Creu eich llyfr sbonc papur eich hun ar thema ‘Return Journey’

Creu eich llyfr sbonc papur eich hun ar thema ‘Return Journey’

Hyd yn oed os yw hi’n bwrw glaw yn sobor iawn yr haf hwn, gallwch fynd am dro braf gyda Dylan drwy greu eich llyfr sbonc papur unigryw eich hun yn cynnwys rhai o leoliadau enwog Abertawe. Gallwch liwio’r awyr mor las ag yr hoffech! Yn addas i blant ac oedolion – dilynwch y cyfarwyddiadau yma (a chofiwch ddangos eich gwaith terfynol i ni).

Dechreuodd llyfrau sbonc papur ymddangos yn y 1820au, ac roeddent yn aml yn dathlu lleoedd enwog neu ddigwyddiadau arbennig. Mae’r setiau llwyfan bychain iawn hyn yn rhoi’r argraff o ddyfnder ac yn cynnig persbectifau hynod ddiddorol. Rydym wedi dylunio taflen sbonc unigryw sy’n cynnwys rhai o’r adeiladau yr aeth Dylan heibio iddynt wrth gerdded drwy Abertawe yn ei ddrama radio ‘Return Journey’, a gobeithiwn y byddwch yn mwynhau eich byd bach eich hun! 

Mae’r gweithgaredd hwn yn addas i oedolion, pobl ifanc a phlant hŷn. Bydd angen goruchwyliaeth oedolyn ar blant iau.

Bydd angen:

Papur, peiriant argraffu, siswrn diogelwch, glud, pensiliau lliw.

Lawrlwythwch dempled

1. Printiwch a thorrwch allan y pum panel darluniedig a’r ddau banel consertina. Bydd eich llyfr sbonc yn fwy sefydlog os byddwch yn argraffu’r paneli ar gerdyn. Os mai dim ond papur plaen sydd gennych chi, gallwch ludo’r paneli i ddarnau a dorrwyd o focs grawnfwyd. Bydd angen i’r consertinas fod yn hyblyg felly dylid eu hargraffu ar bapur.

2. Lliwiwch y pum panel darluniedig sy’n cynnwys chwech o adeiladau mwyaf cofiadwy Abertawe. Does dim angen i chi liwio’r tabiau sy’n plygu ar ochr bob panel na’r consertinas.

3. Mae rhan i’w dorri allan ym mhaneli 1 i 4, sydd wedi’i hamlinellu â llinell ddotiog. Dyma’r rhan leiaf y mae angen i chi ei thaflu er mwyn gweld drwy’r sioe sbecian – os ydych yn hyderus gyda siswrn neu gyllell grefft, efallai yr hoffech dorri’n agosach i’r adeiladau. Sut bynnag rydych yn dewis torri’r rhannau canol allan, gwnewch hynny’n ofalus, neu gofynnwch i oedolyn ei wneud drosoch.

4. Plygwch y tabiau ar ochr bob panel i ffwrdd o’r darlun o flaen llaw, fel a ddangosir yn y canllaw darluniedig. Caiff y tabiau ar baneli 1-4 eu plygu tuag at yn ôl, i ffwrdd o’r ochr ddarluniedig. Caiff y tabiau ar banel 5 eu plygu tuag at i mewn, fel eu bod yn cyffwrdd â’r ochr ddarluniedig.

Drwy eu plygu nawr, fe fydd yn haws i chi eu gludo’n nes ymlaen!

5. Plygwch y ddau gonsertina mewn ffordd igam ogam, gan fynd yn ôl ac ymlaen gyda’ch plygiadau wrth i chi fynd yn eich blaen. Does dim gwahaniaeth pa ffordd rydych chi’n dechrau plygu oherwydd gallwch eu troi o gwmpas pan ddaw’r adeg i chi eu cysylltu wrth y paneli.

6. Cydbwyswch eich consertinas ar eu traed, ar eu hydoedd igam ogam, fel a ddangosir yn yr arweiniad darluniedig. Dylai’r ochrau â chyfarwyddiadau a’r tywys-linellau plygu wynebu tuag at i mewn, gyda phen Panel 1 bellaf i ffwrdd oddi wrthych. Byddwn yn rhoi’r llyfr sbonc at ei gilydd o’r cefn i’r blaen ond mae’n haws gwneud hyn os yw’r blaen yn wynebu oddi wrthych fel y gallwch gyrraedd y tu mewn i’r consertinas.

7. Gan ddechrau bellaf i ffwrdd oddi wrthych, cysylltwch y panel blaen, Panel 1, wrth flaen y consertina. Gwneir hyn drwy ludo’r tabiau ar ochr Panel 1 a’u gwasgu ar y consertina lle mae’n dweud “Panel 1”. Cysylltir paneli 1-4 drwy ludo’u tabiau i’r tu mewn i’r consertinas, gan orchuddio’r geiriau tywys sy’n nodi trefn y paneli’n gyfan gwbl. Gweler yr arweiniad darluniedig.

8. Mae Panel 5 wedi’i gysylltu mewn ffordd ychydig yn wahanol, gyda’r glud yn cael ei roi ar yr un ochr o’r tabiau, ond caiff y tabiau eu plygu o gwmpas y tu allan i gefn y consertina. Dyma’r unig dab nad yw’n cael ei ludo’n uniongyrchol i dop y gair arweiniol. Gweler yr arweiniad darluniedig.

9. Unwaith rydych wedi gludo pob panel i’r consertinas, gallech gael cip i weld os oes gormod o lud yno! Sychwch y glud gormodol, a phan rydych yn siŵr bod popeth yn lân, gwasgwch i lawr ar y consertina cyfan, yn enwedig ar yr ochrau sydd wedi cael eu gludo. Efallai yr hoffech roi llyfr ar ben hwn tra bydd yn sychu – ond gwnewch yn siŵr nad oes gormod o lud os ydych yn gwneud hyn!

10. Pan fydd yn sych, bydd eich llyfr sbonc yn barod i edrych arno! Agorwch y consertina’n ofalus a sbeciwch drwy’r blaen i weld eich hoff leoliadau yn Abertawe.

Hoffem weld beth rydych chi’n ei wneud! Cofiwch rannu lluniau o’ch llyfrau sbonc drwy e-bostio dylanthomas.lit@swansea.gov.uk neu ein tagio yn @DTCAbertawe a Facebook.com/CanolfanDylanThomas

This post is also available in: English