Teithiau Dylan i America | Rhan 3

Teithiau Dylan i America | Rhan 3
Dylan Thomas exhibition at the Dylan Thomas Centre in Swansea, UK.

Aeth Dylan i America ddwywaith yn rhagor ym 1953, ac mae Linda Evans yn ymchwilio i’w deithiau yn ôl ac ymlaen i’r cyfandir hwnnw’r flwyddyn honno.

Ym mis Hydref 1952, cyhoeddwyd mewn bwletin am y digwyddiadau oedd ar ddod i The Poetry Centre yn Efrog Newydd y byddai Dylan Thomas yn teithio o Gymru ar ei drydedd daith o America yn ystod y mis Mai dilynol ac y byddai darlleniad o’i ddrama i leisiau, ‘Under Milk Wood’. Felly, roedd Dylan yn barod am ei drydydd ymweliad ag America:

Cyrhaeddodd Efrog Newydd ar 21 Ebrill 1953 ar y llong deithio newydd, yr SS United States. Dyma oedd llong orau, newydd cwmni United States Lines, ond nid oedd y dyluniad na’r peirianneg fodern yn gallu gwella taith stormus. Ysgrifennodd Dylan at Caitlin mewn ffordd hunandosturiol fod y môr wedi bod yn greulon drwy gydol y daith; roedd am ddianc rhag y diwrnodau diddiwedd o gael ei daflu o gwmpas ar y llong ddiawledig honno, y disgrifiwyd ganddo fel ‘huge hot gadget-mad hotel’. Roedd yn dioddef o sâl môr ac am fod gyda hi; ‘not on this endless cocktail-shaker’. 

Ar ôl trydedd daith lwyddiannus (chwe wythnos o hyd, felly’n fyrrach na’r ddwy daith arall), hedfanodd adref gan gyrraedd Llundain ar 4 Mehefin, i ddinas a oedd yn dal i ddathlu seremoni coroni Elizabeth II yn Abaty Westminster ddeuddydd yn gynharach. Er ei fod yn gobeithio cael taith haws yn ôl, roedd yn anlwcus; hedfanodd yr awyren i ganol tywydd stormus. Ysgrifennodd Dylan at Oscar Williams gan ddisgrifio’r hediad: ‘it was stormy and dangerous, and only my iron will kept the big bird up’, a chan ddisgrifio’r glaniad: ‘with only one spine-cracking jar’.

Yn gynnar ym mis Medi, daeth John Malcolm Brinnin, rheolwr ei daith yn yr UDA ynghyd â’r ffotograffydd Rollie McKenna, i Dalacharn i greu proffil o Dylan a’i deulu ar gyfer cylchgrawn. Ychydig ddiwrnodau ar ôl iddynt adael, ac er gwaethaf cyngor meddygol, cyhoeddodd Dylan ei fod ar gael i wneud ei bedwaredd daith ac ar 19 Hydref, hedfanodd Dylan ar ei ben ei hun i America, er y cynlluniwyd yn wreiddiol y byddai Caitlin yn mynd gydag ef. Disgwyliwyd iddo gyrraedd ar 14 Hydref ond cyrhaeddodd ei docyn hedfan gan gwmni Pan American yn Nhalacharn ar ôl iddo adael i fynd i Lundain, ac roedd y dyddiad terfyn wedi mynd heibio erbyn iddo’i dderbyn.

Ysgrifennodd John yn ei gofiant ‘Dylan Thomas in America’ fod y bardd wedi cwyno am y gwres wrth iddo gyrraedd, gan ei fod yn gwisgo sgarff blew camel a siwt drwchus, a gofynnodd am ddiod yn syth yn y maes awyr cyn iddo deithio i’r Chelsea Hotel. Ar 5 Tachwedd, llewygodd Dylan, ac mae amgylchiadau ei farwolaeth trychinebus o gynnar wedi’u cofnodi a’u trafod yn fanwl, yn ogystal ag ymddygiad Caitlin pan gyrhaeddodd erchwyn gwely ei gŵr a oedd yn ddifrifol wael. Yn ei chofiant, ‘Caitlin: Life with Dylan Thomas’, mae’n cofio bod beic modur wedi tywys ei char o’r maes awyr i ysbyty St Vincent, a’r unig beth mae’n ei gofio o’r hediad i Efrog Newydd oedd yfed llawer o wisgi yn y bar ar y dec isaf.

Ar ôl ei farwolaeth bedwar diwrnod yn ddiweddarach, mynnodd Caitlin yn chwyrn ei bod am fynd â chorff Dylan yn ôl i Dalacharn i’w gladdu, ac ar 17 Tachwedd hwyliodd ar long SS United States i Southampton gydag arch Dylan yn yr howld. Roedd yn addas ei fod yn dychwelyd drwy deithio ar y llong deithio orau a chyflymaf yr oedd gan America i’w chynnig.

Gan nad oedd yn gallu dioddef rhannu caban â menyw a ddisgrifiwyd ganddi fel ‘sort of glamour queen’, aeth ati i feddwi’n gaib ac ymddwyn yn wyllt ac fe’i hanfonwyd i’r howld i gysgu mewn gwely bync morwr ar bwys arch Dylan, lle mae Caitlin yn cofio meddwl i’w hun: ‘My God, this is exactly where I wanted to be…’. Roedd yn teimlo’n fwy cyfforddus yma, lle gallai fod yn agos at Dylan ar ei phen ei hun: ‘alone with my grief’. Defnyddiwyd yr arch gan grŵp o forwyr fel bwrdd i chwarae cardiau a rhoi eu poteli o gwrw arno. Meddyliodd Caitlin: ‘Dylan would have liked that’.

Roedd rhan olaf taith Dylan i’w gartref yng Nghymru’n un gwmpasog. Daeth brodor o Dalacharn, Billy Williams, i gasglu Caitlin ac arch Dylan yn nociau Southampton. Cymerwyd y troad anghywir ar un pwynt a chawsant eu hunain yn ne-orllewin Lloegr. Dywedodd Caitlin eu bod wedi stopio i fynd i rai tafarndai ar y ffordd gan adael arch Dylan yn y car tu fas cyn cyrraedd y Pelican yn Nhalacharn, sef tŷ ei fam weddw.

Teithiodd Dylan gyfanswm o oddeutu 30,000 o filltiroedd ar gyfer ei bedair taith yn America drwy groesi môr Iwerydd ar long neu mewn awyren a chan gynnwys teithiau cysylltiol i feysydd awyr a dociau, ond nid yw hyn yn cynnwys y teithiau mewnol a wnaeth yno. Cafodd ei gladdu ym mynwent eglwys St Martin yn Nhalacharn, lle claddwyd Caitlin hefyd; ac os daw cynlluniau i’w terfyn, efallai bydd yr SS United States a ddigomisiynwyd ym 1969 yn dod yn westy, yn ganolfan ddiwylliannol ac yn amgueddfa sy’n adrodd hanes y llong deithio.

Linda Evans, Canolfan Dylan Thomas

This post is also available in: English