Mrs Isabel Hole ac Ysgol Un Athrawes Mirador

Mrs Isabel Hole ac Ysgol Un Athrawes Mirador

Ar gyfer Mis Hanes Menywod, mae Linda yn archwilio hanes sefydlu a datblygiad Ysgol Un Athrawes Mrs Hole yn Uplands.

Mae pob plentyn yn dechrau dysgu o’i enedigaeth, ond mae’r hyn rydym yn ei ystyried yn gyffredinol yn flynyddoedd ysgol gynradd yn nodi’n dechreuad ar hyd llwybr addysg ffurfiol tuag at oedolaeth. Ar gyfer Dylan Thomas, dechreuodd y ‘gromlin dysg’ hon yn Mirador Crescent, enw priodol iawn, i lawr y rhiw ac ychydig strydoedd i ffwrdd o’i gartref yn Cwmdonkin Drive. (Mae’r gair Mirador yn tarddu o’r Sbaeneg, a gall olygu balconi neu ffenestr y ceir golygfa eang drwyddi – yr ail yn yr achos hwn.) Roedd e’ eisoes yn saith oed pan gofrestrwyd e’ gan ei rieni, DJ a Florence, yn Ysgol Un Athrawes Mrs Isabel Hole.

Roedd Ysgolion Un Athrawes wedi bod yn rhan o fywyd addysgol mewn gwledydd lle siaradwyd Saesneg mor bell yn ôl â’r 17eg ganrif. Roeddent fel arfer yn sefydliadau preifat yr oedd yn rhaid talu ffioedd iddynt, a nhw oedd rhagflaenwyr ysgolion meithrin, babanod ac elfennol. Roedd llawer yn darparu ar gyfer merched, a oedd yn dysgu sut i wnïo, brodio ac arlunio – gelwid y rhain ‘y grasusau’. Roeddent bron yn ddieithriad yn cael eu rhedeg gan fenywod (gwragedd gweddw oedrannus yn aml) o’u cartrefi eu hunain, a gallai safon yr addysg fod yn hynod amrywiol. Nid oedd rhai’n darparu llawer mwy na chyfleusterau gofal dydd, a byddai gan yr hen ferched yr enw o fod yn athrawon rywsut-rywsut a di-glem. Aeth yr enwogwr llenyddol o’r 19eg ganrif, Charles Dickens, i Ysgol Un Athrawes, ac yn ei nofel ‘Great Expectations’ mae’r Pip ifanc yn mynd i ysgol o’r math, lle mae’r hen ferch yn treulio mwy o amser yn cysgu na’n addysgu.

Drwy lwc, roedd llawer o ysgolion Un Athrawes yn darparu sylfaen dda mewn sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol, a rhoddwyd blaenoriaeth i les disgyblion. Ymddangosodd enghraifft ddiddorol yn The Cambrian, papur newydd wythnosol yng Nghymru, ar 4 Gorffennaf 1840: cafwyd hysbyseb ynddo am Ysgol Baratoi i Fechgyn (disgyblion dydd neu breswyl) pedwar i naw oed, a gynhaliwyd gan Mrs Le Courteur, yn 4 Nelson Place, Abertawe.  Addawodd roi sylw i iechyd a chysur unrhyw fonheddwr ifanc a roddwyd yn ei gofal. Disgrifiwyd y lleoliad fel un ‘iach’, gyda’r hinsawdd yn ‘arbennig o fwyn’ a ‘ger y môr’.

Yn anffodus, roedd Dylan, yr oedd cartref ei blentyndod yn Uplands, o fewn cyrraedd hawdd i awelon iachusol Bae Abertawe, yn blentyn gwanllyd. Fe’i ganed ym 1941, roedd yn dioddef o asthma a broncitis, ac roedd ei fam yn gwneud iawn am hyn drwy fod yn rhiant cydwybodol o amddiffynnol. Pan fyddai’n sâl yn ei wely, byddai Florence yn darllen iddo. Dywedodd wrth fywgraffydd Dylan, Constantine Fitzgibbon, ei fod, mwy neu lai, wedi dysgu’i hunan i ddarllen.

Fyddai ‘cythrwfl’ yr ysgolion gwladol lleol ddim yn addas ar gyfer Dylan; Does dim dwywaith bod sefydliad preifat Mrs Hole (ar gyfer tua 24 o ddisgyblion mewn tŷ teras maestrefol) yn ymddangos i Florence fel cyflwyniad mwy tyner a charedig o ddysgu, lle gallai ei mab eiddil gymysgu gyda phlant dymunol fel yr oedd yn gweddu i fab Uwch-athro Saesneg yn Ysgol Ramadeg Abertawe.

