‘With his stick that picked up leaves’: Sut i greu symudyn yr hydref

‘With his stick that picked up leaves’: Sut i greu symudyn yr hydref

D’yw addurniadau ddim ar gyfer y Nadolig yn unig! Beth am addurno’ch tŷ â dail hardd yr hydref sydd fel mae’n digwydd yn cwympo o’r coed? Mae cynifer o ffyrdd difyr i greu symudyn yr hydref, ond dyma sut gwnaethon ni greu ein un ni:

1.

Ewch mas i’r ardd neu i’ch parc lleol a dechreuwch gasglu. Y peth cyntaf y bydd angen i chi ddod o hyd iddo yw dau frigyn sydd tua’r un maint, i wneud y ffrâm. Os na allwch chi fynd tu fas yna bydd dau bensil hir yn gweithio’n berffaith.

2.

Nesaf, mae angen i chi ddod o hyd i ddail! Po fwyaf yw’r dail, hawsaf ydyn nhw i’w hongian ar linyn – ond gallwch hefyd gasglu brigau bach gyda’r dail yn sownd ynddyn nhw o hyd. Ceisiwch gasglu cynifer o liwiau a siapiau ag y gallwch! Os ydych yn ddigon lwcus i ddod o hyd i bigyrnau pinwydd (moch coed), yna casglwch y rhain hefyd. Gwnewch yn siŵr bod y dail a’r pigyrnau pinwydd ‘dych yn eu casglu’n lân, a golchwch eich dwylo unwaith y byddwch chi wedi gorffen. Os na allwch gael gafael ar unrhyw un o’r pethau hyn, rydym wedi darparu taflen y gallwch ei hargraffu o ddail y gallwch eu torri mas a’u lliwio.

Lawrlwythwch y templed deilen

3.

Unwaith y byddwch chi wedi golchi’ch dwylo, bydd angen dau beth arall arnoch chi: llinyn a siswrn. Gwnewch yn siŵr fod oedolyn gyda chi i’ch helpu chi gydag unrhyw dorri mas. Os nad oes gennych unrhyw linyn yn y tŷ, gallwch ddefnyddio bag plastig a’i dorri’n stribedi tua 1cm o led a bydd hyn yn gweithio’n iawn. Os yw’r bag yn wyrdd neu’n oren, bydd yn edrych yn hydrefol iawn!

4.

Yn gyntaf, bydd angen i chi roi’r ddau frigyn mewn siâp tebyg i’r llythyren X a’u clymu o gwmpas y canol gyda llinyn.Cofiwch lapio’r llinyn o gwmpas y brigau sawl gwaith fel ei fod yn ddigon cryf i ddal eich addurniadau.

5.

Penderfynon ni orchuddio’r ffyn gyda brigau deiliog bach trwy lapio llinyn ar hyd y brigau. Gallwch chi wneud hyn hefyd, neu adael y pen yn foel.

6.

Nesaf, torrwch bedwar darn o linyn tua 30cm o hyd (neu unrhyw hyd yr hoffech chi iddyn nhw fod) i greu’r garlantau. Pan fyddwch chi’n dechrau dodi’r dail ar y llinyn, mae angen i chi adael 10cm ar y pen fel y gallwch chi’u clymu i’r brigau wedyn. Mae gan lawer o ddail yr hydref dyllau defnyddiol ynddyn nhw’n barod i chi gael gwthio’r llinyn drwyddynt – ond os nad oes tyllau yn eich rhai chi, yna gofynnwch i oedolyn wneud twll bach i chi. Wrth i chi ddodi’r dail ar y llinyn efallai yr hoffech chi greu cwlwm bach ar ôl pob un fel bod bylchau rhyngddyn nhw. Neu efallai yr hoffech chi ddodi cynifer o ddail â phosib ar y llinyn! Gwnewch beth bynnag rydych chi’n meddwl sy’n edrych orau.

7.

Ar ôl i chi greu’r pedair garlant, gallwch eu clymu i’ch siâp X. Does dim rhaid i chi gadw at bedwar yn unig – os ydych chi’n teimlo’n fentrus bydd yn edrych yn well gyda rhagor!

8.

Roedd Dylan wrth ei fodd â’r hydref oherwydd roedd yn dathlu ei ben-blwydd ym mis Hydref! Felly mae gennym lawer o gerddi hyfryd ganddo am yr adeg hon o’r flwyddyn. Rydym wedi credu sbiralau o’r llinellau mwyaf tymhorol y gellir eu hargraffu, eu torri mas, a’u hongian o’ch symudion.


Lawrlwythwch droell barddoniaeth 1

Lawrlwythwch droell barddoniaeth 2

9.

Gwnewch ddolen allan o linyn a’i chlymu i ganol yr X. Bydd eich symudyn yn hongian o’r ddolen hon, felly mae’n syniad da i’w ddal i fyny i weld a yw’n cydbwyso cyn i chi glymu’r cwlwm olaf. Bydd angen ei addasu rhywfaint, ond wrth lithro’r brigau i fyny neu i lawr, neu ychwanegu un neu ddau bigwrn pinwydd arall, dylech allu ei gael i hongian yn iawn. Mae ychydig o siglo’n rhoi cymeriad i’r symudyn!

10.

Gallwch arddangos eich symudyn yn unrhyw le yr hoffech chi. Pan fydd y dail yn dechrau chwalu, gallwch roi’r symudyn tu fas i bydru. Os defnyddioch chi fagiau plastig neu bensiliau, bydd angen tynnu’r symudyn yn ddarnau fel bod y rhannau perthnasol yn gallu cael eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu. Mewn pryd ar gyfer gosod addurniadau’r Nadolig!

This post is also available in: English