Môr-ladron, tywysogesau a minions…mae’n Ddiwrnod y Llyfr

Môr-ladron, tywysogesau a minions oedd rhai yn unig o’r cymeriadau lliwgar a welwyd yng Nghanolfan Dylan Thomas ddydd Iau diwethaf wrth i ni ddathlu Diwrnod y Llyfr.

World Book Day DTC-6web

Gellid clywed sŵn straeon a chwerthin 60 o blant cyffrous o Ysgol Gynradd Casllwchwr a oedd yn ymweld â’r ganolfan, wedi’u gwisgo’n lliwgar fel cymeriadau o’u hoff lyfrau.

Bu disgyblion blwyddyn tri a phedwar yn mwynhau teithiau tywys o’r arddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’ a oedd yn archwilio bywyd a gwaith Dylan Thomas drwy arddangosiadau rhyngweithiol, recordiadau sain a gwrthrychau cysylltiedig.

World Book Day DTC-8web

Creu straeon yn y ardal ddysgu

Fe’u croesawyd hefyd i’n hardal ddysgu ddynodedig lle cawsant eu hannog i greu eu straeon a’u cerddi creadigol eu hunain mewn gweithdy ysgrifennu creadigol arbennig a arweiniwyd gan yr awdur a’r cartwnydd, Sion Tomos Owen.

“Mae’r plant wedi mwynhau dod i adnabod Dylan Thomas, ei fywyd a rhai o’i weithiau.

“Mae’r arddangosfa’n addysgiadol ac yn ddiddan, ac mae tîm addysg y ganolfan wedi cyflwyno detholiad o weithgareddau sydd wedi ysbrydoli meddyliau ifanc ein disgyblion, gan roi hyder iddynt greu eu straeon a’u cerddi eu hunain.

“Mae mynd â dysgu allan o’r ystafell ddosbarth i amgylcheddau megis arddangosfa Dylan Thomas yn ysgogi plant mewn ffordd wahanol, gan helpu i wella cyrhaeddiad disgyblion.”

Mr Rhys Sandels, Ysgol Gynradd Casllwchwr (a ddaeth wedi gwisgo fel Mr Cadno Campus!)

World Book Day DTC-16web

Bu teuluoedd yn mwynhau’r hwyl hefyd!

World Book Day DTC-35web

Nid pobl ifanc Casllwchwr oedd yr unig rai i fwynhau hwyl Diwrnod y Llyfr yn y ganolfan. Yn y prynhawn, cawsom sesiynau galw heibio lle gwahoddwyd teuluoedd i greu eu llyfrau eu hunain i’w llenwi â straeon. Roedd llawer wedi paentio eu hwynebau fel cymeriadau o lyfrau, megis Mog a’r Teigr a ddaeth i de!

Rhywbeth poblogaidd ymysg y gweithgareddau ar gynnig yn Ardal Ddysgu’r Ganolfan oedd y pypedau anifeiliaid. Mae’r pypedau’n cynrychioli rhai o’r anifeiliaid sy’n cael eu cynnwys ym marddoniaeth Dylan a gellir eu gweld ar y llwybr i blant yn yr arddangosfa, megis y falwoden o ‘Poem in October’ Dylan, sy’n darllen ‘the sea wet church the size of a snail’ neu gigfran o’r llinell ‘Hearing the raven cough in winter sticks’.

 

“Mae pawb yn gwybod bod y gallu i ddarllen ac ysgrifennu’n helpu pobl i ddatblygu mewn bywyd, ond bellach mae tystiolaeth gynyddol fod darllen er pleser yn gallu gwella lles pobl drwy gydol eu bywyd hefyd.

“Mae digwyddiadau fel Diwrnod y Llyfr yn cynnig ffordd llawn hwyl a chyffrous i bobl fwynhau darllen, ac rwy’n falch ein bod yn gallu rhoi cyfle i blant ifanc a’u teuluoedd gymryd rhan.”

Y Cynghorydd Mark Child, Aelod y Cabinet dros Les a Dinas Iach, Dinas a Sir Abertawe

Tynnu dysgu allan o’r ystafell ddosbarth i ysbrydoli meddyliau ifanc

Mae’r arddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’ yn archwilio bywyd a gwaith Dylan drwy arddangosfeydd rhyngweithiol, recordiadau a gwrthrychau cysylltiedig. Drwy ardal ddysgu ddynodedig, rydym yn gallu rhoi cyfle i ysgolion lleol ddod i ddysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth, i ddod i adnabod Dylan yn well mewn ffordd hwyliog, ac i helpu plant ifanc i ddatblygu eu sgiliau llythrennedd.

“Roedd hi’n wych gweld pa mor ysbrydoledig yr oedd y plant gan yr arddangosfa, y gweithgareddau a’r llyfrau y daethant â hwy gyda nhw.

“Un o fy hoff eiliadau oedd pan y dechreuodd disgybl ifanc o Gasllwchwr, heb anogaeth o gwbl, ysgrifennu ei gerdd ei hun, ar ôl darllen a gwrando ar gerdd Dylan ‘Do not go gentle into that good night’.

“Cafodd bawb gymaint o hwyl yn dathlu Diwrnod y Llyfr ac ystyried cyngor Dylan ‘i ddwlu ar y geiriau’, ac rydym yn edrych ymlaen at ddarllen y cerddi a’r straeon a ysbrydolwyd yn ystod y dydd.”

Nicola Kelly, Swyddog Dysgu, Canolfan Dylan Thomas

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am arddangosfa Dylan Thomas, ‘Dwlu ar y Geiriau’, a chyfle i ddysgu y tu allan i’r ystafell ddosbarth, ffoniwch ein swyddog dysg, Nicola Kelly, ar 01792 463980 neu e-bostiwch nicola.kelly@swansea.gov.uk.

This post is also available in: English