Gweithgareddau a lawrlwythiadau

Cadwch lygad ar Facebook a Twitter am ragor o fanylion, a sgroliwch lawr i weld gweithgareddau y gellir eu lawrlwytho.

Cerdd Acrostic “Here in this Spring”

Ysgrifennwch gerdd acrostig gyda phob llinell yn dechrau gyda’r llythrennau sy’n sillafu’r gair ‘gwanwyn’.

Rhagor o wybodaeth

Hoffi Losin Dylan

Roedd Dylan yn dwlu ar fwyta losin… yn enwedig yn y bath! Allwch chi ddod o hyd i’r hoff losin roedd e’n hoffi eu bwyta?

Rhagor o wybodaeth

Ysgrifennwch eich ‘Return Journey’ eich hun – Dewiswch eich stori antur eich hun

Dewch i ni ysgrifennu ein ‘Return Journey’ ein hun, ond yn ein fersiwn ni, chi sy’n penderfynu beth sy’n digwydd nesaf! Ble byddwch chi’n mynd? Beth byddwch chi’n ei weld? Â phwy byddwch chi’n cwrdd? Chi fydd yn penderfynu ar drefn a chanlyniad yr antur hwn!

Rhagor o wybodaeth


Anifeiliaid Dylan: Creu pyped bys o bapur sgrap

Gwnewch byped bys papur sgrap, wedi’i ysbrydoli gan yr anifeiliaid roedd Dylan Thomas yn eu cynnwys yn ei gerddi! Mae’r gweithgaredd difyr a hawdd hwn yn berffaith i deuluoedd â phlant dan 6 oed, ond ‘dyn ni’n siŵr y bydd oedolion yn ei fwynhau’n fawr hefyd!

Rhagor o wybodaeth


Ysgogiadau Ysgrifennu Creadigol Anifeiliaid Dylan

Roedd Dylan Thomas yn cynnwys pob math o anifeiliaid ac adar yn ei waith, gan gynnwys octopws, cigfrain, cadnoid, cathod a gwlithod! Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu i ddechrau arni wrth i chi ysgrifennu eich cerddi a’ch straeon wedi’u hysbrydoli gan anifeiliaid.

Rhagor o wybodaeth


Taflen Liwio Cigfrain

Rydym wedi creu taflen liwio hyfryd ar eich cyfer sydd wedi’i ysbrydoli gan linell Dylan, ‘hearing the ravens cough in winter sticks’. Cofiwch dynnu llun a rhannu’ch creadigaethau gorffenedig â ni!

Lawrlwythwch y daflen liwio


Chwilair Anifeiliaid Dylan

Mae’r anifeiliaid yma i gyd yn dod o straeon, cerddi a darlledion Dylan. Gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw?

Lawrlwythwch y chwilair


Dot-i-dot malwoden

Rhowch gynnig ar ein gweithgaredd dot i ddot, wedi’i ysbrydoli gan greadur sy’n ymddangos mewn nifer o gerddi Dylan! A fydd e’n eich ysbrydoli i ysgrifennu eich cerdd eich hun hefyd?

Lawrlwythwch


Taflen Liwio Llwynogod

Rydym wedi dylunio taflen liwio hyfryd i chi wedi’i hysbrydoli gan linell Dylan, ‘the foxes on the hills barked clear and cold’ o’i gerdd wych, ‘Fern Hill’. Cofiwch rannu’ch creadigaethau gorffenedig â ni!

Lawrlwythwch y daflen liwio


Ysgogiadau Ysgrifennu’r Gaeaf

Dechreuwch stori gan ddefnyddio un o’r brawddegau cychwynnol hyn, pob un wedi’i addasu o gerdd Dylan Thomas, ‘A Winter’s Tale’ 👉🏻 https://loom.ly/SYXVkmk


Llwybr Peli Eira Dylan!

Rydym wedi creu Llwybr Pêl Eira yn ein harddangosfa i deuluoedd ei fwynhau’r mis Rhagfyr hwn! Allwch chi ddod o hyd i’r 9 Dylan bach? Eich gwobr yw pecyn gweithgareddau am ddim gwych i fynd ag ef adref gyda chi. Galwch heibio ddydd Mercher – dydd Sul rhwng 10am a 4pm.


Pecyn Gweithgareddau’r Nadolig

Dewch i weld ein harddangosfa dros wyliau’r Nadolig, a gallwch gasglu copi o’n pecyn gweithgareddau am ddim gwych. Mae’n llawn syniadau creadigol  y gall plant (ac oedolion!) o bob oedran roi cynnig arnynt gartref. Rydym ar agor ddydd Mercher – dydd Sul, rhwng 10am a 4pm.


