Papur Ysgrifennu’r Gaeaf

Papur Ysgrifennu’r Gaeaf

Bob blwyddyn yng Nghanolfan Dylan Thomas, rydym yn croesawu teuluoedd i gymryd rhan yn ein gweithgareddau’r gaeaf. Eleni rydym wedi sicrhau bod un o’n gweithgareddau mwyaf poblogaidd ar gael ar-lein, gyda detholiad o Bapurau Ysgrifennu y gallwch eu lawrlwytho am ddim.

Mae ein Papur Ysgrifennu wedi’i ysbrydoli gan ddarluniadau Ellen Raskin o gopi o ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’ sydd gennym yma yn Arddangosfa Dylan Thomas. Gallwch ei ddefnyddio drwy ei argraffu i ysgrifennu eich llythyrau arno, neu gallwch ei ddefnyddio’n ddigidol i deipio eich negeseuon arno ac e-bostio copïau at eich anwyliaid a’ch ffrindiau.

Lawrlwythwch Papur 1

Lawrlwythwch Papur 2

Lawrlwythwch Papur 3

Os ydych yn teimlo’n greadigol iawn, beth am gyfansoddi eich cerdd eich hun sy’n seiliedig ar y gaeaf ar y papur ysgrifennu?

Os ydych yn defnyddio ein papurau, byddem yn dwlu ar weld eich llythyrau!
Anfonwch eich lluniau atom yn @CanolfanDylanThomas @CDTAbertawe
neu e-bostiwch nicola.kelly@abertawe.gov.uk

This post is also available in: English