Mr Mog Edwards a Miss Myfanwy Price Dan y Wenallt

Mr Mog Edwards a Miss Myfanwy Price Dan y Wenallt

Mae Linda Evans o Ganolfan Dylan Thomas yn archwilio’r berthynas rhwng dau o breswylwyr Llareggub, Mog Edwards a Myfanwy Price, sy’n ffynnu ar beidio byth â bod gyda’i gilydd.

Perchennog Manchester House, emporiwm ar fryn stryd fawr Llareggub, yw Mr Mog Edwards (y tybir ei fod yn ddyn di-briod). Mae’n frethynnwr, yn ddilledydd, yn deiliwr o fri ac yn werthwr gwisgoedd, ac mae ei sgiliau’n addas i bob dosbarth ac achlysur mewn bywyd, o greu dillad rhad ar gyfer gwaith amaethyddol i ffrogiau amser te, gwisgoedd hwyrol, dillad priodi a dillad baban.

Yn y cyfamser, yn agosach at y môr yn Lôn Cregyn, mae’r weddw Miss Myfanwy Price, gweuwraig, gwniadwraig a pherchennog siop losin sy’n fenyw sionc a thrwsiadus, yn byw ar ei phen ei hun mewn ffordd hunanfodlon a manwl. Mae’n bwyta tost ac ŵy wedi’i ferwi (â chap ŵy i’w gadw’n gynnes) wrth iddi eistedd fel pin mewn papur yn ei chôt tŷ binc brydferth ar ôl pitran-patran i mewn o’r lein ddillad.

Mae’n deimladwy iawn bod y pâr yn cynnal carwriaeth hirsefydlog sy’n dibynnu ar ddeunyddiau ysgrifennu a stampiau i gyfleu eu hiraeth a’u hangerdd ffyddlon a didwyll am ei gilydd. Bob nos, maent yn ysgrifennu llythyrau serch, ac yn eu hanfon yn ôl ac ymlaen i’w gilydd, ond nid yw’r berthynas byth yn symud ymlaen. Mae bywyd yn ddigyffro yn y lle marwaidd hwn; does fawr ddim newyddion ac mae elw’n brin: dywed Myfanwy wrtho am y nifer cymharol fach o losin a chardiau post mae wedi’u gwerthu mewn manylder; mae busnes yn wael iawn i Mog a phrin yw’r cwsmeriaid. Ond rhaid cynnal safonau: mae yntau’n gwisgo’i goleri pigog a’i het wellt wrth iddo wneud fawr ddim ond meddwl am ei gariad, a hithau’n treulio’i hamser yn gwau rhosod ar ei doilis.

Mae Mog yn dduwiol, yn fyrlymus, yn ddyheadol ac mae arian yn hollbwysig iddo; ac mae perthynas rhwng brethynnwr a menyw fusnes ffasiynol yn apelio ato. Er eu bod yn datgan eu cariad bythol at ei gilydd, yn eu breuddwydion yn unig y maent yn cwrdd ac yn caniatáu i wedduster lithro. Breuddwydia Myfanwy fod Mog yn cael ei drawsnewid yn ffigwr tebyg i Samson, ar berwyl i’w chludo ymaith a’i llithio â gogoniannau ei emporiwm, lle bydd yn gorwedd wrth ei hymyl ac yn twymo’r cynfasau fel tostiwr trydan, a’i hosanau gwely a’i photel dŵr twym yn cael eu bwrw o’r neilltu. Yn ei ffantasi, mae hi’n berlewygol wrth dderbyn ei gynnig i briodi ac yn mynd ar sbri siopa ac mae tiliau’r siopau’n canu o gwmpas y dref.

Mae’r brethynnwr yn ei dro yn breuddwydio bod ei gariad yn ffigwr tebyg i fôr-forwyn sy’n eistedd yn wlyb diferu ar ei arffed. Yn draddodiadol, mae môr-forynion yn symbol o bŵer benywaidd, perygl a llithiad, ac eto o annibyniaeth a rhyddid hefyd. Fel petai’n cydnabod hyn yn ei isymwybod, dymuna Mog glymu rhuban wen (sef symbol o rinwedd ac aberth) yng ngwallt Myfanwy, ond ni all wneud hyn. Mae hithau’n cydnabod ei wir flaenoriaethau; bydd yn gwau waled las fel sgorpionllys y maes er mwyn iddo gadw’i arian yn ddiogel. Erbyn diwedd y ddrama, mae’r gwirionedd sydd wrth wraidd dyhead hirfaith y naill i’r llall yn cael ei ddatgelu; rydym yn eu gweld yn byw’n hapus ar wahân i’w gilydd, un ar ben uchaf y dref a’r llall ar ben isaf y dref ger y môr, ar ynysoedd eu bodlonrwydd, lle gall Myfanwy werthfawrogi’i hystafell ddiddorol a thaclus, na fydd Mr Mog Edwards byth yn dod i mewn iddi, tra bod yntau’n hapus yn cadw’i arian hyfryd yn agos at ei galon ei hun. Er bod Myfanwy yn datgan ei bod am fod gyda Mog am byth, ac yntau’n dweud y bydd yn ei charu ‘hyd oni wahaner ni gan angau’, pam rannu ei holl olud bydol yn awr trwy briodi?

Linda Evans, Canolfan Dylan Thomas

This post is also available in: English