Gwneud cerdyn wedi’i ysbrydoli gan ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’

Gwneud cerdyn wedi’i ysbrydoli gan  ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’

Roedd Dylan Thomas yn aml yn ysgrifennu am y Nadolig, gan ei drafod yn ei lythyrau ac yn fwyaf enwog, yn ei stori ‘Nadolig Plentyn yng Nghymru’.  Fe greodd rai delweddau hyfryd i’n helpu i ddychmygu Nadoligau ei blentyndod, ac rydyn ni’n defnyddio rhai o’r rhain fel ysbrydoliaeth ar gyfer rhai cardiau Nadolig arbennig a wnaed â llaw.

Gallwch ddefnyddio beth bynnag sydd gennych gartref i greu eich cardiau. Gallwch ddefnyddio cardiau plaen a brynwyd o flaen llaw, neu gallwch dorri a phlygu cardbord lliwgar i maint o’ch dewis.

Dewch o hyd i’ch hoff ddyfyniad o’n rhestr o awgrymiadau y gallwch eu lawrlwytho.

Lawrlwytho

Torrwch y dyfyniad allan a’i ludo ar eich cerdyn, ysgrifennwch eich dyfyniad neu darllenwch y llyfr a dewch o hyd i’ch hoff ymadroddion a llinellau!

Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i ysbrydoliaeth yng ngeiriau Dylan, addurnwch y cerdyn fel y dymunwch. Gallech dorri siapiau cathod ac anrhegion neu gallwch greu eich Abertawe eich hun gyda thai yn mynd i lawr y bryn i’r môr. Defnyddiwch gerdyn neu bapur lliw, pinnau neu baent, ychwanegwch addurniadau neu cadwch y cyfan yn syml – eich dewis chi yw hynny! P’un bynnag rydych chi’n ei ddewis, byddwch yn gwneud rhywun yn hapus iawn pan fyddant yn derbyn cerdyn a wnaed â llaw.

‘Trochaf fy nwylo yn yr eira gan ddwyn allan beth bynnag sydd yno. I mewn â’m llaw i belen wlân wen y gwyliau sy’n canu fel clychau, gwyliau sy’n gorffwys ar ffiniau’r môr canu-carolau, ac allan daw Mrs Prothero a’r dynion tân.’

This post is also available in: English