Gwobrau Amgueddfa Fwyaf Addas i Deuluoedd 2017 #FFMA17

Ddydd Llun, 2 Hydref, cawsom y fraint o gael ein gwahodd i Lundain fel amgueddfa ar y rhestr fer ar gyfer digwyddiad blynyddol Gwobrau Amgueddfa Fwyaf Addas i Deuluoedd! Yn dilyn araith afaelgar ac angerddol gan y cyflwynydd teledu a’r awdur Philip Mould, a oedd yn hapus dros ben gyda’r gwaith parhaus y mae Plant Mewn Amgueddfeydd wedi bod yn ei wneud dros y blynyddoedd, roedd y tensiwn yn cryfhau wrth i’r enillydd gael ei enwi ychydig cyn 1pm…

Llongyfarchiadau mawr i Amgueddfa’r Bobl ym Manceinion, sydd wedi’i henwi’n swyddogol fel Amgueddfa Fwyaf Addas i Deuluoedd y DU ar gyfer 2017! Rydym yn edmygu’ch gweithdai ‘School Living History’ a’ch rhaglen o ddigwyddiadau sy’n cynnwys yr holl deulu dros gyfnod o flwyddyn.

Rydym yn falch iawn ein bod wedi’n henwebu ar gyfer gwobr mor fawreddog a’n bod wedi cyrraedd y rhestr, a hoffwn ddiolch i bob teulu sydd wedi’n henwebu. Rydym yn gobeithio parhau i gysylltu â chi, eich addysgu, a hyd yn oed yn eich ysbrydoli am flynyddoedd i ddod.

Byddwn yn parhau â’n gwaith i gael pobl ifanc i ymweld â lleoliadau diwylliannol gyda’n cais i gael ein henwi fel Dinas Diwylliant y DU 2021. Gallwch gefnogi’n hymgyrch drwy ddefnyddio #Abertawe2021 ar gyfryngau cymdeithasol.

Cynhelir ein digwyddiad Plant Mewn Amgueddfeydd er mwyn cynnwys pobl ifanc ar #DiwrnodMeddiannu ar 9 Tachwedd, lle gallwch ddisgwyl gweld rhai o’n hymwelwyr ifanc yn cymryd rhan yng ngwaith cynnal arddangosfa ‘Dwlu ar y Geiriau’ y tu ôl i’r llenni a gwaith datblygu adnoddau synhwyraidd newydd i ymwelwyr sy’n addas i deuluoedd.

Am fwy o wybodaeth, neu i gymryd rhan, cysylltwch â’r ganolfan yn uniongyrchol drwy ffonio 01792 463980 neu defnyddiwch @CDTAbertawe ar Twitter.

This post is also available in: English