Y 1940au

1940 – 1949

1940

Mis Mawrth/mis Ebrill: Symud yn ôl i Sea View, Talacharn.

4 Ebrill: Cyhoeddi Portrait of the Artist as a Young Dog, casgliad lled-hunangofiannol Dylan o straeon byrion, gan JM Dent a’i Feibion Cyf.

“A story I had made in the warm, safe island of my bed, with sleepy midnight Swansea flowing and rolling round outside the house, came blowing down to me then with a noise on the cobbles.”
The Peaches

Mis Mai: Dylan yn methu prawf meddygol y fyddin yn Llandeilo, Sir Gâr.

Mis Mai: Dylan a Caitlin yn symud o Sea View i aros gyda’i rieni yn Llandeilo Ferwallt, gan ddychwelyd ar ôl i ffrindiau dalu eu dyledion yn Nhalacharn.

Mis Mehefin/mis Awst: Aros gyda John Davenport yn The Maltings, Marshfield, mewn parti t? o gerddorion ac artistiaid.

Mis Gorffennaf: Dylan a Caitlin yn gadael Talacharn i fynd i Lundain.

Mis Medi: Dylan yn dechrau gweithio ar gyfer Ffilmiau Strand, ac mae ei waith ar ran Strand yn parhau drwy’r rhyfel.

24 Medi: Cyhoeddi Portrait of the Artist as a Young Dog yn yr Unol Daleithiau.

Mis Rhagfyr/mis Ebrill: Dylan a Caitlin yn aros yn Llandeilo Ferwallt.

“Young Mr Thomas was … without employment … he was penniless, and hoped, in a vague way, to live on women.”
Where Tawe Flows

1941

Mis Mai/mis Gorffennaf: Dylan a Caitlin yn aros yn Castle House yn Nhalacharn gyda Frances Hughes.

Mis Awst: Dylan a Caitlin yn symud yn ôl i Lundain, gan adael Llewelyn gyda’i theulu yn Ringwood.

1942

Mis Gorffennaf: Gwasg Fortune Press yn cyhoeddi ail argraffiad o 18 Poems.

Dylan a Caitlin yn rhentu stiwdio un ystafell yn Stiwdios Wentworth, Heol Manresa, Llundain SW3, sy’n parhau fel cartref iddynt yn Llundain am nifer o flynyddoedd.

Yn ystod 1942-44, mae Caitlin yn aros o bryd i’w gilydd yn Nhalacharn ac yn Nhalsarn, Sir Gâr, tra bod Dylan yn rhannu ei amser rhwng y fan yno a Llundain.

“There shall be corals in your beds,
There shall be serpents in your tides,
Till all our sea-faiths die”
Where once the waters of your face

1943

Gwaith parhaus Dylan fel darlledwr yn dechrau.

Mis Chwefror: Cyhoeddi New Poems yn yr Unol Daleithiau gan New Directions.

“To take to give is all, return what is hungrily given
Puffing the pounds of manna up through the dew to heaven,
The lovely gift of the gab bangs back on a blind shaft.” (‘On no work of words’)

3 Mawrth: Geni Aeronwy Bryn Thomas yn Llundain.

“Sleep, good, for ever, slow and deep, spelled rare and wise,
My girl ranging the night in the rose and shire
Of the hobnail tales” (‘In Country Sleep’)

1944

Mis Ebrill/mis Mehefin: Dylan a Caitlin yn aros yn Far End, Old Bosham, i osgoi cyrchoedd awyr Llundain, ac yna’n symud i Hedgerley Dean, ger Beaconsfield, i aros gyda Donald Taylor. Cyflogwyd Dylan gan Taylor gyda’r BBC fel sgriptiwr tan 1945.

Mis Gorffennaf/mis Awst: Aros gyda rhieni Dylan, sydd bellach wedi symud i Flaen Cwm, Llangain.

Mis Medi: Symud i Majoda, Ceinewydd, Ceredigion, lle mae Dylan yn ysgrifennu nifer o gerddi enwog a’r darllediad radio ‘Quite Early One Morning’, lle gwnaeth arbrofi gyda’r ffurf, y cymeriadau a’r syniadau a ddatblygodd yn Under Milk Wood.

