Teithiau Dylan Thomas i America | Rhan 2

Teithiau Dylan Thomas i America | Rhan 2
Dylan Thomas exhibition at the Dylan Thomas Centre in Swansea, UK.

Yn ail ran ei blog ar ddulliau cludiant Dylan, mae Linda Evans yn edrych ar ei ail daith o UDA, pan aeth Caitlin gydag ef.

Yn fuan ar ôl cyrraedd Efrog Newydd am ei daith darllen cyntaf o America ym 1950, ysgrifennodd Dylan at ei wraig Caitlin ‘this terrible, beautiful, dream and nightmare city … would only be any good at all if we were together in it, if every night we clung together in it’.

Erbyn iddo ddychwelyd i Dalacharn, dros dri mis yn ddiweddarach, roedd straen a gwaith diflas gofalu am ei theulu ifanc bob dydd ar ei phen ei hun wedi effeithio ar Caitlin. Pan ymwelodd John Malcolm Brinnin, rheolwr taith Dylan ac awdur ‘Dylan Thomas in America’, â Thalacharn yr haf canlynol i drafod cynlluniau am daith arall, ei hymateb hi oedd ‘I’m left here to rot in this bloody bog with three screaming children and no money to pay the bills’. Er gwaethaf y ffrwydrad hwnnw, erbyn yr amser y gadawodd e’, roedd Caitlin yn siarad am fynd gydag e’ i America fel pe bai dyma’r hyn yr oedd ganddi mewn golwg o’r cychwyn cyntaf, er y byddai hynny’n golygu gadael eu plant ar ôl yng ngofal eraill.

Doedd Dylan ddim wedi mwynhau ei hediad trawsatlantig, diddiwedd i bob golwg, i America, ‘wedi’i gau i mewn yn y stratosffer’, felly ar yr achlysur hwn, fe deithion nhw ar long teithwyr o borthladd Southampton ar 15 January, 1952. Ar un adeg roedd amheuaeth a fydden nhw’n gallu hwylio; roedd Swyddfa Is-gennad America yn gwrthod ailddilysu fisa Dylan nes iddynt ymchwilio i’w ymweliad â Prague ym 1949, yng ngwlad gomiwnyddol Tsiecoslofacia, fel gŵr gwadd Undeb yr Ysgrifenwyr.   (Yr hyn sy’n eironig yw bod y daith hon cyn ei daith gyntaf i Efrog Newydd) Roedd e’n swnio’n amheus pan ysgrifennodd at John, ‘perhaps everything will work out okay. It’s just that there’s such very little time’.

Ar restr teithwyr Prydeinig llong White Star Cunard, dyddiedig 15 Ionawr, disgrifir galwedigaeth Dylan fel ‘Post’ (sic) a nodwyd bod Caitlin yn wraig tŷ. Nodwyd mai eu cyfeiriad cartref oedd 54 Delancey Street, Llundain. Fflat islawr yn Camden Town oedd hwn a brynwyd gan ei noddwr hael, Margaret Taylor, fel cartref i’r teulu yn Llundain, yn ogystal â’u cartref yng Nghymru, sef y Tŷ Cwch yr oedd hi hefyd wedi’i brynu iddynt.

Roedd John, a oedd yn talu am eu taith dosbarth caban, wedi addo’n gellweirus y byddai’n gosod carped coch ar lawr pe baent yn hwylio ar long y Queen Mary. Ar 16 Ionawr, derbyniodd gadarnhad drwy frysneges (neges a anfonwyd gan gebl teligraff tanfor): ‘See you Pier 90 Sunday, Bring Carpet Love Dylan Caitlin’. Roedd yn aros amdanyn nhw wrth yr angorfa i’w croesawu am ganol dydd ar 20 Ionawr, ‘gyda sgwâr bach o garped coch brenhinol’. Daeth y ddau oddi ar y llong, wedi’u paratoi’n dda ar gyfer tywydd gerwin y gaeaf yn Efrog Newydd. Arsylwodd fod Caitlin yn gwisgo het ffwr ddu, ac esgidiau uchel â ffwr arnynt ac roedd yn cario mwff ffwr mawr. Gwisgai Dylan ‘the great bulky brown parka that gave him the appearance of an errant koala bear’ yr oedd wedi’i wisgo o’r blaen wrth gyrraedd ar gyfer ei daith gyntaf.

Yn broffesiynol, roedd ail daith Dylan yn llwyddiant, ond fe’i handwywyd gan ‘ddadleuon uchel a stormus’ rhwng y cwpwl, a oedd fel arfer yn ymwneud â’r ‘menywod ffôl hynny a fyddai’n ei gwrso’. Fodd bynnag, ar ôl i Dylan fethu talu ffïoedd ysgol ei fab ac anfonwyd Llywelyn adref, cafwyd ffrae arbennig o ffyrnig rhyngddynt, gyda Caitlin yn bygwth rhoi terfyn ar eu priodas a gadael: ‘I started to pack my bags and tried to book a ticket on the next plane back to London’.

Dioddefodd hithau’r ychydig wythnosau olaf ac ar 16 Mai, hwylion nhw tua Southampton ar y llong deithio Nieuw Amsterdam, a oedd yn eiddo i Holland America Lines. Fe’i hatgyweiriwyd ym 1947 ar ôl cael ei hatafael gan y Llynges yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac roedd yn llong gyfforddus. Yn anffodus difethwyd y daith adref gan dywydd gwael; ysgrifennodd Dylan at gydnabod gan ddweud ei bod hi’n ‘Very rough and rocky in mid ocean’. Ysgrifennodd lythyr o ddiolch o’r llong hefyd i’w reolwr taith, gan esbonio y byddent yn dychwelyd i Dalacharn ac nid Camden Town, pan fydden nhw’n cyrraedd Southampton, gan sicrhau felly y byddai ‘pa arian bynnag’ yr oedd i ddod yn cael ei anfon i’r Tŷ Cwch.

Yn ôl yn ei sied ysgrifennu yn Nhalacharn, ar ôl pedwar mis dramor, mynegodd Dylan ei ryddhad o fod nôl gartref, gan ysgrifennu cerdd (anfoddhaol) sef ‘Letter on Returning to Wales from the United States of America 1952’. Mae’r llinellau agoriadol yn darllen ‘At home, sweet Christ, at last,’. Er hynny, ar ddiwedd yr haf, cyfarfu Dylan â’i asiant llenyddol yn Llundain ac mae John yn cofio iddo ddechrau siarad yn ddifrifol iawn am ddychwelyd i America am y trydydd tro, ac roedd yn dibynnu arno i wneud y trefniadau i aduno yn Efrog Newydd am ‘another whole roundabout of a tour’ y gwanwyn canlynol.

Linda Evans, Canolfan Dylan Thomas

This post is also available in: English