‘Sea-spying windows’ and ‘smoky ship-pictured bars’: Dylan Thomas’ ‘Quite Early One Morning’ (1945) Rhan 2

Rhan 2

Pan adawon ni ran gyntaf y blog hwn, ‘Quite Early One Morning’, roedden ni’n ymhyfrydu yn sylwadau digrif Dylan am Geinewydd a thrigolion llonydd y dref. Ar ôl ychydig, mae’r darllediad yn mabwysiadu naws hiraethus sy’n dangos ei fod wedi diflasu ar y byd, ac rydyn ni’n clywed am ddihangfa yr adroddwr o fywyd y ddinas i lonyddwch gorllewin Cymru. Mae’r adroddwr yn mynegi ei deimladau wrth grwydro’r strydoedd, ‘fresh or stale from the city where [he] worked for [his] bread and butter wishing it were laver-bread and country salt butter yolk-yellow’. Rydyn ni’n clywed ganddo, ‘a stranger come out of the sea’, sy’n teimlo’n fwyfwy dilyffethair a rhydd wrth iddo fynd. Mae’n diosg ‘weed and wave and darkness with each step’ ac rydyn ni’n deall ei fod wedi’i eni o’r newydd yn y dirwedd chwedlonol sy’n cael ei chreu wrth i ni wrando.

Mae’r weledigaeth arallfydol hon yn cael ei chreu drwy nifer o dechnegau: o gyferbynnu’r ardal hon sy’n wynebu’r môr ar ymyl y byd â’r ddinas fawr; gosod y cyflyrau o gysgu ochr yn ochr â bod yn effro, sy’n datgelu’r lleoedd posib y mae ei gymeriadau pob dydd yn breuddwydio amdanyn nhw; i ddefnydd celfydd Dylan o’i dreftadaeth ieithyddol ddwyieithog ei hun (er enghraifft, mae’n defnyddio’r gair ‘Parchedig’, gair Cymraeg ar gyfer gweinidog y dref, ac rydyn ni’n cydnabod pwysigrwydd delwedd reolaidd y môr fel rhywbeth sy’n ‘siarad Cymraeg’ neu’n ‘ddwyieithog’).

Yn yr un modd, mae deuoliaethau — sy’n cael eu sefydlu drwy ddelweddau canolog amser a’r môr — wrth wraidd darllediad Dylan. Mae’n ymddangos bod arferion y ‘cliff-perched town at the far end of Wales’ yn aros yn ddigyfnewid ac mae’r gwrandäwr yn canfod natur ‘dragwyddol’ amser — sy’n cael ei phersonoli gan gyfarfod yr adroddwr â’r ‘old counter of the heartbeats of albatrosses’ (Tad Amser), sy’n gwisgo gŵn nos ac yn dal awrwydr a phladur. Ar yr un pryd, mae’r ‘bilingual sea’ y mae’r adroddwr ei hun wedi dod ohono’n symud o hyd —  ‘tar-black howling and rolling’ un eiliad ac yna ‘still and green as grass’ yr eiliad nesaf. Mae’n byrlymu â lleisiau niferus sy’n ymddangos ac yn diflannu drwy niwl y bore. Yn ogystal â braslun o Geinewydd, mae ‘Quite Early One Morning’ hefyd yn cyflwyno sensitifrwydd Dylan i fyd pobl a’i ymdeimlad o hunaniaeth yn ei holl amwysedd, gyda’i holl freuddwydion tanddaearol.

This post is also available in: English