Cyflwyno adnoddau synhwyraidd newydd i Ganolfan Dylan Thomas

Yn y blog hwn rydym yn gyffrous i gyflwyno’r bagiau synhwyraidd newydd gwych rydym yn eu datblygu i’w defnyddio yn ein harddangosfa, a’r parth synhwyraidd rydym yn ei greu ar gyfer ein lle dysgu a gweithgareddau. Gobeithiwn y byddant yn ychwanegu at y profiad a geir o’n harddangosfeydd a’n casgliadau, yn enwedig i ymwelwyr a fydd yn mwynhau ac yn elwa o ryngweithio synhwyraidd.

Mae’r bagiau’n cynnwys ciwbiau stori sy’n adnodd gwych ar gyfer ysgrifennu creadigol a straeon nad ydynt yn seiliedig ar iaith.

Daeth yr ysgogiad ar gyfer creu adnoddau synhwyraidd drwy weithio mewn partneriaeth â changen Castell-nedd Port Talbot o’r Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol yn ystod y cyfnod clo. Er bod elfennau synhwyraidd eisoes wedi’u cynnwys yn ein harddangosfa barhaol am Dylan Thomas, roedd gweithio gyda NAS wedi tynnu sylw at gyfleoedd i gynnig amrywiaeth o weithgareddau ac adnoddau synhwyraidd pwrpasol. Dros y misoedd i ddod, byddwn yn treialu ac yn datblygu’r rhain ymhellach gyda theuluoedd, pobl ifanc ac oedolion ac rydym yn gyffrous iawn i weld sut bydd yr adnoddau’n esblygu drwy’r broses gydweithredol.

’By scummed, starfish sands’: ‘Prologue’ – Dylan Thomas
Mae ser môr cyffyrddol yn un o nifer o eitemau synhwyraidd sydd ar gael yng Nghanolfan Dylan Thomas ac sydd wedi’u hysbrydoli gan ei ysgrifennu

Rydym wedi bod yn ddigon ffodus i dderbyn cyllid o Gronfa Casgliad Esmée Fairbairn Cymdeithas yr Amgueddfeydd, a chronfa Gaeaf Llawn Lles Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru. Mae hyn wedi’n galluogi i brynu rhai adnoddau arbenigol, gweithio gydag amrywiaeth o grwpiau a sefydliadau a dylunio ac ysgrifennu cynnwys pwrpasol. A diolch i gyllid pellach o Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru, rydym wedi gallu gweithio gyda Kids in Museums, sefydliad sy’n cefnogi amgueddfeydd a sefydliadau diwylliannol i groesawu teuluoedd, plant a phobl ifanc yn well.

Mae gennym amddiffynyddion clustiau mewn ystod o feintiau i oedolion, arddegwyr a phlant.

Yn y lle cyntaf, rydym wedi rhoi detholiad o eitemau synhwyraidd mewn bagiau ar gyfer hanner tymor mis Chwefror 2022. Bydd y rhain ar gael i’w harchebu’n rhad ac am ddim, i ymwelwyr eu defnyddio wrth archwilio’n harddangosfa barhaol, Dwlu ar y Geiriau. Mae’r holl eitemau’n ymwneud â’n harddangosfa ac ysgrifennu Dylan Thomas, ac maent yn cynnwys teganau byseddu tonnog, tortshis opteg ffibr a gobennydd arffed llonyddol. Mae gennym rai adnoddau mwy hefyd fel cuddfan synhwyraidd y byddwn yn ei gyflwyno i’n lle gweithgarwch a dysgu yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Hoffem glywed gennych os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan wrth dreialu’n hadnoddau, neu os hoffech ddysgu mwy am y prosiect hwn!

Gallwch gysylltu â Nicola ein Swyddog Datblygu yn nicola.kelly@abertawe.gov.uk neu ar 01792 463980 ar ddydd Mercher a dydd Iau.

This post is also available in: English