Rhaglen Ysgolion ‘Dwlu ar y Geiriau’

*Diweddariad i’n cwsmeriaid – Croeso nôl, rydym wedi gweld eich eisiau!*

Ein horiau agor dros dro yw 10am i 4pm ddydd Mercher i ddydd Sul. Does dim angen i chi gadw slot i ymweld, ond byddwn yn monitro niferoedd ar y safle i sicrhau bod digon o le i bobl cadw pellter corfforol oddi wrth ei gilydd. Ffoniwch ni os ydych yn grŵp mawr a gallwn eich cynghori ymhellach.


‘Roeddwn i’n hoffi gwneud fy ngherddi fy hun! Yn fy marn i, roedd hynny’n anhygoel oherwydd bod yn rhaid i ni ddefnyddio’n dychymyg! Rwy’n credu bod y lle hwn yn hudol!’   – disgybl 9 oed, Ysgol Gynradd Dewi Sant, Abertawe

Mae arddangosfa barhaol Canolfan Dylan Thomas, ‘Dwlu ar y Geiriau’, yn adrodd hanes bywyd, gwaith a chyd-destun diwylliannol un o awduron pwysicaf yr ugeinfed ganrif. Mae’n canolbwyntio ar ei blentyndod yn Abertawe a’r farddoniaeth a ysgrifennodd yn ei arddegau ac yn archwilio ei waith rhyfel a’i ddarnau am yr Ail Ryfel Byd, yn ogystal â’i gysylltiadau â’r Swrrealyddion, a’r awduron, yr artistiaid a’r actorion a gyfarfu yn ystod ei gyfnod yn yr Unol Daleithiau. Mae llawysgrifau gwreiddiol a recordiadau sain yn rhan allweddol o’r arddangosfa hygyrch, ymarferol hon. Mae’n cynnwys Llwybr Plant ac amrywiaeth o elfennau rhyngweithiol a gemau cyffrous, sy’n ddiddorol ac yn llawn hwyl i ddisgyblion o bob oedran a rhai ag anghenion dysgu.

Bydd ein tîm profiadol ar gael drwy gydol y dydd i sicrhau eich bod chi a’ch disgyblion yn manteisio i’r eithaf ar eich ymweliad. Mae ein tîm yn cynnig ymweliadau tywys a gweithdai i ysbrydoli disgyblion o bob oedran, sydd am ddim i aelodau o 4-Site. Yn ogystal, rydym yn gweithio gydag awduron anhygoel i ddarparu gweithdai diddorol ac ysbrydoledig. Mae ein harddangosfeydd, ein llwybrau a’n taflenni gwaith yn ddwyieithog, a gellir cyflwyno gweithdai ac ymweliadau tywys â thema yn Gymraeg. Mae ein mannau arddangos a’n Man Dysgu ar y llawr gwaelod ac yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn.


Ein Gweithdai a’n Hymweliadau Tywys

Ymweliadau Tywys ar gyfer y Cyfnod Sylfaen
30 munud – 1 awr

Mae ein hymweliadau tywys i’r cyfnod sylfaen wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion eich dosbarth. Bydd un o’n tîm wrth law i’ch croesawu i’r ganolfan ac esbonio’r rhannau gwahanol o’n harddangosfa. Wrth i chi fynd ar eich taith trwy fyd Dylan, darganfyddwch yr anifeiliaid yng ngherddi Dylan, yr hyn a’i hysbrydolodd i ysgrifennu ei straeon, a rhai o’r pethau diddorol a wnaeth Dylan yn yr ysgol!

Bydd eich ymweliad yn cynnwys llwybrau (taflenni gwaith) am ddim. Mae ein Llwybr ‘Dewch o Hyd i Anifeiliaid Dylan’ yn addas i blant 2+ oed ac mae ein Llwybr ‘Croesair Anifeiliaid Dylan’ yn addas i blant 6+ oed. Gall plant fynd â’u taflen wedi’i chwblhau i’n desg flaen i gael sticer a llyfrnod am ddim!

