Llwybrau Dylan Thomas

Os hoffech ymweld â’r lleoedd yr oedd Dylan Thomas yn eu hadnabod yn dda, beth am wneud hynny trwy ddilyn ein llwybrau?

Bydd y llwybrau’n mynd â chi i dirnodau cyfarwydd o gwmpas Abertawe, G?yr a De Cymru, er enghraifft, mae Llwybr yr Uplands yn eich arwain i 5 Cwmdonkin Drive lle ganed Dylan.

Mae Llwybr Gorllewin Cymru yn eich arwain i Dalacharn lle bu’n byw yn y Boat House ac yn ysgrifennu ‘Dan y Wenallt’, a hefyd yn eich arwain i Fferm Fern Hill, lle arhosai Dylan yn ei febyd.Rhoddodd y fferm ei henw i gerdd ryfeddol ‘Fern Hill’, sy’n ddathliad o ddiniweidrwydd plentyndod a’i golled anochel.

Mae’r arweinlyfrau i’r llwybrau’n llawn hanesion byr a sylwadau am fywyd Dylan yn y gwahanol leoliadau, ac rydym yn gobeithio y byddant yn helpu i roi blas ar fab enwocaf Abertawe.

Caiff Llwybrau Dylan Thomas eu cynhyrchu gan Ganolfan Dylan Thomas, ac maent ar gael yng Nghanolfan Dylan Thomas am £2 yr un, neu’r pedwar teitl am bris tri.

This post is also available in: English