Under Milk Wood – Cronoleg

under milk wood poster

Dilynwch esblygiad Under Milk Wood yn llawysgrifen Dylan ar hyd y blynyddoedd, gan ddechrau pan oedd yn 17 oed yn unig.
“To begin at the beginning: It is spring, moonless night in the small town, starless and bible-black….”

Mae agoriad Under Milk Wood yn eich tynnu i stori Thomas am ddiwrnod ym mywyd trigolion pentref glan môr bach Cymreig Llareggub (darllenwch e am yn ôl).

Mae ei “ddrama i leisiau” yn cynnwys rhai o gymeriadau mwyaf poblogaidd llenyddiaeth, o’r Capten Cat dall i Polly Garter, y Parchedig Eli Jenkins i No Good Boyo.

Wedi’i hysgrifennu’n delynegol, mae’n hynod ddoniol a chynhyrfus, ac er eu bod wedi’u gwreiddio yn eu lle, mae cyffredinolrwydd y cymeriadau yn disgleirio drwyddi, sef pam nad yw erioed allan o brint, mae wedi’i chyfieithu i oddeutu 30 o ieithoedd gwahanol ac mae’n cael ei pherfformio’n rheolaidd ym mhedwar ban byd.

Mae Richard Burton, Peter O’Toole, Elizabeth Taylor, Syr Anthony Hopkins, Tom Jones, Philip Madoc a Matthew Rhys oll wedi ymddangos mewn addasiadau i’r radio, y llwyfan neu ffilm.

Fel y dywedodd Dylan wrth ei gast yn Efrog Newydd cyn y cynhyrchiad llwyfan cyntaf erioed: “carwch y geiriau”.


1931
Ychydig cyn gadael Ysgol Ramadeg Abertawe, ysgrifennodd Dylan, 17 oed, ddarn ar gyfer cylchgrawn yr ysgol sydd â chyffelybiaethau o ran arddull i Under Milk Wood:

MUSSOLINI

Is nothing in this place ever right?

WIFE (complacently)

No dear. I hope you remembered to change your underclothing.

MUSSOLINI

I did. And to air my shirt. And do my teeth. And wash behind my ears.

(Under Milk Wood, pxvi)

Mae hyn yn debyg, wrth gwrs, i sgwrs rhwng Mrs Ogmore-Pritchard a’i dau ŵr bwganllyd:

MR OGMORE

I must put my pyjamas in the drawer marked pyjamas

MR PRITCHARD

I must take my cold bath which is good for me

MR OGMORE

I must wear my flannel band to ward off sciatica

MR PRITCHARD

I must dress behind the curtain and put on my apron

(Under Milk Wood, 11)

1932
Mae Dylan Thomas yn byw yn Abertawe. Mae’n trafod y syniad o ysgrifennu drama am bentref glan môr bach Cymreig gyda’i ffrind, Bert Trick.

1933
Mae Thomas wedi ysgrifennu amlinelliad o Under Milk Wood, ac mae’n ei ddarllen i Bert a Nell Trick. Mewn cyfweliad â Colin Edwards, cofia Bert Trick,

“Darllenodd y ddrama i Nell a mi yn ein byngalo yng Nghaswell o gwmpas yr hen ffwrn Dover, gyda’r lampau paraffin wedi’u cynnau yn y nos… enw’r stori bryd hynny oedd Llareggub, a oedd yn bentref glan môr chwedlonol yn ne Cymru, pentref nodweddiadol, gyda thai teras ac un tŷ bach am bob pum bwthyn, a’r cymeriadau yn dod allan i wacáu’r trochion gan gyfarch ei gilydd ac ati; dyna oedd hedyn y syniad a… ddatblygodd i Under Milk Wood.”

(Dylan Remembered Volume 1, tudalen 165)

c. 1934
Defnyddiwyd yr enw ‘Llareggub’ am y tro cyntaf yn y storïau cynnar ‘The Orchards’, ‘The Holy Six’ a ‘The Burning Baby’.

