Rhosili a’r Hen Reithordy
Yn y blynyddoedd diweddar, mae bae arobryn Rhosili ar ben gorllewinol penrhyn Gŵyr ger Abertawe wedi dod yn enwog ym mhedwar ban byd am ei ehangder trawiadol o dywod euraid, sy’n ymestyn am filltiroedd i’r pellter, wedi’i fframio gan fryniau a chlogwyni creigiog. Yr unig adeilad a saif yn y morlun hwn yw’r Hen Reithordy, annedd anghysbell â golygfa drawiadol o bentir Pen Pyrod ac olion ysgerbydol llongddrylliad yr Helvetia, a sgubwyd i’r bae ym 1887.
Er i Dylan Thomas deithio’n helaeth o gwmpas Cymru a Lloegr yn ystod ei fywyd fel oedolyn, parhaodd ei hoffter mawr o ardal Gŵyr. Rhosili yw’r lleoliad ar gyfer ei stori fer ‘Extraordinary Little Cough’ sy’n ymddangos yn ei gasgliad o straeon byr lled-fywgraffiadol, Portrait of the Artist as a Young Dog. Un haf, aiff ef a grŵp o ffrindiau i wersylla am bythefnos yn Rhosili. Dechreua’r antur gyda thaith a ymddangosai’n ddiddiwedd ar do lori: ‘Faint yn bellach?’ gofynna ffrind Dylan, Dan. ‘Miloedd o filltiroedd’ ateba Dylan, ‘Rhosili, UDA yw hwn’. Maen nhw’n cyrraedd yn y pen draw ac yn gweld y môr islaw, lle mae agerlong yn pwffian ar y gorwel. ‘Weli di’r môr lawr fan ‘na, mae e’n disgleirio, Dan’ cyhoedda Dylan.
Darllenodd Dylan y stori ym mis Hydref 1948 ar gyfer darllediad gan y BBC, ac ysgrifennodd yn hwyrach at ffrind a chyd-fardd o Abertawe, Vernon Watkins ‘I wish you had heard my story about Rhossilli [sic]. I wish I were in Rhossilli’. Ar y pryd, roedd yn byw yng nghefn gwlad Rhydychen ac roedd atgofion Dylan o wacter eang y bae ‘gwyllt, llwm ac anial’ gyda’i ehangder o fôr ac awyr yn amlwg yn ailddeffro ac yn ailgynnau ynddo ymdeimlad o hiraeth am fro Gŵyr.
Yr hyn sy’n ddiddorol yw ym 1953, pan yr ymddangosai y byddai’n rhaid i’r teulu adael eu cartref, sef y Tŷ Cwch yn Nhalacharn, ar fyr rybudd, ystyriodd Dylan ddod â nhw i fyw yn yr Hen Reithordy unig yng nghanol y bae a oedd yn edrych dros dywod Rhosili. Roedd hen gyfaill iddo, Guido Heller, yn rheoli gwesty’r Worm’s Head Hotel yn Rhosili, ac yn Dylan Remembered Volume Two mae’n cofio’r am yr adeg yr ymwelodd Dylan a Caitlin ag ef, pan grybwyllodd fod yr Hen Reithordy (y gellid ei gyrraedd ar hyd llwybr anwastad hir) yn wag. ‘Ac roedd e’n meddwl bod hwn yn lle rhagorol.’ Yna gofynnodd i Guido, ‘D’wed wrtha i, ble mae’r dafarn agosaf?’ Ar y pryd doedd dim trwydded gan y gwesty ac roedd y dafarn agosaf filltiroedd i ffwrdd. (Roedd The Ship Inn yn Middleton gerllaw wedi cau ym 1906). Meddai Dylan siomedig ‘Gallwn i byth ag ymdopi â hynny, mae e’n llawer rhy bell i ffwrdd’. O ganlyniad, anghofiwyd am y syniad i adleoli i’r ‘hen reithordy llawn llygod a berchnogir gan ffermwr gwallgof’, fel y’i disgrifiwyd gan Dylan mewn llythyr.
