Sgwad Sgwennu Pobl Ifanc Abertawe

Mae Canolfan Dylan Thomas yn cynnal dwy Sgwad Sgwennu Pobl Ifanc Saesneg, sy’n galluogi pobl ifanc i fwynhau gweithdai ysgrifennu creadigol rhydd dan arweiniad amrywiaeth o awduron.

rugby-stories-session-11-july-2015-web

Mae un grŵp ar gyfer disgyblion blwyddyn 5 a 6 a’r llall i fyfyrwyr oed uwchradd. Mae’r grwpiau fel arfer yn cwrdd ddwywaith y tymor ar fore dydd Sadwrn, yn amgylchedd hamddenol Ardal Ddysgu Canolfan Dylan Thomas.

young-writers-squad-april-2015Mae pobl ifanc sy’n ymuno â’r sgwad wedi cael eu henwebu gan ofalwr neu athro sy’n gyfarwydd â’u hysgrifennu creadigol, neu drwy gysylltu â Chanolfan Dylan Thomas yn uniongyrchol. Yr unig gymhwyster y mae ei angen i ymuno yw cariad at ysgrifennu!

Mae’r Sgwad wedi gweithio gydag awduron megis enillydd Gwobr Barddoniaeth Costa 2014, Jonathan Edwards, enillydd Llyfr Cymraeg y Flwyddyn a bardd a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Forward, Rhian Edwards, y bardd-filwr Americanaidd, Brian Turner, yr awdur arobryn Ffilipino-Awstralaidd Ivy Alvarez, ac enillydd gwobr Jerwood Fiction, Cynan Jones.

Mae’r bobl ifanc wedi archwilio barddoniaeth, ffuglen, cofiannau, haiku, ffuglen fer a llawer mwy yn ein sesiynau, ac wedi cymryd rhan mewn mentrau cenedlaethol megis prosiect Storïau Rygbi URC ar gyfer Gŵyl Rygbi 2015.

Rydym wrth ein boddau bod Cynan Jones wedi llunio e-lyfr sy’n cynnwys peth o’r gwaith gwych a grëwyd yn ei sesiynau.

Rydym hefyd yn cynnal gweithdai ysgrifennu creadigol unigol.

Cysylltwch â Jo Furber – jo.furber@swansea.gov.uk – i gael mwy o wybodaeth am Sgwad Sgwennu Pobl Ifanc Abertawe.

Rydym yn ddiolchgar i gronfa Ysbrydoli Cymunedau Llenyddiaeth Cymru am gefnogaeth tuag at ein sesiynau Sgwad Sgwennu’r Ifanc.

This post is also available in: English