Yn ‘The Orchards’ meddylia’r prif gymeriad, Marlais, “This was a story more terrible than the stories of the reverend madmen in the Black Book of Llareggub” (Collected Stories, 42). Yn y stori hon cysylltir crefydd â Chymru chwedlonol Llyfr Gwyn Rhydderch a Llyfr Du Caerfyrddin. Yn y ffordd hon mae’n debyg i rôl Eli Jenkins wrth gofnodi’r gorffennol yn Llyfr Gwyn Llareggub. (Bellach y llyfrau hyn yw ‘The Beige Book of Bollocks’ mewn drama ddiweddar gan Phil Bowen, Parlez vous jig jig, a chaiff ei pherfformio yn y Tŷ Cwch ar 31 Awst.)

Yn ‘The Holy Six’, cysylltir Llareggub â chrefydd unwaith eto: “All through the afternoon they had talked of nothing but the disappearance of the rector of Llareggub” (Collected Stories, 97)

Yn ‘The Burning Baby’ mae mab Rhys Rhys, a ddisgrifir gan ei dad fel “green stranger”, yn edrych ar ei chwaer ac yn meddwl: “She was to him as ugly as the sowfaced woman of Llareggub who had taught him the terror of the flesh. He remembered the advances of that unlovely woman. She blew out his candle as he stepped towards her on the night the great hail had fallen and he had hidden in her rotting house from the cruelty of the weather”. (Collected Stories, 39)

1939
Meddai Thomas wrth yr awdur, Richard Hughes, “Yr hyn sydd ei angen ar Dalacharn yw drama am gymeriadau adnabyddus Talacharn – a chael pawb i chwarae rhan eu hunain.” (Dylan Remembered Volume 2, 75)

1943
Amlinella Thomas ei syniad am blot tref wallgof ymhellach i Richard Hughes and Constantine Fitzgibbon – mae’r teitl dros dro, ‘The Town That Was Mad’, yn para sawl blwyddyn.

1944/45
Mae Thomas yn rhannu’i amser rhwng Llundain a’r Cei Newydd (yng ngorllewin Cymru). Mae’n ysgrifennu sgript radio, Quite Early One Morning, a welir fel rhagflaenydd i Under Milk Wood, am fod ei delynegiaeth yn debyg i’r Llais Cyntaf a’r Ail Lais yn Under Milk Wood. Mae’r tebygrwydd rhyngddynt yn amlwg yn y llinellau agoriadol:

“Quite early one morning in the winter in Wales, by the sea that was lying down still and green as grass after a night of tar-black howling and rolling, I went out of the house, where I had come to say for a cold unseasonable holiday, to see if it was raining still, if the outhouse had been blown away, potatoes, shears, rat-killer, shrimp-nets and tins of rusty nails aloft on the wind, and if all the cliffs were left.” (Collected Stories, 299)

Mae’r pennill ar y diwedd hefyd yn debyg i Under Milk Wood, fel y gwelir yn y dyfyniad canlynol:

“I am Captain Tiny Evans, my ship was the Kidwelly

And Mrs Tiny Evans has been dead for many a year.

‘Poor Captain Tiny all alone’, the neighbours whisper,

But I like it all alone, and I hated her.”

(Collected Stories, 302)

Mae Quite Early One Morning hefyd yn cynnwys cymeriad o’r enw Mrs Ogmore-Pritchard, gyda’i llinell enwog, “And before you let the sun in, mind he wipes his shoes”.

(Collected Stories, 302)

1945
Cyhoeddi Quite Early One Morning.

1946
Thomas yn darlledu ‘The Londoner’, stori am 24 awr ym mywyd teulu yn Llundain ar ôl y rhyfel. Mae’r ddeialog a’r lleisiau’n cystadlu yn debyg i’r rhai yn Under Milk Wood, ac mae’r sgript yn cynnwys adroddwr hefyd. Mae Voice of an Expert yn chwarae rôl debyg i Voice of the Guide Book yn Under Milk Wood, ac mae’r ddeialog rhwng tri siopwr yn aros yn y ciw am ddognau yn debyg i gymdogion yn trafod Mr Waldo.

1947
Ysgrifennu ‘Return Journey’. Mae’r ddrama radio bwerus a chynhyrfus hon yn dilyn Thomas ar daith drwy Abertawe ar ôl y blitz, ac mae’n enghraifft arall ohono’n hogi’i dechneg cyn cwblhau Under Milk Wood.