2 Hydref: Dylan yn absennol o briodas Vernon Watkins, lle roedd i fod yn was priodas.

1945

Mis Awst/mis Medi: Aros ym Mlaen Cwm.

Mis Rhagfyr/mis Mawrth 1947: Dylan a Caitlin yn treulio’r Nadolig gyda’r hanesydd AJP Taylor a’i wraig Margaret yn Holywell Ford, Rhydychen, ac yna’n symud i mewn i’w t? haf ar waelod yr ardd, er mawr anniddigrwydd i AJP Taylor. Margaret oedd un o noddwyr pwysicaf Dylan.

Rhwng mis Rhagfyr 1945 a mis Mai 1949, gwnaeth Dylan ysgrifennu, adrodd neu gymryd rhan mewn dros gant o raglenni radio BBC.

1946

7 Chwefror: Cyhoeddi Deaths and Entrances gan JM Dent a’i Feibion Cyf.

Mis Awst: Dylan a Caitlin yn treulio pedwar diwrnod yn Ffair Puck yn Cahirciveen, Swydd Kerry, gyda’u ffrindiau Bill a Helen McAlpine.

Diwedd mis Awst: Aros ym Mlaen Cwm.

8 Tachwedd: Cyhoeddi Selected Writings of Dylan Thomas yn yr Unol Daleithiau gan New Directions.

1947

26 Mawrth: Cymdeithas yr Awduron yn dyfarnu Ysgoloriaeth Deithiol £150 i Dylan gydag argymhelliad y dylai ymweld â’r Eidal.

Mis Ebrill/mis Awst: Dylan a Caitlin a’i chwaer Brigid yn cymryd y teulu i aros yn Rapallo i ddechrau, ac yna i Fflorens ac Elba. Yn Fflorens, Dylan yn ysgrifennu ‘In Country Sleep’.

“Lie in grace. Sleep spelled at rest in the lowly house
In the squirrel nimble grove, under linen and thatch
And star:”
In Country Sleep

15 Mehefin: Y BBC yn darlledu ei raglen ar ddinistriad Abertawe ei ieuenctid, ‘Return Journey’:

“I … walked down High Street, past the flat white wastes where all the shops had been …. shops bombed and vanished.”

Mis Mehefin: Margaret Taylor yn prynu’r Plasty yn South Leigh, Swydd Rydychen, i deulu Thomas.

Mis Medi: Dylan a Caitlin yn symud i South Leigh ar ôl dychwelyd o Elba.

1948

Mis Mawrth/mis Ebrill: Dylan yn ymweld â’i rieni ym Mlaen Cwm ac yn mynd i Dalacharn, gan obeithio dod o hyd i rywle yno i’w deulu fyw.

Mis Ebrill: DJ a Florence yn cyrraedd South Leigh.

Yr haf: Dylan yn dechrau gweithio ar ei dair sgript ffilm ar ran Ffilmiau Gainsborough – Me and My Bike, Rebecca’s Daughters a The Beach at Falesa – ond mae’r cwmni’n methdalu cyn i unrhyw un o’r ffilmiau gael ei chynhyrchu.

Mis Hydref: Margaret Taylor yn ymweld â Thalacharn i weld a yw’n gallu dod o hyd i d? yno i deulu Thomas; mae’n ceisio prydlesu Castle House ac yn nes ymlaen yn prynu’r T? Cwch. Mae Dylan yn ysgrifennu ati i ddiolch: “You have given me a life … and now I am going to live it.”

1949

Mis Mawrth: Llyfrau Guild yn cyhoeddi argraffiad clawr meddal o Portrait of the Artist as a Young Dog.

4 Mawrth: Dylan yn ymweld â Prague am ychydig ddiwrnodau fel gwestai i Undeb Awduron Tsiecoslofacia.

Mis Mai: Dylan a’i deulu’n symud i’r T? Cwch yn Nhalacharn; symudodd ei rieni i Pelican, t? gyferbyn â Westy Brown. Yn ei ‘Ragair’ i’w Collected Poems, mae Dylan yn galw’r T? Cwch, “My seashaken house / On a breakneck of rocks”.

24 Gorffennaf: Geni Colm Garan Hart Thomas.

This post is also available in: English