Gwaith Dylan

Dylan Thomas in Laugharne with Sir Johns hill in the distanceYsgrifennodd Dylan yn doreithiog o oed cynnar iawn, gyda’i gerdd gyntaf yn cael ei chyhoeddi yng nghylchgrawn ei ysgol.

Cynhyrchodd waith ar sawl ffurf, gan gynnwys sgriptiau ar gyfer darllediadau radio, dramâu radio, straeon byrion, ffilmiau a nofel heb ei gorffen, er ei fod fwyaf adnabyddus am ei farddoniaeth.

Ymhlith cerddi mwyaf poblogaidd Dylan mae ‘Do Not Go Gentle Into That Good Night’ ac ‘And Death Shall Have No Dominion’. Roedd hefyd yn cynnwys barddoniaeth yn ei ddrama enwog i leisiau, ‘Dan y Wenallt’.

“Though they sink through the sea they shall rise again;
Though lovers be lost love shall not
And death shall have no dominion”
And death shall have no dominion

18 Poems (1934)
Casgliad cyntaf Dylan o gerddi, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 1934, mis wedi’i ben-blwydd yn ugain oed.
Mwy am 18 Poems (1934)

A Child’s Christmas in Wales
Mae stori Nadoligaidd boblogaidd Dylan ar gael fel llyfr ar ei phen ei hun, neu mewn sawl cyhoeddiad gwahanol o wahanol feintiau. Mae fersiwn Gymraeg ar gael hefyd.
Mwy am A Child’s Christmas in Wales

Collected Letters
Dylan Thomas – the Collected Letters, golygwyd gan Paul Ferris (Llundain: Dent, 2000)
Mwy am Collected Letters

Collected Poems 1934 – 1953
Dylan Thomas – Collected Poems. Golygwyd gan Walford Davies a Ralph Maid (Llundain: Phoenix, 2003.)
Mwy am Collected Poems 1934-1953

Deaths and Entrances (1946)
Casgliad mwyaf adnabyddus Dylan, mae Deaths and Entrances yn cynnwys sawl cerdd sydd wedi llunio blodeugerdd yn ddiweddarach.
Mwy am Deaths and Entrances (1946)

Dylan Thomas – Collected Stories
Dylan Thomas – Collected Stories, golygwyd gan Walford Davies, cyflwyniad gan Leslie Norris (Llundain: Phoenix, 2000)
Mwy am Dylan Thomas – Collected Stories

Dylan Thomas – The Broadcasts
Dylan Thomas – The Broadcasts, golygwyd a chyflwyniad gan Ralph Maud (Llundain: Dent, 1991)
Mwy am Dylan Thomas – The Broadcasts

Dylan Thomas – The Filmscripts
Dylan Thomas – The Filmscripts, golygwyd gan John Ackerman (Llundain: Dent, 1995)
Mwy am Dylan Thomas – The Filmscripts

The Map of Love (1939)
Cyhoeddwyd The Map of Love, casgliad o farddoniaeth a rhyddiaith, ar 24 Awst 1939, ond taflwyd derbyniad y llyfr i’r cysgod yn llwyr gan ddechrau’r rhyfel.
Mwy am The Map of Love (1939)

The Notebook Poems
Dylan Thomas: The Notebook Poems 1930-34, golygwyd gan Ralph Maud (Llundain: Everyman, 1999)
Mwy am The Notebook Poems

Twenty-Five Poems (1936)
Cyhoeddwyd dwy flynedd ar ôl ei gasgliad cyntaf, gyda Dylan yn pori’u nodiaduron unwaith eto ar gyfer Twenty-Five Poems
Mwy am Twenty-Five Poems (1936)

Under Milk Wood
Cyhoeddwyd ‘drama i leisiau’ enwog Dylan yn gyntaf fel llyfr ym 1954, ac nid yw erioed wedi bod allan o brint.
Mwy am Under Milk Wood

This post is also available in: English