1949
Thomas yn darllen dyfyniadau o’r hyn a ddaeth i fod yn Under Milk Wood mewn parti ym Mhrâg.

1950
Anfonwyd hanner cyntaf Under Milk Wood at y BBC dan y teitl The Town That Was Mad.

Hydref 1951
Mae Thomas yn ysgrifennu’n faith am Under Milk Wood mewn llythyr i Marguerite Caetani.

“… y syniad fy mod yn ysgrifennu darn, drama, argraff i leisiau, adloniant o’r dref rwy’n byw ynddi, ac i’w hysgrifennu’n syml ac yn gynnes ac yn ddigrif, gyda llawer o symud ac amrywiaeth o hwyliau, er mwyn, ar sawl lefel, drwy olwg a lleferydd, disgrifiad a deialog, atgof a pharodi, i chi ddod i adnabod y dref fel preswylydd ynddi.” (Collected Letters, 904)

Ebrill 1952
Cyhoeddi hanner cyntaf Under Milk Wood yn Botteghe Oscure gan Marguerite Caetani.

Mai 1952
Thomas yn darllen rhan o’r ddrama yn Sefydliad y Celfyddydau Cyfoes, Llundain. Ni chafodd ei recordio.

3 Mai 1953
Thomas yn perfformio darlleniad unigol o Under Milk Wood yn Poets’ Theatre, Cambridge, Massachusetts. Ni chafodd ei recordio.

14 Mai 1953
Perfformiad llwyfan cyntaf Under Milk Wood, yn Poetry Center, Efrog Newydd. Cofia Liz Reitell,

“Roedd y llen i godi am 8.40. Wel, am 8.10 roedd Dylan wedi’i gloi yn yr ystafell gefn gyda mi. Ac nid oedd diwedd i Under Milk Wood. Roedd yn dweud o hyd, “Galla’ i ddim, nid wyf yn gallu gwneud hyn.” Dywedais i, “Gelli, mae’r llen yn mynd i godi.” Yn ddigon rhyfedd, ysgrifennodd ddiwedd Under Milk Wood yn y fan a’r lle, a’r rhagarweiniad iddo. Byddai’n sgriblan y cyfan lawr, byddwn i’n ei gopïo a’i argraffu er mwyn i’r ysgrifennydd allu’i ddarllen, ei roi i John Brinnin, yna’i roi i’r ysgrifennydd i wneud chwe chopi. Neidiodd pawb i’r tacsi o’r diwedd, a chyrhaeddom y theatr am hanner awr wedi wyth a rhoi chwe chopi i’r actorion…” (Dylan Remembered Volume 2, 305).

28 Mai 1953
Yr ail berfformiad llwyfan yn Awditoriwm Kaufmann, Efrog Newydd. Cyn hyn, cofia ffrind Dylan, yr awdur Ruthven Todd, sut y parhaodd Dylan i weithio ar y ddrama,

“Gan wgu ar y byd yn gyffredinol, ac at ddigalondid fy seler, byddai’n cymryd dalennau gan Liz. Ar y rhain y nododd ei awgrymiadau petrus. Yn chwyrnllyd, byddai’n rhoi cynnig ar ei eiriau newydd a’r diwygiadau. Wrth wneud hyn byddai’n newid, yn ddigalon o hyd, o un llais i lais arall. Felly, yn ôl cymeriad, gallai fod yn Captain Cat yn siarad ar un adeg, neu Rosie Probert, yna’n sydyn gallai fod yn Mrs Organ Morgan neu Mrs Ogmore-Pritchard, neu, yn drist, Polly Garter… cafodd pob diwygiad a wnaeth… ei ystyried a’i bwyso yn ei lais ef. Os nad oedd yn ymddangos yn gywir, byddai’n pwyso ymlaen, ei benelinoedd ar ei ben-gliniau, y sigarét yn hongian yn llipa gyda’r lludw’n disgyn. Byddai’n sawru pob ymadrodd yn llawn, gan siarad yn araf ac ymddangos fel petai’n blasu’r geiriau. Yna byddai’n arbrofi â chyfres o eiriau tan iddo ddarganfod yr un a oedd yn ei fodloni, am eiliad o leiaf… Petawn i’n dweud nad oedd rhywbeth yn glir neu ddim yn cael ei gyfleu’n gywir, nid oedd am i mi wneud unrhyw awgrymiadau ar gyfer newidiadau. Byddai ef ei hun yn taflu geiriau ac ymadroddion gwahanol allan gan eu troi fan hyn a fan draw, tan iddo ddarganfod rhywbeth yr oedd ei eisiau.”

