Allgymorth a Dysgu

*Diweddariad i’n cwsmeriaid – Croeso nôl, rydym wedi gweld eich eisiau!*

Ein horiau agor dros dro yw 10am i 4pm ddydd Mercher i ddydd Sul. Does dim angen i chi gadw slot i ymweld, ond byddwn yn monitro niferoedd ar y safle i sicrhau bod digon o le i bobl cadw pellter corfforol oddi wrth ei gilydd. Ffoniwch ni os ydych yn grŵp mawr a gallwn eich cynghori ymhellach


Cynhelir rhaglen fywiog a diddorol o waith allgymorth a dysgu gan Ganolfan Dylan Thomas. Yn ogystal â chynnig teithiau tywys o’n harddangosfa, sgyrsiau a gweithdai ar waith Dylan Thomas yn y ganolfan ac yn y gymuned, rydym ni hefyd yn cyflwyno prosiectau unigryw fel y canlynol:

rugby-stories-session-11-july-2015-web

Gweithdai Barddoniaeth Ysgol Gymunedol Dylan Thomas

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi gweithio gyda’r bardd Emily Hinshelwood i gyflwyno gweithdai barddoniaeth gyda disgyblion Ysgol Dylan Thomas a disgyblion Blwyddyn 5 o’i hysgolion bwydo. Mae’r grwpiau yn cwrdd bob dydd Gwener yn ystod y tymor, gyda’r rhan fwyaf o sesiynau yn cael eu cyflwyno yn Lle Dysgu’r Ganolfan a chan ddefnyddio’r arddangosfa fel adnodd.

Yn 2016, rydym hefyd yn cynnal prosiect gyda disgyblion OWL (Ffyrdd Eraill Ddysgu) o Ysgol Dylan Thomas, lle mae cyfranogwyr yn archwilio’n harddangosfa, yn cael taith tywys o Abertawe Dylan ac yn tynnu lluniau perthnasol sy’n seiliedig ar eu profiad a phrofiad Dylan.

Top

Llythrennedd Drwy Gomics gydag Ysgol Gynradd Danygraig

danygraig-comics-2

Mae’r prosiect hwn yn canolbwyntio ar y bwlch llythrennedd rhwng bechgyn a merched yn yr ysgol. Gweithiodd bechgyn blwyddyn 5 gyda’n Swyddog Dysgu, Nicola, a’r ysgrifenydd a’r darlunydd Sion Tomos Owen, i ysgrifennu a darlunio llyfrau comics eu hunain ac i gymryd rhan mewn amrywiaeth o ymarferion ysgrifennu creadigol. Dywedodd y staff fod llythrennedd a hunanhyder y bechgyn wedi gwella, a bod eu tadau a’u tad-cuod hefyd wedi mwynhau cymryd rhan mewn un sesiwn. Mae nifer o’r bechgyn bellach wedi ymuno â’n Sgwad Sgwennu Ifanc o ganlyniad i’r prosiect hwn.

Top

Prosiect Dwlu ar y Geiriau – a’r prosiect Lluniau gydag Ysbyty Treforys

tbi-project

Trwy gydol y prosiect ffotograffiaeth hwn, anogwyd cyfranwyr i greu lluniau personol a ysbrydolwyd gan Dylan Thomas a oedd yn adrodd straeon preifat am fywyd modern yn Abertawe.  Mae’r cyfranwyr yn gleifion yn Uned Anafiadau Trawmatig i’r Ymennydd Ysbyty Treforys ac maent wedi defnyddio ffotograffiaeth er mwyn helpu i ailadeiladu’r cof. Daeth y prosiect i ben gydag arddangosfa gyhoeddus o’r gwaith a grëwyd.

Top

Sgwadiau Sgwennu Ifanc

Rydym ni’n cynnal dau Sgwad Sgwennu Ifanc: un ar gyfer disgyblion blynyddoedd 5 a 6, ac un arall i blant 11-16 oed.

Top

4-Site

Mae Canolfan Dylan Thomas yn rhan o raglen 4-Site Dinas a Sir Abertawe ar gyfer ysgolion.

Top

tbi-proj

Am fwy o wybodaeth am ysgolion a phrosiectau dysgu, neu brosiectau cymunedol ac allgymorth, cysylltwch â: llenyddiaethdylan.thomas@abertawe.gov.uk

Top

This post is also available in: English