Helpu plant i ‘Ddwlu ar y Geiriau’ drwy ffyrdd eraill o ddysgu

“My education was the liberty I had to read indiscriminately and all the time, with my eyes hanging out.”  – Dylan Thomas

DSCN0213Er bod Dylan yn amlwg wedi dwlu ar eiriau o oed cynnar, nid yw darllen at ddant pawb.

Mae’n ffaith fod gennym arddulliau dysgu gwahanol, ond ydych chi erioed wedi meddwl beth mae hyn yn ei olygu i blant sy’n cael trafferth gyda dysgu ffurfiol mewn amgylchedd ystafell ddosbarth?

Yn ffodus, mae addysg fodern wedi datblygu dulliau addysgu gwell na’r ymagweddau traddodiadol y bydd y rhan fwyaf ohonom yn eu cofio.

Drwy ddarparu ffyrdd gwahanol o ddysgu (OWL) mae gan blant gyfleoedd i ddysgu sgiliau a gwybodaeth mewn modd sy’n fwy addas i’w harddull unigryw nhw.

Rydym ni, yng Nghanolfan Dylan Thomas, yn hapus ein bod yn gallu helpu ysgolion lleol drwy ddarparu ffyrdd eraill o ddysgu. Yn ddiweddar, rydym wedi bod yn gweithio gydag Ysgol Gymunedol Dylan Thomas ar brosiect tymor byr i helpu i ennyn diddordeb grŵp o ddisgyblion sy’n cael anawsterau gyda dulliau addysgu traddodiadol.

Mae Lee Aspland, ein Swyddog Allgymorth, wedi cymryd bywyd a gwaith Dylan sy’n cael ei ddathlu yn Arddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’ Dylan Thomas ac wedi creu gweithgareddau ffotograffiaeth i herio’r disgyblion.

IMG_3339

Gan ddefnyddio Abertawe yn gefndir i’r gwaith, mae’r grŵp o bobl ifanc wedi bod i Langland, y marina a chanol y ddinas yn chwilio am ysbrydoliaeth i greu eu hymateb ffotograffig eu hunain i waith Dylan.

Ar ddiwedd gweithgareddau pob wythnos, bydd disgyblion wedi cyflwyno eu hoff luniau, nodi’r rhesymau dros eu dewis a thrafod gwaith creadigol aelodau eraill y grŵp.

Ein bwriad yw ailadrodd y prosiect gyda grwpiau eraill o blant ysgol lleol y tymor nesaf ar ôl adolygu’r canlyniadau gyda’r ysgol.

Os ydych yn meddwl y gallai grŵp o blant yn eich ysgol elwa o gymryd rhan mewn prosiect fel hwn, ffoniwch ein Swyddog Allgymorth, Lee Aspland, ar 01792 463980 neu e-bostiwch lee.aspland@swansea.gov.uk.

IMG_3562

This post is also available in: English