Gêm Geiriau Jac y Rhew

Rydym wedi creu gêm geiriau ddifyr i chi, wedi’i hysbrydoli gan linell Dylan, ‘When cometh Jack Frost?’. Mwynhewch!

Lawrlwythwch y daflen waith


Cerdd Acrostic ‘A Winter’s Tale’

Byddwch yn greadigol gyda’n templed acrostig gaeafol! Defnyddiwch ein templed i’ch helpu i ysgrifennu cerdd dymhorol, a chofiwch ei rhannu â ni!

Lawrlwythwch dempled acrostig yr hydref


Taflen Liwio Llwynogod

Rydym wedi dylunio taflen liwio hyfryd i chi wedi’i hysbrydoli gan linell Dylan, ‘the foxes on the hills barked clear and cold’ o’i gerdd wych, ‘Fern Hill’. Cofiwch rannu’ch creadigaethau gorffenedig â ni!

Lawrlwythwch y daflen liwio


Chwilair ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’

Mae’r geiriau cudd yma o stori Dylan Thomas ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’.
Gwelwch os allwch chi ddarganfod nhw!

Lawrlwythwch y chwilair


Taflen Liwio Coeden Nadolig ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’

Rydym wedi dylunio taflen liwio ddifyr wedi’i hysbrydoli gan ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’. Mwynhewch fod yn greadigol cyn cwtsho lan gyda chopi o stori hudol Dylan i baratoi ar gyfer yr ŵyl.

Lawrlwythwch y daflen liwio


Baneri ‘A Child’s Christmas in Wales’

Hoffech chi greu addurn Nadolig unigryw ac ailddefnyddiadwy? Beth am roi cynnig ar ein baneri ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’? Mae’n weithgaredd gwych i bob oedran a gallwch wneud mor syml neu mor fanwl ag y dymunwch.

Rhagor o wybodaeth


Papur Ysgrifennu’r Gaeaf

Rydym wedi creu papur ysgrifennu unigryw a ysbrydolwyd gan ddarluniau Ellen Raskin ar gyfer stori hudol Dylan, ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’. Gallwch ei argraffu ac ysgrifennu at deulu a ffrindiau neu ei lawrlwytho a’i ddefnyddio i anfon e-bost arbennig.

Rhagor o wybodaeth


Gwneud cerdyn ‘A Winter’s Tale’

‘The far owl warning among the folds’.

Rydym wedi dylunio cerdyn tymhorol hyfryd yn seiliedig ar ‘A Winter’s Tale’ Dylan i chi ei rannu â theulu a ffrindiau. A fyddwch chi’n ei liwio neu’n ei adael fel mae?

Lawrlwytho


Gwneud cerdyn wedi’i ysbrydoli gan ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’

Roedd Dylan Thomas yn aml yn ysgrifennu am y Nadolig, gan ei drafod yn ei lythyrau ac yn fwyaf enwog, yn ei stori ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’.  Fe greodd rai delweddau hyfryd i’n helpu i ddychmygu Nadoligau ei blentyndod, ac rydyn ni’n defnyddio rhai o’r rhain fel ysbrydoliaeth ar gyfer rhai cardiau Nadolig arbennig a wnaed â llaw.

Gwneud cerdyn


Pecyn Gweithgareddau’r Hydref

Ydych chi’n dod i Ganolfan Dylan Thomas yr hanner tymor hwn? Beth am gasglu un o’n pecynnau gweithgareddau am ddim i’r teulu? Maen nhw’n llawn syniadau creadigol i chi eu harchwilio. Rydym yn hynod gyffrous i gyflwyno’n pecyn gweithgareddau ‘swynion hydrefol’ i’r teulu fel rhan o ŵyl #AmgueddfeyddCymru eleni! Rydym ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sul 10am tan 4pm.


Llwybr i DeuluoeddHere be Dragons!’

Mae angen darganfyddwyr dreigiau! Mae Dolores y Ddraig yn cuddio yng Nghanolfan Dylan Thomas! Allwch chi ein helpu i ddod o hyd iddi a darganfod pa lyfr mae’n ei ddarllen? Gall darganfyddwyr llwyddiannus gasglu gwobr fach o’n desg flaen.

Rhagor o wybodaeth


‘With his stick that picked up leaves’: Sut i greu symudyn yr hydref

D’yw addurniadau ddim ar gyfer y Nadolig yn unig! Beth am addurno’ch tŷ â dail hardd yr hydref sydd fel mae’n digwydd yn cwympo o’r coed? 

