Antony Penrose: ‘Picasso, Man Ray a Max Ernst trwy lygaid Lee Miller a Roland Penrose’

Ar 11 Mehefin, daw Anthony Penrose i’r ganolfan i siarad am Dylan Thomas a rhai o’r swrealwyr nodedig a oedd yn rhan o’i gylch diwylliannol.

Pan oedd ond yn 21 oed, darllenodd Dylan ei waith ei hun yn Arddangosfa Swrrealaidd Ryngwladol 1936 yn Llundain a drefnwyd gan artistiaid blaenllaw, gan gynnwys Salvador Dali, Max Ernst a Roland Penrose.

Contemporary Poetry and ProseRoedd y symudiad yn un a oedd o ddiddordeb i Dylan a pharhaodd y perthnasoedd cyfeillgar hyn drwy gydol ei fywyd; cafodd dynnu ei lun gan y ffotograffydd Swrrealaidd, Lee Miller, ar gyfer Vogue yn ystod y 1940au, ac arhosodd Dylan gyda Max Ernst a Dorothea Tanning ym 1952 ar ei ail daith o UDA.

Cyhoeddwyd gwaith Dylan yn rhifyn mis Awst 1936 Contemporary Poetry and Prose, ynghyd â cherddi gan Picasso, Dali a Breton. Yn Llundain ym 1950, perfformiodd Dylan ran The Onion – un o’r prif gymeriadau yn nrama flaengar Picasso, Desire Caught by the Tail.

Mewn Sgwrs

Bydd Antony Penrose, mab Lee Miller a Roland Penrose, yn archwilio’r cyfeillgarwch rhwng Picasso, Man Ray, Max Ernst, Lee Miller a Roland Penrose, a’u cysylltiadau â Dylan Thomas. Bydd yn cyflwyno rhan gudd y stori am gyfeillgarwch unigryw a barhaodd drwy gydol y symudiad Swrrealaidd a 30 mlynedd diwethaf bywyd Picasso, o safbwynt unigryw rhywun a welodd rai o’r digwyddiadau ei hun a chan ddefnyddio geiriau a lluniau’r rhai a oedd yno.

DSC_0008

Antony yw Cyd-gyfarwyddwr Archifau Lee Miller a Chanolfan Roland Penrose yn Farley Farm. Mae’n siaradwr arbennig a bydd yn cyflwyno ei sgwrs gyda rhai lluniau ardderchog, y tynnwyd nifer ohonynt gan Lee Miller. Mae bob amser yn bleser o’r mwyaf ei groesawu i Abertawe – dewch i ymuno â ni!

Archebwch eich tocynnau!

This post is also available in: English