas Abertawe, sef lle ganwyd Dylan, i Gymru wledig ac arfordirol. Dyma Gymru wahanol, ‘Cymru ryfedd’, lle’r oedd cyndeidiau Dylan yn byw a lle aeth i ddianc i gael llonydd a thawelwch i ysgrifennu ac adfer.

Gallwch gyrraedd y lleoliadau hyn ar y trên ac ar y bws ond byddai teithio mewn car yn haws oherwydd bod llawer o’r lleoliadau y sonnir amdanynt oddi ar y prif ffyrdd ac ymhell o’r trefi.

Bydd y llwybr yn mynd â chi i ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol ac i drefi a phentrefi bach â chymeriad. Ar ôl i chi ymweld â Chanolfan Dylan Thomas a threulio ychydig o amser yn yr arddangosfa hon, bydd y daith hon yn rhoi ychydig mwy o wybodaeth i chi am y digwyddiadau a gafwyd yno, byddwch yn cael cyd-destun y digwyddiadau ac yn cael dealltwriaeth well o bwysigrwydd a dylanwad cymeriad a thirwedd Cymru ar fywyd a gwaith Dylan Thomas.

Taith gylchol yw’r llwybr sy’n dechrau ac yn gorffen yng Nghaerfyrddin – gan amgylchynu gorllewin Cymru. Byddai’n ddiwrnod prysur iawn neu’n ddeuddydd hamddenol da. Gan ddefnyddio Caerfyrddin fel man cychwyn, gellir cyrraedd rhai rhannau’n hawdd ar gludiant cyhoeddus.

 

Cyhoeddir Llwybr Gorllewin Cymru ar-lein yn fuan.

This post is also available in: English