Abertawe Dylan

Roedd nifer o leoedd yn Abertawe yn dylanwadu ar waith Dylan, o dafarnau i draethau, mae’n gymysgwch amrywiol. Bydd ein harweiniad i’w hoff leoedd yn eich helpu i ddilyn ôl ei droed a dysgu mwy am ei fywyd a’i waith.

 

Canolfan Dylan Thomas

dylan thomas centre

Fe’i hadeiladwyd yn wreiddiol ym 1825 a dyma oedd Neuadd y Ddinas. Mae Canolfan Dylan Thomas yn Ardal Forol Abertawe ger glan orllewinol Afon Tawe. Mae’n agos at ganol dinas Abertawe ac fe’i cysylltwyd yn ddiweddar â ‘Glannau SA1’, sef ardal ddociau adnewyddedig ar lan ddwyreiniol y Tawe, gan yr ‘hwylbont’ eiconig. Mae safleoedd diwylliannol a threftadaeth eraill o fewn pellter cerdded yn cynnwys Amgueddfa Abertawe, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Oriel Gelf Glynn Vivian a Theatr y Grand.

Mae Canolfan Dylan Thomas yn gartref i Arddangosfa Dylan Thomas a thîm curaduron a llenyddiaeth y cyngor; mae hefyd yn bwynt ffocal ar gyfer rhaglen llenyddiaeth fywiog Abertawe.

 

5 Rhodfa Cwmdoncyn – Cartref Genedigol Dylan Thomas

5 Rhodfa Cwmdoncyn yn yr Uplands, Abertawe yw cartref genedigol Dylan Thomas, a gallwch ymweld â’r ystafell wely lle gwnaeth un o feirdd ac ysgrifenwyr gorau’r 20fed ganrif roi pen ar bapur am y tro cyntaf a mynd yn ei flaen i greu dros hanner o’i holl farddoniaeth.

Chwaraeodd y tŷ a’r ardal o’i amgylch ran enfawr wrth lunio arddull ac allbwn Dylan Thomas. Ganed ef yn ystafell wely blaen y tŷ ym 1914 a pharhaodd i fyw yn Rhif 5 nes iddo symud i Lundain ym 1934. Mae’r tŷ’n agored ar gyfer teithiau tywys gan ei wneud yn atyniad unigryw i ymwelwyr.

 

Parc Cwmdoncyn

CwmdonkinPrynodd Cyngor Abertawe dir ger cronfa ddŵr Cwmdoncyn er mwyn creu parc a agorodd ym 1874. Yn y 1950au, cafodd y gronfa ddŵr ei llenwi â rwbel a’i thirlunio i greu ardal chwarae i blant. Gan mai dyma oedd y parc agosaf at gartref plentyndod Dylan Thomas, treuliodd y darpar awdur lawer o amser yn chwarae yno. Mae sôn am y parc yn aml yn y darllediadau radio ‘Return Journey’ a ‘Reminiscences of Childhood’ ac, yn fwy enwog, y gerdd ‘The Hunchback in the Park’. Ar ôl gwaith adfer helaeth gwerth £1.39 miliwn, ail-agorodd y parc yn 2013 mewn pryd i ddathlu canmlwyddiant geni Dylan Thomas yn 2014.
 

Uplands Tavern

Dafliad carreg o fan geni Dylan Thomas yn 5 Rhodfa Cwmdoncyn, mae Uplands Tavern. Roedd Dylan yn mynychu’r Uplands Hotel (fel y’i gelwid) yn aml yn y 1930au. Dilynodd awdur gwych arall, Kingsley Amis, darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe, ôl troed Dylan yn y 1950au fel ymwelydd rheolaidd. Mae ‘Cwtsh’ Dylan Thomas yn parhau i fod yn nodwedd yn y dafarn, sy’n cynnwys bar canolog, byrddau pool, llwyfan ar gyfer cerddoriaeth fyw ac ardal eistedd yn yr awyr agored.

 

Rhossili

Rhossili-Bay-CCS

Aeth Dylan Thomas, Sydney Evans, Dan Davies a George Hooping (Little Cough) i wersylla yn Rhosili ar Benrhyn Gŵyr am bythefnos. Roedd siarad â merched hŷn o’r coleg hyfforddiant yn un o’r atyniadau i’r grŵp, ond cawsant eu pryfocio (yn enwedig Little Cough), gan ddau fachgen hŷn. Roeddent yn ei watwar ac yn galw Cough yn ‘extraordinary’ am nad oedd yn athletaidd, ac felly er mwyn profi nad oedd hyn yn wir, rhedodd hyd traeth Rhosili gan ysbrydoli stori fer hyfryd Dylan Thomas, ‘Extraordinary Little Cough’.

 

Alfred Janes, Dylan Thomas, 1934 (c) Artist's Estate
Alfred Janes, Portrait of Dylan Thomas, 1934 (c) Artist’s Estate

Caffi Kardomah

Roedd Caffi Kardomah ar Stryd y Castell, Abertawe; dyma lle roedd Dylan Thomas a’r ‘Kardomah Gang’ yn arfer cwrdd. Grŵp o artistiaid, cerddorion, beirdd ac ysgrifenwyr a oedd yn mynd i’r Caffi yn aml yn y 1930au oedd y Kardomah Gang. Roedd y selogion yn cynnwys y beirdd Charles Fisher, Dylan Thomas, John Prichard a Vernon Watkins, y cyfansoddwr a’r ieithydd Daniel Jones, yr artistiaid Alfred Janes a Mervyn Levy, Mabley Owen a Tom Warner. Cyn iddo fod yn gaffi, roedd yn gapel lle y priododd rhieni Dylan, D.J. a Florrie.

