‘Sea-spying windows’ a ‘smoky ship-pictured bars’: ‘Quite Early One Morning’ (1945) gan Dylan Thomas

Rhan 1

Yn ddiweddar, darganfûm ddarllediad o ‘Quite Early One Morning’ (1945) gan Dylan Thomas, a recordiwyd gyntaf ym 1944 a’i ddarlledu gan y Gwasanaeth Cartref ar 31 Awst 1945. Wrth i mi wrando, roeddwn yn gallu clywed, yn ei agoriad, ei leoliad, ac yn hiwmor annwyl Dylan fersiwn ddychmygol o dref glan môr yng ngorllewin Cymru, darnau a fyddai, yn y pendraw, yn ffurfio stori Llaregubb, neu ‘The Town that was Mad’ – sy’n fwy adnabyddus fel Dan y Wenallt.

Mae’r darllediad yn creu delweddau o Gei Newydd, tref bysgota yng Ngheredigion: mae’n ddarlun rhyfeddol o fore oer yn mis Rhagfyr cyn i’r dref ddeffro i’w hamserlen feunyddiol. Mae adroddwr stori Dylan yn ymddwyn fel ffigwr Siôn cwsg, yn cynnig cyfle i mi glustfeinio ar ddelweddau dychmygol lledeffro pobl foesgar y dref sydd efallai’n byw, yn ei dyb ef, ‘terrible and violent in their dreams’.

Wrth i mi wrando, roedd fel petawn i’n gallu gweld pobl y dref yn breuddwydio: y capteiniaid môr sydd wedi ymddeol sy’n dod i’r wyneb ‘from deeper waves than ever tossed their boats’ er mwyn dychwelyd i’w ‘Mediterranean-blue cabin of sleep’; Roeddwn wedi fy syfrdanu gan Miss Hughes, y gapelwraig ‘slate-grey’ sy’n hoff o weu,  ‘The Cosy’, yr oedd ei gweledigaethau egsotig o’r Dwyrain yn tywynnu’n ‘sapphire, emerald [and] vermillion’ yn cynrychioli hud a gwylltineb nos nad yw hi’n eu gweld yn ystod y dydd. Yn ei breuddwydion: ‘Eunuchs [strike] gongs the size of Bethesda Chapel’, a ‘Sultans with voices fiercer than visiting preachers [demand] a most un-Welsh dance’. Ar ôl y cyffro hwn, ymunais â breuddwydion groser, Cadwallader Davies, sy’n ailddyfeisio’i hun yn gowboi â gynnau. Mae’r holl freuddwydion hyn yn dod at ei gilydd i greu ymdeimlad o fyd o fewn byd i’r gwrandäwr: bywyd llawn dychymyg sy’n sail i’r dref gysglyd, fechan hon a welwn ar yr arwyneb.

Yr hyn a oedd fwyaf trawiadol i mi am y darllediad oedd y ffaith fod Dylan yn dda wrth gymysgu arsylwadau manwl â nodweddion barddonol a bod ganddo ddawn ddireidus am addurno ac amseru comig. Mae’r gomedi fusneslyd y sonnir amdani drwy ‘sea-spying windows’ yn cyd-fynd yn dda â’r dôn fwy athronyddol ddiffuant llawn byd-ludded y byddwn yn ei gweld yn ail ran y post blog hwn!

Alexia Bowler

This post is also available in: English