Pasbort Marina

Ymunwch â ni am haf llawn hwyl greadigol i’r teulu gyda Phasbort Marina!

Mae Amgueddfa Abertawe, Oriel Mission, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Locws a Chanolfan Dylan Thomas wedi trefnu detholiad cyffrous o weithgareddau i deuluoedd gymryd rhan ynddynt dros wyliau’r haf. Gallwch gymryd rhan yn unrhyw rai o’n gweithgareddau dros yr haf a byddwch yn gallu casglu sticeri neu stampiau i roi yn eich Pasbort Marina!

Summer Holiday activities - Craft and facepainting afternoon at the Dylan Thomas Centre in Swansea.

O ‘Haf o Wyddoniaeth’ yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, i ddarganfod gweithiau celf anhygoel gyda Locws, mae llawer i‘w wneud. Beth am roi cynnig ar ‘Gampwaith Ffelt’ yn Oriel Mission, neu archwilio byd rhyfeddol y CMM gan Roald Dahl drwy greu ‘jar breuddwydion’ yng Nghanolfan Dylan Thomas – a chewch ganfod yr holl lygod cuddiedig yn Amgueddfa Abertawe!

Diwrnod lansio

Byddwn yn lansio’r Pasbort Marina ddydd Gwener 22 Gorffennaf yng Nghanolfan Dylan Thomas, ynghyd â gweithdy ‘Holiday Memory’ i’r teulu. Galwch heibio unrhyw bryd rhwng 1pm a 4pm i gasglu eich pasbort am ddim, a chasglu eich sticer cyntaf!

Casglwch yr eich pasbort

Bydd Pasbortau Marina am ddim ar gael yn y lleoedd sy’n cymryd rhan drwy wyliau’r haf. Gellir casglu sticer neu stamp ym mhob lleoliad, a gall sticeri Locws gael eu casglu o’r holl leoliadau sy’n cymryd rhan.

Ewch i’r gwefannau canlynol i weld y digwyddiadau a’r llwybrau:

This post is also available in: English