Enillydd y wobr Amgueddfeydd yn Newid Bywydau!

Enillydd y wobr Amgueddfeydd yn Newid Bywydau!

Rydym wrth ein boddau bod ein prosiect ‘Llythrennedd a Thrawma’ wedi ennill ei gategori yng ngwobrau ‘Amgueddfeydd yn Newid Bywydau’ Cymdeithas Amgueddfeydd y DU!

Mae’r prosiect yn seiliedig ar gyfres o weithdai ysgrifennu creadigol ar gyfer ffoaduriaid a cheiswyr lloches, dan arweiniad yr ysgrifennwr o Cameroon, Eric Ngalle Charles, sydd bellach yn byw yng Nghymru. Mae profiadau personol Eric o ddadleoliad a cheisio lloches yn hanfodol wrth ddarparu man diogel i gyfranogwyr gael mynegi eu hunain.

Meddai Eric:

‘It feels amazing to have won this award. Our workshops on literature and trauma and how the former can be used to overcome the latter is about giving a voice. Helping people to get to that place where they can own their stories and speak for themselves. I am immensely grateful and long may our work continue.’

Yn ystod sesiynau ‘Llenyddiaeth a Thrawma’, mae pobl yn adrodd eu straeon unigryw drwy farddoniaeth a rhyddiaith. Mae cynnal y sesiynau yn ein man dysgu’n sicrhau bod cyfleusterau chwarae ar gael i blant, sy’n caniatáu i’r oedolion ganolbwyntio, ac mae’r tocynnau bws a ddarperir am ddim yn sicrhau nad oes unrhyw rwystr o ran costau teithio. Mae’r gwaith a wneir yn y gweithdai wedi ymddangos mewn digwyddiadau diwylliannol, yn y cyfryngau lleol ac wedi’i ddarllen ar y radio.

Mae’r gweithdai’n galluogi’r rheini sy’n cymryd rhan i deimlo fel rhan o’r gymuned ehangach, er mwyn manteisio ar leoliadau diwylliannol a chanfod eu ffordd mewn dinas newydd. Mae ein harddangosfa a gefnogir gan y Gymdeithas Amgueddfeydd wedi dod yn ganolbwynt ac yn fan diogel i grŵp ymroddedig a dawnus o’r gymuned hon sy’n aml yn cael ei hesgeuluso.

Mae’r gwobrau Amgueddfeydd yn Newid Bywydau blynyddol yn cydnabod ac yn dathlu llwyddiannau amgueddfeydd ac unigolion sydd wedi cael effaith ar fywydau eu cynulleidfaoedd a’u cymunedau.

Rhagor o wybodaeth

I weld fideo o’r seremoni ar-lein

This post is also available in: English