(Dylan Remembered Volume 2, 308)

5 Hydref 1953
Thomas yn rhoi perfformiad unigol o ddarn o Under Milk Wood yng Nghlwb Celfyddydau Dinbych-y-pysgod.

15 Hydref 1953
Danfonwyd sgript derfynol Under Milk Wood at Douglas Cleverdon o’r BBC, a gwnaethpwyd copïau. Dychwelwyd y gwreiddiol at Thomas, a gollodd y copi dros y penwythnos, a chyn iddo adael am America, dywedodd wrth Cleverdon y câi gadw’r gwreiddiol os deuai o hyd iddo. Ychydig ddiwrnodau’n ddiweddarach daeth Cleverdon o hyd iddo mewn tafarn yn Soho.

24 a 25 Hydref 1953
Perfformiwyd Under Milk Wood yn Poetry Center, Efrog Newydd.

9 Tachwedd
Bu farw Dylan Thomas yn Ysbyty St Vincent, Efrog Newydd.

Ar ddiwedd 1953
Perfformiad coffa o Under Milk Wood yn Efrog Newydd.

24 Ionawr 1954
Richard Burton ac eraill yn perfformio dyfyniadau o Under Milk Wood mewn gala ar gyfer Cronfa Goffa Dylan Thomas yn Theatr y Glôb, Llundain.

25 Ionawr 1954
Darllediad radio cyntaf Under Milk Wood yn y DU. Burton yw First Voice.

1954
Cyhoeddi Under Milk Wood fel llyfr. Gwerthir 13,000 o gopïau yn y mis cyntaf, 53,000 yn y flwyddyn gyntaf, ac erbyn 1956-57 roedd wedi creu incwm o £16,043.

1957
Perfformiad teledu’r BBC o Under Milk Wood.

1961
Douglas Cleverdon yn gwerthu’i lawysgrif wreiddiol o Under Milk Wood i Times Book Company am £2,000. Dywedir iddo werthu am bum gwaith cymaint yn ddiweddarach.

Mawrth 1966
Caitlin Thomas yn erlyn ar gyfer dychwelyd llawysgrif wreiddiol Under Milk Wood, ac yn colli.

1968
T. James Jones yn cyfieithu Under Milk Wood i’r Gymraeg – Dan y Wenallt.

1971
Creu ffilm Andrew Sinclair o Under Milk Wood, gyda Richard Burton, Elizabeth Taylor a Peter O’Toole, wedi’i ffilmio yn Abergwaun.

1988
Syr George Martin, cynhyrchydd y Beatles, yn recordio fersiwn gerddorol. Yn cynnwys Anthony Hopkins, Tom Jones ac eraill.

1998
Cynhelir gŵyl flynyddol Dylan Thomas am y tro cyntaf yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe.

2003
Recordiad newydd gan y BBC, yn cadw Burton fel First Voice ond gyda chast newydd.

2003
Caiff cannoedd o fersiynau o Under Milk Wood eu perfformio ym mhedwar ban byd i gofio hanner canmlwyddiant marwolaeth Dylan.

2004
Hanner canmlwyddiant cyhoeddiad Under Milk Wood, sydd erioed wedi bod allan o brint.

2006
Amcangyfrifir bod Under Milk Wood wedi’i chyfieithu i o leiaf 30 o ieithoedd hyd yn hyn.

2008
Ailgyhoeddi fersiwn animeiddiedig Under Milk Wood.

2012
Diwrnod Dan y Wenallt cyntaf Abertawe.

 


Cyfeiriadau:

Dylan Thomas – the Collected Letters, golygwyd gan Paul Ferris (Llundain: Dent, 2000 (cyhoeddiad newydd))

Dylan Thomas – Collected Stories (Llundain: Phoenix, 2000)

Dylan Thomas – Under Milk Wood (Llundain: Penguin Classics, 2000)

Dylan Remembered Volume 1 – the Colin Edwards Tapes, golygwyd gan David N. Thomas (Pen-y-bont ar Ogwr: Seren, 2003)

Dylan Remembered Volume 2 – the Colin Edwards Tapes, golygwyd gan David N. Thomas (Pen-y-bont ar Ogwr: Seren, 2004)

 

 

This post is also available in: English