Gweithgaredd ‘Here in this spring’: Ysgrifennu ac Addurno Llythyr

Gweithgaredd ‘Here in this spring’: Ysgrifennu ac Addurno Llythyr

Roedd Dylan Thomas yn dwlu ar ysgrifennu llythyrau. Ysgrifennwyd yn o lythyrau cyntaf Dylan yr ydym yn gwybod amdano at ei chwaer hŷn, Nancy, pan oedd tua 11 oed, a dyma oedd y cyntaf o gannoedd o lythyrau a ysgrifennwyd ganddo yn ystod ei fywyd. Mae’r rhan fwyaf o’i lythyrau wedi’u cyhoeddi yn Collected Letters, sydd dros 1,000 o dudalennau o hyd!

Nid ydym yn ysgrifennu llythyrau at ein gilydd llawer heddiw, ond mae pawb yn dwlu ar dderbyn rhywbeth cyffrous drwy’r post! Wrth i ni dreulio’r Pasg gartref, mae’n gyfle gwych i roi gwên ar wyneb rhywun drwy greu rhywbeth yn arbennig iddyn nhw. Beth am greu papur ysgrifennu wedi’i addurno’n hardd, ac yna ysgrifennu neges at rywun arbennig? Dychmygwch pa mor hapus y byddant yn ei agor!

Byddwn yn brysur gartref yn creu llythyrau wedi’u haddurno’r wythnos hon, a byddwn yn defnyddio thema un o gerddi Dylan, Here in This Spring, i addurno’n papur ysgrifennu. Dyma rai llinellau a lluniau gwahanol o’r gerdd i’ch ysbrydoli:

‘Here in this spring, stars float along the void’

‘I should tell summer from the trees’

‘I should learn spring by the cuckooing,
And the slug should teach me destruction’

‘A worm tells summer better than the clock,
The slug’s a living calendar of days’

Rydym wedi defnyddio papur lliw, papur sidan, pinnau a phensiliau lliw, tâp ‘washi’ a phwnsh crefft ar gyfer ein rhai ni, a’r peth gorau yw gallwch ddefnyddio beth bynnag sydd gennych yn y tŷ. Gall rhywbeth syml a wnaed gyda phapur lliw a phensiliau fod yr un mor effeithiol â llythyr sydd wedi’i addurno’n gymhleth.

Dyma rai llythyrau a grëwyd gan bobl eraill i roi ychydig syniadau i chi-

Dyma’r gweithgaredd perffaith i’w wneud gartref, felly gadewch i ni fod yn greadigol a gwella diwrnod rhywun gyda llythyr. At bwy fyddwch chi’n ysgrifennu?

This post is also available in: English