Creu eich cerdd ‘Here in this spring’ weledol eich hun

Creu eich cerdd ‘Here in this spring’ weledol eich hun

Pan fyddwn yn meddwl am gerdd, rydym yn meddwl am eiriau ar dudalen. Yn aml defnyddir y geiriau hyn i greu teimlad neu i weld delwedd o rywbeth yn ein meddyliau. Yn y gweithgaredd hwn, byddwn yn creu cerdd gan ddefnyddio gwahanol wrthrychau a bydd y gwrthrychau hyn yn ein helpu i greu delwedd neu rannu emosiwn.

Drwy greu ‘cerdd weledol’, byddwch yn cael llawer o hwyl wrth gasglu gwrthrychau a’u trefnu yn ogystal â mwynhau gweithgaredd hygyrch sy’n galluogi i wahanol oedrannau a galluoedd gymryd rhan a mwynhau barddoniaeth.

Mae ein cerddi gweledol wedi’u hysbrydoli gan gerdd ‘Here in this spring’ Dylan Thomas, lle mae’n ysgrifennu am y tymhorau newidiol. Fe’i hysgrifennwyd pan oedd yn ddyn ifanc yn byw yn Abertawe.

Rydym wedi creu sawl enghraifft i’ch helpu i ddechrau arni, a does dim rheolau, heblaw am fwynhau!

  • Darllenwch gerdd ‘Here in this spring’ Dylan Thomas, neu gwrandewch ar rywun arall yn ei darllen. Efallai y byddwch am gasglu eitemau yn eich cartref neu’ch gardd y mae’r gerdd hon yn gwneud i chi feddwl amdanynt, neu gallwch fynd am daith gerdded y gwanwyn a thynnu lluniau o bethau sy’n eich atgoffa o’r gerdd.
  • Ewch ati i greu eich cerdd weledol eich HUN drwy dynnu lluniau neu arlunio’r pethau hynny rydych yn eu gweld wrth fynd am dro gwanwynol. Efallai eich bod yn teimlo’n hapus heddiw, ac yn sylwi ar yr holl dyfiant a’r heulwen. Neu efallai eich bod yn teimlo’n drist ac am dynnu lluniau o gymylau tywyll neu bwll mwdlyd. Os nad oes gennych gamera, gallech dynnu llun o rywbeth rydych wedi’i weld wrth fynd am dro sy’n esbonio sut rydych yn teimlo neu’r hyn rydych chi wedi’i weld. Efallai yr hoffech gasglu pethau ar hyd y ffordd fel brigau a cherrig bychain a’u trefnu i lunio ‘cerdd’ pan fyddwch yn cyrraedd adre.
  • Mae cerddi’n dilyn patrwm rhythm neu odl fel arfer, felly gallwch drefnu eich eitemau mewn patrwm hefyd. Gallech hefyd drefnu eich eitemau mewn patrymau o bedwar: pedwar brigyn, pedwar carreg fach, pedair deilen etc. Yn ein cerdd Spring at the Beach, fe drefnon ni ein cylch o drysorau mewn patrwm 3, 1, 3, 1 etc., gyda phâr o fenig yn y canol.
  • Er mwyn cyfleu’r ‘odl’, sef defnyddio geiriau sy’n swnio’r un peth ar lafar mewn cerdd, defnyddiom liw. Yn ein cerdd Cosy Spring, defnyddiom liwiau pinc ysgafn a glas golau i ‘odli’ gyda’i gilydd. Gallech hefyd ddewis grŵp o wrthrychau y mae eu henwau’n odli gyda’i gilydd! Mae llawer o ffyrdd o wneud hyn, felly gwnewch yr hyn sy’n teimlo orau i chi.
  • Pan fyddwch wedi gorffen eich cerdd, dangoswch hi i rywun a gofynnwch iddynt sut mae’n gwneud iddyn nhw deimlo neu beth mae’n gwneud iddyn nhw feddwl amdano. Os hoffech rannu’ch canlyniadau â ni, gallwch ein tagio ar-lein yn @CDTAbertawe/ Facebook.com/CanolfanDylanThomas neu ein e-bostio’n uniongyrchol yn dylanthomas.lit@swansea.gov.uk. Gwanwyn hapus i chi!

This post is also available in: English