Ni fyddai diffyg tafarn wedi poeni’r Parchedig J P Lucas, rheithor eglwys Rhosili, a fagodd ei deulu mawr yno yn y 19eg ganrif. Er nad oes tystiolaeth i awgrymu bod Dylan yn gwybod unrhyw beth am deulu’r rheithor, mae tebygrwydd amlwg cyd-ddigwyddiadol rhwng gyrfa mab y Parchedig Lucas, Loftus, a bywyd a gwaith Dylan.
Dywed Robert Lucas, un o hynafiaid y Rheithor wrthym y daeth Loftus, yn ystod gyrfa deugain mlynedd ar y môr, yn gapten llong ym 1892, ac yntau’n 25 oed, ac yn ystod yr amser hwnnw hwyliodd ledled y byd, yn enwedig i America. Gan adel ei wraig Annette (a elwid Tiny) gartref yn Hampstead, bu’n gapten ar rai o’r llongau teithio cyntaf ar draws yr Iwerydd ar ddechrau’r 1900au, a oedd yn dilyn y llwybr rhwng Southampton ac Efrog Newydd. Roedd hon wrth gwrs yn daith a wnaed gan Dylan ar sawl achlysur ar gyfer ei deithiau o America.
Mewn atsain o Dylan o Lareggub (lleoliad ‘Under Milk Wood’) roedd Loftus bob amser yn cario llyfryn bach yn ei gist môr, rhodd gan ei frawd Tottenham pan aeth i ffwrdd ar y môr am y tro cyntaf. Yn y llyfryn hwn roedd pum cynllun a dynnwyd gan law o Rosili a’r pentrefi amgylchynol ym 1885, a oedd yn manylu ar safle o pob annedd a chydag enwau’r deiliaid wedi’u rhestru wrth eu hymyl, ac wedi’i gyflwyno iddo fel a ganlyn: ‘To my dear brother to remind him on his voyages of our old home’.
Roedd Dylan yr un mor ordeimladwy. Trwy gydol ei fywyd, fe gariai erthygl papur newydd a oedd yn ei ddangos ef, yn 12 oed, yn Ysgol Ramadeg Abertawe, yn ennill y ras filltir ar ddiwrnod chwaraeon. Fe’i canfuwyd yn ei waled ar ôl ei farwolaeth, a byddai wedi croesi’r cefnfor i America gydag ef.
Ar ben hynny, er wrth gwrs drwy siawns pur, collodd Dylan ei lawysgrif o ‘Under Milk Wood’ (a oedd wedi’i gorffen o’r diwedd) mewn tafarn yn Llundain ychydig cyn iddo adael am ei daith olaf i America ym mis Hydref 1953. Anfonodd un o gynhyrchwyr y BBC, Douglas Cleverdon, i chwilio’r tafarndai y byddai’n eu mynychu lle canfuwyd hi y tu ôl i’r bar mewn tafarn o’r enw’r Helvetia yn Soho.
Mae’n bosib pe bai Dylan wedi byw yn hwy a symud i Rosili y gallai’r Hen Reithordy fod wedi dod yn symbol yr un mor eiconig ar gyfer ei greadigrwydd â’r Tŷ Llong a’r sied ysgrifennu yn Nhalacharn. Doedd ymarferoldeb byth yn flaenoriaeth i Dylan, felly’r lleoliad a’r neilltuaeth fyddai wedi llywio’i benderfyniad. Mae Rhosili’n bendant yn lleoliad mwy elfennaidd, gyda’i harddwch gwyllt, agored a rhu ewyn y don – gwagle mawr y gallai fod wedi’i lenwi gydag ysbrydoliaeth lenyddol.
Linda Evans, Canolfan Dylan Thomas
This post is also available in: English