Ym mis Chwefror 1941, bomiwyd Abertawe yn wael gan y Luftwaffe yn y ‘Blitz Tair Noson’. Un o’r nifer o’r strydoedd a ddioddefodd waethaf yn Abertawe oedd Stryd y Castell; dinistriwyd y rhesi o siopau gan gynnwys Caffi Kardomah. Ar ôl y bomio, daeth Dylan Thomas yn ôl i ymweld ag Abertawe. Soniodd am y difrod yn ei ddrama radio, ‘Return Journey’. Yn y ddrama, mae’n disgrifio’r caffi fel “Razed to the snow”.

Ail-agorodd Caffi Kardomah ar ôl y rhyfel mewn lleoliad newydd yn Stryd Portland, ddim yn bell o lle safai’r y Caffi gwreiddiol. Mae’r caffi yn parhau i fod yn fusnes llwyddiannus.

 

Salubrious Passage

Mae Salubrious Passage yn agos at un o dafarnau gorau Dylan yn Abertawe, ‘No Sign Wine Bar’; mae’r ‘Passage’ yn gul ac yn cysylltu Stryd y Gwynt â Ffordd y Dywysoges. Cyfeirir ato fel ‘Paradise Alley’ yn stori ysbryd Dylan, ‘The Followers’.

Roedd gan un o ffrindiau ecsentrig Dylan, Alban Leyshon, dyfeisiwr, gof aur a chrefftwr, weithdy yn uchel uwchben ‘Salubrious Passage’. Byddai Alban a Dylan yn gwresogi ceiniogau ar wresogydd Bunsen, eu gollwng ar y stryd ac yn gwylio cerddwyr diarwybod yn llosgi eu bysedd arnynt.

Hanner ffordd ar hyd Salubrious Passage mae swyddfa pensaer sy’n cynnwys ceriwb yn hedfan gyda thri llyfr marmor wedi’u hengrafu â dyfyniad o ‘Fern Hill’: “as I was young and easy”.

 

No Sign Wine Bar

Mae’n farn boblogaidd mai No Sign Wine Bar ar Stryd y Gwynt yw tafarn hynaf Abertawe. Mae’r seleri gwin yn dyddio yn ôl i’r 1400au ac ym 1930 roeddent yn cael eu defnyddio fel Cromgell Win yn stori fer Dylan Thomas, ‘The Followers’.

Munday’s Wine Merchants oedd ei enw yn wreiddiol; daeth yr enw “No Sign” o’r ddeddfwriaeth trwyddedi. Roedd yn ofyniad cyfreithiol i bob tŷ cyhoeddus a oedd yn gwerthu alcohol gael arwydd adnabyddadwy. Fodd gan bynnag, gan mai bar ac nid tŷ cyhoeddus oedd yr adeilad, nid oedd arwydd wedi cael ei ddyrannu. Cywirwyd hyn, a chyflwynwyd y teitl “No Sign” i’r Bar yn swyddogol.

Roedd y 1930au yn gyfnod aur ar gyfer Dinas Abertawe a chyda cherddorion, ysgrifenwyr ac artistiaid ymhlith ei gwsmeriaid rheolaidd, daeth No Sign yn fan poblogaidd bohemaidd creadigol pwysig. Roedd yn agos at weithle Dylan Thomas yn swyddfeydd y ‘South Wales Daily Post’; roedd ef a’r ‘Kardomah Gang’ yn gwsmeriaid rheolaidd yn y bar.

 

Bay View

Swansea-Beach-adj-Bay-View
(c) West Glamorgan Archive Service

Mae tirnod hanesyddol y Bay View ar Heol Ystumllwynarth yn ardal San Helen, Abertawe, yn rhoi darlun o deithio, chwaraeon a hamdden yng nghyfnod Dylan Thomas. Ymhlith rhai o hoff dafarnau Dylan, roedd yn fan gorffwys glan môr poblogaidd i deithwyr ar reilffordd enwog Abertawe – y Mwmbwls. Mae’n hawdd dychmygu Dylan a’i ffrindiau yn mwynhau cwrw a’r olygfa ar eu ffordd i weld gêm o griced ym Maes Chwarae San Helen neu ar eu ffordd adre.

Treuliodd Dylan lawer o oriau yn San Helen yn gwylio Morgannwg a daeth yn ffrindiau da gyda’r sylwebydd criced enwog, John Arlott. Roedd Arlott hefyd yn gynhyrchydd radio, a defnyddiodd Dylan ar gyfer nifer o berfformiadau ar Wasanaeth y Byd y BBC.

Mae cofnod o John Arlott yn dweud yr arferai Dylan fenthyg arian ganddo o hyd ond roedd bob amser yn ei dalu’n ôl, ar wahân i un waith pan fenthycodd Dylan £5 er mwyn mynd i America; dyma oedd ei daith olaf, a gwaetha’r modd ni ddychwelodd.

Roedd Dylan hefyd yn hoff o redeg, a chariodd lun wedi’i dorri o bapur newydd gydag ef nes iddo farw – llun ohono’n ennill ras filltir Ysgol Ramadeg Abertawe ym Maes Chwarae San Helen pan oedd yn 12 oed.

This post is also available in: English