Diwrnod Meddiannu

Bu Sgwad Ysgrifennu Ifanc Abertawe’n cymryd rhan yn Niwrnod Plant yn Meddiannu mewn Amgueddfeydd.

Gosododd y bobl ifanc eitemau yn arddangosfa Ethel Ross a Dylan Thomas, gan ddysgu am gadwraeth a churadu, yn ogystal â chael cyfle i ddal a darllen sgript wreiddiol gan Dylan Thomas. Cawsom drafodaeth am ddehongli arddangosfa, ac ysgrifennu penawdau cryno ac addysgiadol, ac yna ysgrifennom ein darnau byr ein hunain a ysbrydolwyd gan weithgareddau’r bore.

Taking Over Day at the Dylan Thomas Centre-1584

“Gwnaethom wisgo menig i rwystro’r olew a’r saim rhag mynd dros y corff pydredig a orweddai’n llonydd yn yr arch. Cafwyd arogl cryf o lwch o’r gist wrth i’r to gwydr gael ei godi. Gwnaethom godi tu mewn llithrig yr arch ac wrth i ni eu trefnu nhw ar stondinau ac yna trefnu’r stondinau, byddai un cam gwag yn achosi’r byd i ysgwyd a chwalu. Byddai ein bywydau ar ben.”

Caitlin Llewellyn, 11 oed

Dewisodd bawb eu hoff ddyfyniadau o’r arddangosfa ac yna dewis un i arddangos yn ffenestr flaen y ganolfan.

Taking Over Day at the Dylan Thomas Centre-1587“Roedd yn rhaid i ni ddefnyddio’r holl lythrennau magnetig i greu dyfyniad ‘he’s not dead, he’s thinking’. Drwy ail-drefnu’r holl lythrennau, gwnaethom lunio ‘he’s not dead, he’s thinkin’. Nid oeddem yn gallu canfod ‘g’ fach. Cawsom ein harwain at ddrws dirgel a gwnaeth ein tywys i’r ffenestr flaen i gael mwy o lythrennau ‘g’.

Abby Coulson, 11 oed

Roedd un o aelodau gwreiddiol y Sgwad, Jack Howard, yn dal i fod yn yr ysgol gynradd pan ymunodd â’r sgwad. Ac yntau bellach yn 17 oed, mae’n dal i fwynhau dod i’r sesiynau. Cafodd ei ysbrydoli gan sgript a ysgrifennwyd gan Dylan o oed tebyg:

“Papur. Nid papur. Y tudalennau hyn yw fy ffenestr a gallaf weld byd Thomas drwyddi. Ei aeliau pendant, rhychog, fel petaent yn eiddo i mi. Mae’n cyffwrdd â’i wyneb wrth iddo naddu’r gair nesaf, ac wrth i mi gyffwrdd â fy un i, rwy’n coleddu ei grefft gain. Roedd ei ddwylo’n gafael yn y papur a degawdau’n unig sy’n ein gwahanu wrth i mi olrhain y geiriau.”

Jack Howard, 17 oed

“Am fore ysbrydoledig! Bydd ein blog nesaf yn cynnwys mwy o waith gan y bobl ifanc dalentog hyn.”

I gael mwy o wybodaeth am y Sgwad Ysgrifennu, e-bostiwch dylanthomas.lit@swansea.gov.uk

Taking Over Day at the Dylan Thomas Centre-1582

This post is also available in: English