Dylan a Phen Pyrod

Dylan a Phen Pyrod

Yma yn Abertawe rydym yn ffodus bod penrhyn Gŵyr a’i harddwch o fewn pellter teithio rhwydd. Trwy gydol ei fywyd, roedd Dylan yn hoff iawn o’r ardal hon o harddwch naturiol eithriadol, yn arbennig pentir trawiadol Pen Pyrod (y gellir ei gyrraedd o bentref Rhosili) y daw ei enw yn Saesneg o ‘Wurm’, yr hen Saesneg am ddraig neu anghenfil môr. Roedd gan Dylan ddiddordeb mawr yn y ‘creadur’ hynod ddiddorol hwn ar ben mwyaf gorllewinol penrhyn Gŵyr, y gellir ei gyrraedd drwy groesi sarn caregog naturiol, ac sy’n hygyrch am ychydig oriau o bob ochr i’r llanw, a daeth yn un o’i hoff fannau pan oedd yn blentyn.

Yn un o’i lythyrau mynych at ei gyd-fardd (a’i gariad yn ddiweddarach), Pamela Hansford Johnson, disgrifiwyd y ‘mwydyn’ (fel y’i hadwaenir yn lleol) gan Dylan fel ‘a seaworm of rock pointing into the channel’, yr oedd yn ei ystyried yn ‘the very promontory of depression.’  Ac yntau’n cael ei fagu yn Abertawe faestrefol a dosbarth canol, roedd ei rymoedd elfennaidd yn ei ddenu a’i ffieiddio. Roedd profiad synhwyraidd amhleserus cerdded dros laswellt melyn hir rhyfedd a oedd yn creu arogl arswydus ac yn gwneud synau sugno yn ffiaidd, fel blew hir llygod mawr, gyda’r miliynfed cenhedlaeth o adar yn sgrechian uwchben gan ychwanegu at awyrgylch y cynefin.

Mae’n adrodd wrthi am brofiad brawychus yno:

I was trapped on the Worm once: I had gone on it early in the afternoon with a book and a bag of food and, going to the very, very end, had slept in the sun….And when I woke, the sun was going down…I ran over the rocks….The tide had come in. I stayed on that Worm from dusk till midnight, sitting on the top grass, frightened to go further in because of the rats and because of the things I am ashamed to be frightened of.’

Cafodd y profiad hwn ei gynnwys yn ddiweddarach yn ei lyfr o straeon byrion lle-fywgraffiadol sef Portrait of the Artist as a Young Dog, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 1940. Yn ‘Who Do You Wish Was With Us?’ mae Dylan a chyfaill iddo, ‘A couple of wanderers in wild Wales’, yn gadael y tai taglyd a’r lawntiau toredig ar ôl i ymweld â chorff cefngrwm a sarffaidd y mwydyn. Yma teimlai ymdeimlad dwfn o arwahanrwydd, a dywedodd nad oedd y lle hwn yn debyg i unman arall wrth iddynt gyrcydu wrth ben eithaf y penrhyn ymysg esgyrn a phlu, gyda gwylanod yn troi  uwchben. ’Perhaps there’s a cave with prehistoric drawings’, ystyria Dylan. Yn anochel, nid yw’r ddau’n sylweddoli faint o amser sydd wedi mynd heibio nes i’r haul fachlud a’r oerfel ddechrau eu hamgáu fel cyrn carw rhewllyd ac maen nhw’n sylweddoli nad oes cysylltiad rhyngddyn nhw â’r tir mawr.

Maen annhebygol y gwyddai Dylan nad ef oedd y dyn ifanc cyntaf i gael ei swyno gan yr ardal a chael ysbrydoliaeth lenyddol o Ben Pyrod. Ym 1894, daeth wŷr y bardd rhamantaidd Robert Southey, (a ddaeth yn Fardd Llawryfog ym 1813 tan ei farwolaeth) i fyw yn Rhosili.  Roedd Charles Southey yn un hynod a gariai llawddryll ac roedd hefyd yn dyheu am fod yn fardd. Mae Robert Lucas, yn ei lyfr A Gower Family yn dweud sut roedd gan y cymeriad lliwgar hwn ogof ar ben eithaf Pen Pyrod gyda chadair a bwrdd, ac fe ai yno’n aml i ysgrifennu barddoniaeth, gan honni ei fod yn ‘wych mewn tymestl’.

Mae’n ddiddorol nodi bod tebygrwydd rhwng y ddau ddyn ifanc hyn; mewn cyfweliad yn yr Evening Express ar 3 Mai 1899, dywedodd Southey, ‘Poetry has made me more or less unpractical [sic]. Where you have a certain gift you have very often a great corresponding deficiency.’ Mae’n gredadwy y byddai Dylan (y bu’n ysgrifennu mewn mannau anghyffredin ac anymarferol am y rhan fwyaf o’i fywyd fel oedolyn) wedi cymeradwyo dewis anturus Southey o fan ysgrifennu ar y mwydyn; ar ben hynny roedd y ddau ohonynt yn bendant yn ddiofal ac yn dueddol o gael eu hunain mewn trafferthion.  Er ei fod wedi ysgrifennu’r rhan fwyaf o’i waith gorau yno, cyfaddefodd Southey y bu bron iddo foddi ddwywaith oddi ar Ben Pyrod. Wynebodd y ddau ohonynt rymoedd natur wyllt a cholli iddynt, gan ddysgu nad oedd patrymau’r llanwau’n rhywbeth i chwarae â nhw ond y dylid eu parchu bob tro.

Ni chafodd Southey enwogrwydd drwy ei gerddi, ond tyfodd a thyfodd enw da Dylan. Ym mis Mehefin 1940, ychydig ar ôl cyhoeddi  Portrait of the Artist as a Young Dog, ymwelodd Dylan â Phen Pyrod eto, pan oedd ef a Caitlin yn aros gyda’i rieni. Croeson nhw’r sarn, yng nghwmni eu ffrindiau, y bardd Vernon Watkins ac Wyn Lewis o bentref Pennard, ac eto bu’n rhaid i Dylan (yn ddi-os gydag ymdeimlad o deja vu, ac yn pryderu y byddai’n cael ei adael yno am saith awr) frysio nôl gan fod y llanw’n dod i mewn. Yn ffodus, gyda chymorth Vernon, llwyddodd i groesi mewn pryd. Yn ystod y tro yn ôl i’r pentref, roedden nhw’n gallu edrych i lawr ar Fae Rhosili – ‘four or five miles of yellow coldness going away into the distance of the sea’, – a’r rheithordy unig a oedd yn llywyddu drosodd – sef testun ein blog nesaf.

Linda Evans, Canolfan Dylan Thomas

This post is also available in: English