Mae’n ddiddorol edrych ar y gadwyn o ddigwyddiadau a arweiniodd at sefydlu Ysgol Un Athrawes Mirador yn yr hyn a ddisgrifiwyd gan Dylan fel ardal faestrefol hunanfoddhaus o Abertawe. Dengys cofnodion archif fod Isabel wedi priodi Herbert Augustus Hole (prif fragwr a mab i ficer) ym 1891 yn Bedford. Roedd y ddau’n enedigol o Loegr.  Mae cyfrifiad y flwyddyn honno’n cofnodi ei galwedigaeth fel Athrawes Gerddoriaeth, Gwraig Radd yr Academi Gerdd Frenhinol (LRAM), diploma proffesiynol a oedd yn agored i ymgeiswyr allanol.

Cyn i’w gŵr farw ym 1900, yn 40 oed, cafodd y cwpwl 3 phlentyn: Leonard yn gyntaf, yna Dorothy a Herbert (‘Eric’), y ganed y tri ohonynt yn Swydd Nottingham.  Ond dengys cofnodion profiant, dyddiedig Awst 1900, mai cyfeiriad Herbert oedd Singleton House, Singleton Street, Abertawe, yr oedd bracty’n sownd iddo (safle Bragdy Abertawe a sefydlwyd ym 1835). Roedd ei ystad o £4,544 yn golygu bod gan Isabel ddigon wrth gefn ac yn gallu sefydlu ysgol gyda phwyslais cryf ar gerddoriaeth, fel yr oedd yn gweddu i’w chymhwyster proffesiynol.

Erbyn cyfrifiad 1901 roedd, Mrs Hole (gweddw, 38 oed) a’i theulu ifanc yn byw yn 22 Mirador Crescent, er ni nodwyd beth oedd ei swydd.?? Cyflogai Eliza Sadler, 23 oed, fel cynorthwywraig i fam/morwyn a Mary Anderson fe morwyn cartref cyffredinol.

Gallwn weld bod yr Ysgol Un Athrawes wedi’i hen sefydlu erbyn cyfrifiad 1911, gyda Mrs Hole yn cael ei disgrifio fel Pennaeth y cartref ac yn athrawes gerddoriaeth mewn ysgol ganol i ferched gyda phedwar disgybl preswyl benywaidd, y ganed dwy ohonynt yn India i ddeiliaid Prydeinig. Yr hyn sy’n ddiddorol yw bod Eliza Sadler wedi’i dyrchafu i rôl athrawes gartref, ac o’r holl aelwyd, dim ond un person (morwyn tŷ) a aned yng Nghymru.

Trefnodd Mrs Hole ei hysgol fel bod yr ystafelloedd addysgu cyffredinol ar y llawr gwaelod a’r ystafell gerdd lan lofft. Eisteddai ar ddesg uchel i hawlio sylw, yn enwedig gan y bechgyn, a eisteddai’r tu ôl i’r merched. Gwyddwn o waith ysgrifennu Dylan fod ei harddull addysgu’n gadarn ond yn garedig. Roedd ei merch, Dorothy yn ei chynorthwyo, a oedd yn arbennig o ddefnyddiol pan oedd angen cysuro plentyn. Roedd Eliza yn rhoi gwersi piano.

Aeth Dylan i’r ysgol (yr oedd weithiau’n ei chrybwyll fel ‘ysgol baratoi’) tan 1925, pan symudodd i Ysgol Ramadeg Abertawe, yn 11 oed. Yn y cyfamser, parhaodd yr Ysgol Un Athrawes i addysgu plant ifanc am flynyddoedd lawer; gwyddwn o Gofrestr 1939 fod Mrs Hole yn brifathrawes yno o hyd, ac Eliza ffyddlon oedd y wraig cadw tŷ a’r ysgolfeistres gynorthwyol. Ym 1923, priododd Dorothy frocer stoc, a chroesawyd y fatriarchaeth hon gan ei gŵr a aeth i fyw yng nghartref ei wraig.

Bu farw Isabel ym 1951, yn 83 oed, ac erbyn hynny, roedd ei disgybl ifanc wedi hen flodeuo’n fardd byd-enwog. Byddai’n ddiddorol gwybod a oedd hi’n darllen ei waith ac i ba raddau y teimlai fod ei addysg gynnar yn ei Hysgol Un Athrawes hi wedi dylanwadu ar ei ysgrifennu.  Roedd profiadau Dylan yn bendant wedi gadael argraff arno, a dyma fydd testun y blog nesaf.

Linda Evans, Canolfan Dylan Thomas

This post is also available in: English