Gweithgareddau Diwrnod y Llyfr

#DiwrnodyLlyfr Hapus!

Mae Diwrnod y Llyfr, a gynhelir ar ddydd Iau cyntaf mis Mawrth bob blwyddyn, yn newid bywydau trwy gariad tuag at lyfrau a darllen a rennir. Rydym wedi llunio rhestr o weithgareddau amrywiol i’w mwynhau gartref neu yn yr ysgol. Cofiwch ddweud wrthym sut byddwch chi’n dathlu!


Gwneud tei bô llyfr

Un o’r pethau difyr rydym yn dwlu ar wneud ar Ddiwrnod y Llyfr yw gwisgo fel hoff gymeriad o lyfr a drysorir. Ond ydych chi erioed wedi gwisgo fel awdur o’r blaen?

Roedd Dylan yn aml yn gwisgo tei bô wrth berfformio, felly ar gyfer #DiwrnodyLlyfr, byddwn yn creu ein tei bô ein hunain ar thema llyfr i’w wisgo wrth ddarllen ein hoff lyfrau. Hoffech chi gymryd rhan?

Rhagor o wybodaeth


Tynnwch lun ohonoch chi eich hun gyda’ch hoff lyfr

Roedd Dylan Thomas yn mwynhau darllen yn ogystal ag ysgrifennu! Roedd yn mwynhau darllen nofelau cyffrous yn ogystal â barddoniaeth. Beth yw’ch hoff lyfr chi? Tynnwch lun ohonoch eich hun gydag e’!

Lawrlwythwch y daflen weithgareddau


Mae Dylan wrth ei fodd ȃ llyfrau!

Mae Dylan yn dwlu ar ddarllen ac ysgrifennu llyfrau! Allwch chi ddod o hyd i’r geiriau cudd?

Lawrlwythwch y chwilair


Helfa Sborion Llyfrau                                

Defnyddiwch y llyfrau ar eich silffoedd llyfrau i ddod o hyd i un eitem ar y rhestr helfa. Cofiwch ysgrifennu disgrifiad byr o bob peth rydych chi’n dod o hyd iddo!

Lawrlwythwch y daflen weithgareddau


Papur Ysgrifennu Llyfr

Rydym wedi dylunio papur ysgrifennu unigryw yn arbennig ar gyfer #DiwrnodYLlyfr. Fyddwch chi’n ysgrifennu stori, cerdd neu lythyr arno?

Lawrlwythwch Bapur Ysgrifennu 1
Lawrlwythwch Bapur Ysgrifennu 2
Lawrlwythwch Bapur Ysgrifennu 3


Map Stori Antur ‘Return Journey’

Bydd ein Map Stori Antur yn eich helpu i wneud tro cyffredin yn arbennig! Fel gwnaeth Dylan yn ‘Return Journey’, byddwn yn archwilio’n hardal leol i ysbrydoli ein straeon ein hunain.

Rhagor o wybodaeth

This post is also available in: English