Ymweliadau tywys ar gyfer y Cyfnod Sylfaen gyda gweithgareddau hunanarweiniedig
1 – 2 awr

Yn ogystal â’r ymweliadau tywys a’r llwybrau, bydd gennych fynediad i gyfleoedd chwarae a gweithgareddau hunanarweiniedig rhydd â thema . Mae gweithgareddau’n cynnwys: dillad gwisgo i fyny, bwrdd gwneud straeon llawn hwyl â ffelt, pypedau traddodiadol glan môr, pypedau ‘Anifeiliaid Dylan’, gemau creu straeon a chornel ddarllen, i gyd wedi’u hysbrydoli gan fywyd a gwaith Dylan Thomas.

Cysylltwch â ni i gael mwy o fanylion ac i deilwra’ch profiad.

Gweithdai i’r Cyfnod Sylfaen
30 munud – 1 awr

  • Jariau Siglo Straeon Synhwyraidd
  • Barddoniaeth Hollti ac Aildrefnu Cerddi
  • Deis Stori
  • Creu Llyfr Straeon Bach

Cysylltwch â ni i gael mwy o fanylion am bob gweithdy.

Ymweliadau Tywys ar gyfer CA2
45 munud – 1 awr

Darganfyddwch pam yr oedd awduron fel Roald Dahl wedi cael eu hysbrydoli cymaint gan waith Dylan, yr hyn wnaeth Dylan yn ystod yr Ail Ryfel Byd a pha atgofion plentyndod a ysbrydolodd Dylan i greu rhai o’i storïau mwyaf adnabyddus. Bydd un o’n tîm wrth law i’ch croesawu i’r ganolfan ac esbonio’r rhannau gwahanol o’n harddangosfa. Bydd eich ymweliad yn cynnwys llwybrau am ddim a thaflenni gweithgaredd.

Gweithdai CA2
1 awr – 1 awr 30 munud

  • Rhyfel Dylan
  • Geiriau Dylan: Barddoniaeth Hollti ac Aildrefnu Cerddi
  • Gweithdy Deis Stori
  • Llyfrau Nodiadau Dylan

I gael manylion penodol am bob gweithdy, cysylltwch â ni.

Ymweliadau Tywys ar gyfer CA3
45 munud – 1 awr

Mae ein hymweliadau tywys ar gyfer CA3 yn gyfle gwerthfawr i ddisgyblion gael eu hysbrydoli gan un o awduron mwyaf dylanwadol ac uchel ei barch Cymru. Bydd un o’n tîm wrth law i’ch croesawu i’r Ganolfan a’ch tywys o amgylch llinell amser bywyd a gwaith Dylan. Bydd gan ddisgyblion y cyfle i gwblhau llwybr, defnyddio elfennau rhyngweithiol i ddarganfod mwy am dechneg ysgrifennu Dylan, a chreu eu cerddi eu hunain gan ddefnyddio geiriau Dylan ar ein bwrdd barddoniaeth magnetig.

Gweithdai CA3
1 awr – 1 awr 30 munud

  • Geiriau Dylan: Barddoniaeth Hollti ac Aildrefnu Cerddi
  • Barddoniaeth Cuddio Geiriau

Cysylltwch â ni i gael mwy o fanylion am bob gweithdy.

Gweithdai gydag Awduron Proffesiynol

Yn ogystal â’r rhaglen uchod, rydym yn cynnig gweithdai ysgrifennu creadigol wedi’u teilwra gydag awdur proffesiynol. Mae’r rhain yn dechrau o £200 y sesiwn, y gellir eu hariannu gan Gronfa ‘Ewch i Weld’ Cyngor Celfyddydau Cymru.


Cadw Lle a Chwestiynau Cyffredin

Sut ydw i’n cadw lle?