Gwnewch eich symudyn eich hun ar gyfer yn hydref


Taflen Liwio Pen-blwydd

Mae pen-blwydd Dylan ar 27 Hydref! Beth am ei helpu i ddathlu trwy liwio ein taflen a ddyluniwyd yn arbennig?

Lawrlwythwch daflen liwio pen-blwydd


Taflen Waith Pen-blwydd

Cafodd Dylan llawer o anrhegion am ei benblwydd yn 21. Allwch chi ddarganfod y geiriau am ei ddiwrnod arbennig isod?

Lawrlwythwch y chwilair pen-blwydd


Sbardun Ysgrifennu’r Hydref

Roedd Dylan yn aml yn ysgrifennu am yr hydref a’i ben-blwydd ym mis hydref. Rydym wedi rhoi rhai syniadau ysgrifennu at ei gilydd i’ch helpu i ddechrau ar eich darn creadigol tymhorol eich hun. Cofiwch rannu’ch cerddi a’ch straeon â ni!

Rhagor o wyboadaeth


Taflen Liwio ‘Autumnal Spells’

‘Some let me make you of autumnal spells’, ysgrifennodd Dylan Thomas. Mwynhewch ein taflen liwio sy’n dathlu ei ddawn gyda geiriau!

Lawrlwythwch daflen liwio


#DiwrnodCenedlaetholBarddoniaeth – Dewiswch eich geiriau!

Roedd Dylan yn aml yn creu ei restrau geiriau ei hun i’w helpu in lunio’i gerddi a sicrhau ei fod wedi dewis y geiriau gorau posib ar gyfer pob llinell. Ar gyfer #DiwrnodCenedlaetholBarddoniaeth, rydym wedi llunio gweithgarwch difyr i’ch ysbrydoli i greu eich cerddi’ch hun.

Rhagor o wybodaeth


Gweithgareddau Diwrnod y Llyfr

Mae Diwrnod y Llyfr, a gynhelir ar ddydd Iau cyntaf mis Mawrth bob blwyddyn, yn newid bywydau trwy gariad tuag at lyfrau a darllen a rennir. Rydym wedi llunio rhestr o weithgareddau amrywiol i’w mwynhau gartref neu yn yr ysgol. Cofiwch ddweud wrthym sut byddwch chi’n dathlu!

Rhagor o wybodaeth


Creu eich llyfr sbonc papur eich hun ar thema ‘Return Journey’

Gallwch greu eich llyfr sbonc unigryw eich hun o Abertawe, sy’n cynnwys rhai o’r adeiladau yr aeth Dylan heibio iddynt wrth gerdded drwy Abertawe yn ei ddrama radio ‘Return Journey’. Gallwch ddod o hyd i’r holl gyfarwyddiadau ar gyfer creu eich byd bach eich hun yma!

Rhagor o wybodaeth


Ysgrifennwch eich ‘Return Journey’ eich hun – Dewiswch eich stori antur eich hun

Dewch i ni ysgrifennu ein ‘Return Journey’ ein hun, ond yn ein fersiwn ni, chi sy’n penderfynu beth sy’n digwydd nesaf! Ble byddwch chi’n mynd? Beth byddwch chi’n ei weld? Â phwy byddwch chi’n cwrdd? Chi fydd yn penderfynu ar drefn a chanlyniad yr antur hwn!

Rhagor o wybodaeth


Anifeiliaid Dylan: Creu pyped bys o bapur sgrap

Gwnewch byped bys papur sgrap, wedi’i ysbrydoli gan yr anifeiliaid roedd Dylan Thomas yn eu cynnwys yn ei gerddi! Mae’r gweithgaredd difyr a hawdd hwn yn berffaith i deuluoedd â phlant dan 6 oed, ond ‘dyn ni’n siŵr y bydd oedolion yn ei fwynhau’n fawr hefyd!

Rhagor o wybodaeth


Taflen Liwio Cigfrain

Rydym wedi creu taflen liwio hyfryd ar eich cyfer sydd wedi’i ysbrydoli gan linell Dylan, ‘hearing the ravens cough in winter sticks’. Cofiwch dynnu llun a rhannu’ch creadigaethau gorffenedig â ni!

Lawrlwythwch y daflen liwio


Chwilair Anifeiliaid Dylan

Mae’r anifeiliaid yma i gyd yn dod o straeon, cerddi a darlledion Dylan. Gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw?

