William Shakespeare “the wonder of our stage!”

Rydym yn croesawu’r cyntaf o berfformiadau Shakespeare 400 Fluellen i Ganolfan Dylan Thomas ddydd Sadwrn 23 Ebrill, i goffáu dyddiad geni (a dyddiad marwolaeth!) William Shakespeare.

Dathliad ysgafngalon o waith y dyn a ddisgrifiwyd gan ei ffrind a’i gyd-ddramodydd, Ben Johnson, fel y “soul of the age … the wonder of our stage!” yw cynhyrchiad ‘The Soul of the Age’.

Shakespeare 400: The Soul of the Age
Gyda’r actor talentog Douglas Gray, yn syth o chwarae Edmund yn ‘Love’s Labour Won’ yn Theatr Savoy yn Nhonyrefail, a Bethan Johns, sydd wedi ymddangos mewn cynhyrchiad teithiol o ‘Chelsea’s Choice’ (taith i ysgolion a oedd yn tynnu sylw at gamfanteisio’n rhywiol ar blant) gyda Chwmni Theatr AlterEgo, a chwarae Viola yn ‘Twelfth Night’.

Yn ymuno â nhw ar y llwyfan bydd wynebau rheolaidd Fluellen, Peter Richards a Claire Novelli.

Mae’r sioe ddifyr hon yn cynnwys llawer o destun a ysgrifennwyd gan y Bardd a llawer y mae’n bendant nad ysgrifennwyd ganddo!

Mae tocynnau ar gael o hyd am £5.00 yn unig, gyda gostyngiad ar gael i ddeiliaid cardiau Pasbort i Hamdden.


Book now

This post is also available in: English