Ffoniwch Jo, ein Swyddog Llenyddiaeth, ar 01792 463980 i gadw’ch lle. Fel arall, gallwch gadw lle drwy e-bostio jo.furber@swansea.gov.uk

Wrth wneud hyn, nodwch y canlynol:

  • Enw a chôd post eich ysgol
  • Eich enw, eich e-bost a’ch rhif ffôn
  • Pa weithdy/ymweliad tywys sydd gennych ddiddordeb ynddo
  • Nifer y disgyblion a’r staff, a’u grŵp blwyddyn. 35 yw’r mwyaf a all fod mewn un grŵp.
  • Eich dyddiad(au) dewisol ar gyfer eich ymweliad
  • P’un a oes angen ein Man Dysgu arnoch amser cinio.
  • Cymraeg neu Saesneg – gan ddibynnu ar argaeledd
  • Unrhyw ofynion ychwanegol

Oes angen help arnoch i dalu am gost eich ymweliad?

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru’n cynnig cronfa ‘Ewch i Weld’ ar gyfer ysgolion, sy’n caniatáu i ysgolion wneud cais am hyd at £1,000 i dalu hyd at 90% o gost profiad celfyddydol yng Nghymru. Gall costau gynnwys cludiant, gweithdai a thocynnau. Gallwch wneud cais ar unrhyw adeg ond bydd angen i chi ei wneud o leiaf 4 wythnos cyn y digwyddiad yr hoffech fynd iddo.

I gael mwy o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i dudalen wefan ‘Ewch i Weld’ Cyngor Celfyddydau Cymru

Cysylltwch â Jo yng Nghanolfan Dylan Thomas drwy ffonio 01792 463980 neu e-bostio jo.furber@swansea.gov.uk os oes angen unrhyw help arnoch i ysgrifennu am eich ymweliad arfaethedig â Chanolfan Dylan Thomas wrth gwblhau’r cais.


Pa mor hygyrch yw Canolfan Dylan Thomas?

Mae ein mannau arddangos a’n Man Dysgu ar y llawr gwaelod ac maent yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Mae mynediad i’r adeilad ar draws palmant gwastad â chyrbau isel. Mae gan y ganolfan dŷ bach hygyrch yn y dderbynfa.

Mae hygyrchedd yn flaenoriaeth o ran dyluniad ein harddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’. Mae’r nodweddion hygyrch allweddol yn cynnwys cilfachau cadeiriau olwyn gyda chlustffonau, panel sain wedi’i weithredu wrth ei gyffwrdd, cabinetau ac arddangosfeydd ar lefel cadair olwyn, a nifer o arddangosfeydd rhyngweithiol a synhwyraidd.

Mae ein Man Dysgu yn gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn ac mae’n cynnwys amrywiaeth o adnoddau ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion dysgu a gofynion mynediad gwahanol. Mae hyn yn cynnwys sisyrnau â dolen, pensiliau â gafael hawdd a dillad gwisg ffansi sy’n addas i unigolion â chadeiriau olwyn – cysylltwch â ni i gael mwy o fanylion am ein hadnoddau.

Rydym wrthi’n gweithio gyda’n ffrindiau yn Pobl yn Gyntaf Abertawe i greu arweiniad hawdd ei ddarllen i’n harddangosfa ar gyfer ymwelwyr a disgyblion ag anableddau dysgu, a fydd ar gael o ddechrau 2018.

Os ydych chi’n dod i weld perfformiad yn ein theatr, cysylltwch â ni i wirio gofynion mynediad ac argaeledd mannau cadeiriau olwyn.


Parcio a man gollwng disgyblion

Mae gennym le ar flaen yr adeilad ar gyfer bysus mini a choetsys i dynnu i mewn iddo i ollwng disgyblion. Rydym union gyferbyn â maes parcio talu ac arddangos Heol East Burrows. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am barcio gerllaw yn


Oes gennych unrhyw gwestiynau am y sesiynau a sut y gellir eu haddasu i’ch anghenion penodol?

Cysylltwch â Jo, ein Swyddog Llenyddiaeth, a fydd yn fodlon trafod yr hyn y gallwn ei gynnig â chi.  
E-bost: jo.furber@swansea.gov.uk
Ffoniwch: 01792 463980

This post is also available in: English