Croeso i Ganolfan Dylan Thomas!

Croeso i Ganolfan Dylan Thomas!
Pictured: Friday 24 February 2023 Re: Family workshop and exhibition tour at the Dylan Thomas Centre, Swansea, Wales, UK.

Croeso i Ganolfan Dylan Thomas! Rydym ar agor ar hyn o bryd rhwng 10am a 4.30pm, o ddydd Mercher i ddydd Sul. Mynediad am ddim.

Mae ein harddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’ yn archwilio bywyd, gwaith a chyd-destun diwylliannol Dylan Thomas. Dilynwch linell amser o ddyddiadau a digwyddiadau allweddol, archwiliwch ein harddangosfeydd rhyngweithiol, a darganfyddwch rai gwrthrychau hynod ddiddorol wrth i lawysgrifau gwreiddiol, recordiadau, celf a ffilm adrodd hanes bywyd un o awduron pwysicaf yr 20fed ganrif.

Mae ein harddangosfa sy’n addas i deuluoedd hefyd yn cynnwys Llwybr i Blant am ddim i ymwelwyr iau, ac mae’r cyfan ar un lefel ar y llawr gwaelod, lle ceir amrywiaeth o seddi. Rydym hefyd wedi datblygu bagiau ac adnoddau synhwyraidd i wella’r profiad a geir o’n harddangosfeydd a’n casgliadau ar gyfer ymwelwyr sy’n cael budd a mwynhad o ryngweithio synhwyraidd.

Mae ein man arddangos dros dro yn cynnal arddangosfeydd Mae ein man arddangos dros dro yn cynnal arddangosfeydd newidiol, ac mae ein Man Dysgu ar agor yn rheolaidd i deuluoedd fwynhau gweithgareddau creadigol hunan-arweiniol, yn ogystal â gweithdai dan arweiniad tiwtor. Rydym yn cynnig sesiynau ysgrifennu creadigol i blant a phobl ifanc, yn cynnal ymweliadau ysgol, ac yn cynnal gweithdai ar gyfer y rheini sy’n ceisio lloches. E-bostiwch Llenyddiaeth.DylanThomas@abertawe.gov.uk neu ffoniwch ni ar 01792 463980 yn ystod ein horiau agor.

Rydym yn croesawu ymweliadau grŵp; cysylltwch â ni ymlaen llaw fel y gallwn drafod eich gofynion.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi’n fuan!

This post is also available in: English