Y Mwmbwls a Gŵyr

Roedd y Mwmbwls a Gŵyr yn rhan bwysig iawn o fywyd Dylan Thomas, er ei fod yn y bôn yn drefwr.

‘MUMBLES, a rather nice village, despite its name,
right on the edge of the sea’

‘GOWER is a very beautiful peninsula, some miles from
this blowsy town….as a matter of fact it is one of the
loveliest sea-coast stretches in the whole of Britain’.

Dyma sut mae Dylan yn disgrifio’r ardaloedd hyn o amgylch Abertawe yn ei lythyrau cynnar at ei gariad cyntaf, Pamela Hansford Johnson.

Roedd Dylan Thomas yn ei hanfod yr hyn a alwodd yn ‘drefwr’. Ysgrifennodd at ei gyfaill agos, Vernon Watkins, ‘I’m not a country man; I stand for….. the provincial drive, the morning café, the evening pub…’

Bu’n byw mewn trefi neu ddinasoedd am y rhan fwyaf o’i fywyd byr – Abertawe, Llundain, Rhydychen, Efrog Newydd, ond roedd cefn gwlad, yn arbennig cefn gwlad Cymru’n bwysig iawn yn ei fywyd, a chafodd ddylanwad mawr ar ei waith. Ceisia’r llwybr hwn dynnu sylw at rai o’r dylanwadau hyn.

Rhaid defnyddio car neu gludiant cyhoeddus i fynd ar y daith hon. Byddai’n well pennu diwrnod cyfan i weld y llwybr hwn yn llawn mewn car. Ar gludiant cyhoeddus, efallai y bydd yn well ei wneud mewn sawl taith.

 

Cyhoeddir Llwybr y Mwmbwls a Gŵyr ar y wefan yn fuan.

This post is also available in: English