Lawrlwythwch y chwilair


Ysgogiadau Ysgrifennu Creadigol Anifeiliaid Dylan

Roedd Dylan Thomas yn cynnwys pob math o anifeiliaid ac adar yn ei waith, gan gynnwys octopws, cigfrain, cadnoid, cathod a gwlithod! Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu i ddechrau arni wrth i chi ysgrifennu eich cerddi a’ch straeon wedi’u hysbrydoli gan anifeiliaid.

Rhagor o wybodaeth


Taflen Liwio Llwynogod

Rydym wedi creu taflen liwio hyfryd ar eich cyfer sydd wedi’i ysbrydoli gan linell Dylan, ‘the foxes on the hill barked clear and cold’, Cofiwch dynnu llun a rhannu’ch creadigaethau gorffenedig â ni!

Lawrlwythwch y daflen liwio


Papur Ysgrifennu’r Gaeaf

Bob blwyddyn yng Nghanolfan Dylan Thomas, rydym yn croesawu teuluoedd i gymryd rhan yn ein gweithgareddau’r gaeaf. Eleni rydym wedi sicrhau bod un o’n gweithgareddau mwyaf poblogaidd ar gael ar-lein, gyda detholiad o Bapurau Ysgrifennu y gallwch eu lawrlwytho am ddim.

Rhagor o wybodaeth


Gêm Geiriau Jac y Rhew

Sawl gair gwahanol gallwch chi greu o’r llythrennau yn yr enw Sioni Rhew?

Lawrlwythwch y daflen waith


Chwilair ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’

Mae’r geiriau cudd yma o stori Dylan Thomas ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’.
Gwelwch os allwch chi ddarganfod nhw!

Lawrlwythwch y chwilair


Taflen Liwio Coeden Nadolig ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’

Lawrlwythwch y daflen liwio


Gwneud cerdyn wedi’i ysbrydoli gan ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’

Roedd Dylan Thomas yn aml yn ysgrifennu am y Nadolig, gan ei drafod yn ei lythyrau ac yn fwyaf enwog, yn ei stori ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’.  Fe greodd rai delweddau hyfryd i’n helpu i ddychmygu Nadoligau ei blentyndod, ac rydyn ni’n defnyddio rhai o’r rhain fel ysbrydoliaeth ar gyfer rhai cardiau Nadolig arbennig a wnaed â llaw.

Gwneud cerdyn


Taflen Waith Adar yr Hydref

Roedd Dylan yn cynnwys llawer o adar yn ei gerddi am yr hydref. Allwch chi eu gweld?

Lawrlwythwch y chwilair


Taflen Waith Pen-blwydd

Cafodd Dylan llawer o anrhegion am ei benblwydd yn 21. Allwch chi ddarganfod y geiriau am ei ddiwrnod arbennig isod?

Lawrlwythwch y chwilair pen-blwydd


Dyluniwch deisen pen-blwydd i Dylan!

Allwch chi ddylunio cacen pen-blwydd iddo fwynhau ar ei ddiwrnod arbennig?

Lawrlwythwch dempled teisen pen-blwydd


Taflen Liwio Pen-blwydd

Mae pen-blwydd Dylan ar 27 Hydref! Beth am ei helpu i ddathlu trwy liwio ein taflen a ddyluniwyd yn arbennig?

Lawrlwythwch daflen liwio pen-blwydd


Cerdd Acrostic ‘In rainy autumn’

Ysgrifennwch gerdd acrostig gyda phob llinell yn dechrau gyda’r llythrennau sy’n sillafu’r gair ‘hydref’.

Lawrlwythwch dempled acrostig yr hydref


‘With his stick that picked up leaves’: Sut i greu symudyn yr hydref

D’yw addurniadau ddim ar gyfer y Nadolig yn unig! Beth am addurno’ch tŷ â dail hardd yr hydref sydd fel mae’n digwydd yn cwympo o’r coed? 

Gwnewch eich symudyn eich hun ar gyfer yn hydref


Llwybr Cerdded Dylan Thomas o gwmpas Marina Abertawe

Os ydych chi’n byw ger Marina Abertawe, beth am ychwanegu ychydig o ddiwylliant at eich sesiwn ymarfer corff ddyddiol a mwynhau taith gerdded ar thema Dylan drwy ran o’r Ardal Forol? Hyd y daith gerdded wastad hon yw tua 1 cilometr, a gall gymryd hyd at 20-25 munud.

Llwybr Cerdded Dylan Thomas o gwmpas Marina Abertawe

This post is also available in: English