Canol Dinas Abertawe

Mae’r hyn y mae preswylwyr ac ymwelwyr Abertawe’n ei weld heddiw’n Abertawe wahanol iawn i’r lle y magwyd Dylan Thomas. Hyd yn oed yn ystod ei fywyd, roedd Blitz Tair Noson Luftwaffe’r Almaen wedi bomio enaid y ddinas, gan adael delwedd ddiffaith a ddisgrifiodd Dylan mewn darn llawn emosiwn ar y radio, sef Return Journey (a ddarlledwyd am y tro cyntaf ym 1947).

Ers hynny, mae’r ailddatblygiad wedi newid gwedd y ddinas ymhellach – mae ‘ugly lovely town’ Dylan bellach yn ddinas. Fodd bynnag, mae gan y ddinas gyfoeth o greiriau cadarn o bwys o hyd, olion ac atgofion Abertawe Dylan i’w darganfod. Mae gwir ddarlun pensaernïaeth hyfryd cyn y rhyfel dal i’w gweld. Mae ymlwybro drwy Abertawe heddiw yn dal i roi cipolwg ar Abertawe Dylan lle cafodd ei fagu, lle bu’n gweithio ac yn chwarae. Mwynhewch eich hun wrth i chi grwydro drwy ddylanwad mwyaf un o’r beirdd gorau.

Cyhoeddir Llwybr Canol Dinas Abertawe ar-lein cyn bo hir.

This post is also available in: English