Gwobrau Amgueddfeydd yn Newid Bywydau

Gwobrau Amgueddfeydd yn Newid Bywydau

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod ein prosiect ‘Llenyddiaeth a Thrawma’ gydag Eric Ngalle Charles wedi cyrraedd y rhestr fer yng ngwobrau ‘Amgueddfeydd yn Newid Bywydau’ Cymdeithas Amgueddfeydd y DU!

Mae’r gwobrau Amgueddfeydd yn Newid Bywydau yn dathlu cyflawniadau amgueddfeydd ac unigolion sydd wedi cael effaith ar fywydau cynulleidfaoedd a chymunedau, a chaiff enwau’r enillwyr eu cyhoeddi mewn seremoni yn ystod cynhadledd y Gymdeithas Amgueddfeydd a gynhelir ar-lein ar 5 Tachwedd. Rydym wedi’n henwebu ar gyfer y categori ‘Prosiect bach gorau mewn amgueddfa sy’n cyflawni effaith gymdeithasol’.

Mae’r prosiect yn seiliedig ar gyfres o weithdai ysgrifennu creadigol ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches, dan arweiniad yr ysgrifennwr o Cameroon, Eric Ngalle Charles, sydd bellach yn byw yng Nghymru. Mae profiadau personol Eric o ddadleoliad a cheisio lloches yn hanfodol wrth ddarparu man diogel i gyfranogwyr gael mynegi eu hunain.

Yn ystod sesiynau ‘Llenyddiaeth a Thrawma’, mae pobl yn adrodd eu straeon unigryw drwy farddoniaeth a rhyddiaith. Mae cynnal y sesiynau yn ein man dysgu’n sicrhau bod cyfleusterau chwarae ar gael i blant, sy’n caniatáu i’r oedolion ganolbwyntio, ac mae’r tocynnau bws a ddarperir am ddim yn sicrhau nad oes unrhyw rwystr o ran costau teithio. Mae’r gwaith a wneir yn y gweithdai wedi ymddangos mewn digwyddiadau diwylliannol, yn y cyfryngau lleol ac wedi’i ddarllen ar y radio.

Mae’r gweithdai’n galluogi’r rheini sy’n cymryd rhan i deimlo fel rhan o’r gymuned ehangach, er mwyn manteisio ar leoliadau diwylliannol a chanfod eu ffordd mewn dinas newydd. Mae ein harddangosfa a gefnogir gan y Gymdeithas Amgueddfeydd wedi dod yn ganolbwynt ac yn fan diogel i grŵp ymroddedig a dawnus o’r gymuned hon sy’n aml yn cael ei hesgeuluso.

Rydym wrth ein boddau bod ein gwaith gydag Eric a’n cymunedau wedi’i gydnabod ar y rhestr fer, ac edrychwn ymlaen at y seremoni wobrwyo ar-lein ar 5 Tachwedd!

I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau Amgueddfeydd yn Newid Bywydau, ewch i museumsassociation.org/campaigns/museums-change-lives/museums-change-lives-awards-2020

This post is also available in: English