Gwobr Terry Hetherington i ysgrifenwyr ifanc

Ar 24 Mehefin bydd Canolfan Dylan Thomas yn cynnal Gwobr Terry Hetherington i ysgrifenwyr dan 30 sy’n dod o Gymru neu sy’n byw yng Nghymru, cystadleuaeth sydd yn ei hwythfed flwyddyn.  Dyfernir y gwobrau, a bydd ymgeiswyr yn darllen o’u gwaith, wrth i ni ddathlu cenhedlaeth newydd o ysgrifenwyr talentog.

Don't miss rising young writers reading from their work

Sefydlwyd y wobr er cof am y bardd Terry Hetherington, a’i diben yw rhoi cyfleoedd i bobl ifanc yng Nghymru fynegi eu hunain drwy ysgrifennu creadigol, gyda gwobr flynyddol sy’n werth £1000. Mae Canolfan Dylan Thomas wedi’i chefnogi ers ei sefydlu, gan gynnal y seremoni wobrwyo flynyddol bob haf, ac rydym wedi cael y pleser o lansio llawer o’r llyfrau a ysgrifennwyd wedyn gan enillwyr y wobr.

Enillwyr Eleni

Enillwyr eleni yw’r bardd a’r awdur straeon byrion Mari Ellis Dunning, yr awdur ffuglen Rhian Elizabeth a’r bardd Christina Thatcher. O ystyried llwyddiant enillwyr blaenorol, gallai hwn fod yn gam pwysig yn eu gyrfaoedd ysgrifennu.

Hanes Anhygoel

Mae gan Wobr Terry Hetherington hanes anhygoel o gefnogi datblygiad a chynyddu proffil ysgrifenwyr ifanc sy’n mynd ymlaen i gyflawni campau bendigedig.

Mae’r enillwyr blaenorol yn cynnwys Jonathan Edwards, sydd wedi ennill Gwobr Costa ers hynny; Siôn Tomos Owen, y bydd ei lyfr, Cawl, yn cael ei gyhoeddi eleni ac sydd newydd ysgrifennu a chyflwyno cyfres ar gyfer S4C, Pobl y Rhondda; a Tyler Keevil, sydd wedi ennill gwobrau niferus am ei waith ffuglen. Ymhlith yr enillwyr blaenorol y mae’r beirdd arobryn Anna Lewis a Jemma L King, ynghyd â Georgia Carys Williams, y lansiwyd ei chasgliad cyntaf o straeon byrion yng Nghanolfan Dylan Thomas, Eluned Gramich, sy’n awdur ffuglen ac yn ysgrifwr arobryn, a’r bardd ifanc addawol Natalie Ann Holborow, y cyhoeddir ei chasgliad cyntaf cyn bo hir gan Parthian Books. Yn ogystal, mae gwaith Mao Oliver-Semenov, Cymro sy’n byw yn Siberia, wedi’i gyhoeddi’n eang ers ei lwyddiant yng Ngwobr Terry Hetherington.

Lansio Cheval

Bydd y noson wobrwyo hefyd yn cynnwys lansio Cheval, detholiad o waith yr ymgeiswyr a gyhoeddir gan Parthian. Eleni fe’i golygir gan Rose Widlake, enillydd cyntaf y wobr, a Jonathan Edwards, a gipiodd y brif wobr flwyddyn yn ddiweddarach.

Dewch draw i’r dathliad am ddim hwn, cefnogwch y criw diweddaraf o ysgrifenwyr talentog, a phrynwch gopi o Cheval er mwyn helpu i gefnogi parhad y wobr.

This post is also available in: English