Edith Sitwell | Rhan 2

Edith Sitwell | Rhan 2

Yn ei hail flog, mae Katie yn edrych ar y ffyrdd y cefnogodd Edith Sitwell awduron ifanc talentog yn ogystal ag archwilio cyflawniadau Sitwell ei hun fel awdur.

Yn ei chyfweliad Face to Face gyda John Freeman ym 1959, dywedodd Edith Sitwell mai darllen, gwrando ar gerddoriaeth a thawelwch oedd ei hobïau. Fodd bynnag, o ran cyhoeddusrwydd a helpu ei ffrindiau, roedd hi’n bell o fod yn dawel. Yn Dylan Thomas: A Farm, Two Mansions and a Bunglaow, mae D N Thomas yn nodi straeon I G Bartholomew am sut roedd Edith Sitwell yn cefnogi Dylan yn frwd, ‘both as a man and a poet’.

Yn gynnar yn eu gohebiaeth, argymhellodd Edith fod Dylan yn dod o hyd i ryw fath o swydd, ac ar ôl cyhoeddi Twenty-five Poems, aeth ati i ddod o hyd i swydd ar ei ran. Mae Andrew Lycett, yn Dylan Thomas: A New Life, yn dogfennu iddi gysylltu â Richard Jennings o’r Daily Mirror i gael swydd iddo. Yna aeth at yr awdur a’r hanesydd Syr Kenneth Clark i ofyn am gymorth. Er nad oedd y naill ymgais na’r llall yn llwyddiannus, roedd ei dylanwad uniongyrchol ar Dylan wedi arwain at fwy o lwyddiant. Yn ôl Lycett, aeth Dylan ati i gyflogi David Higham yn asiant llenyddol o ganlyniad i awgrym gan Edith. Roedd y bartneriaeth yn un ffodus, wrth i Higham feistroli sgiliau i achub croen Dylan yn dilyn digwyddiadau anffodus. Ym mis Chwefror 1938, cysylltodd James Laughlin o’r cwmni cyhoeddi Americanaidd New Directions â Dylan gyda’r gobaith o gyhoeddi ei waith yn America. Fel y nododd Lycett, tynnwyd sylw Laughlin at waith Dylan yn wreiddiol gan Edith Sitwell.

Mae Caitlin, yn ei hunangofiant, Caitlin: Life with Dylan Thomas, yn siarad am ba mor hoff oedd Sitwell o Dylan, gan ddweud y byddai’n eu gwahodd nhw i’w phartïon yn y Sesame Club ac yn cyflwyno Dylan i bobl bwysig. Mae Cailtin yn ei disgrifio fel ‘quite extraordinary, dressed in turbans and banfles… a grand eccentric.’ Yn sicr, gwnaed sylwadau yn aml am wisgoedd anghyffredin Edith.Pan ofynnodd John Freeman iddi am hyn mewn cyfweliad, atebodd gan ddweud pe bai hi’n gwisgo cotiau a sgertiau, byddai pobl yn amau bodolaeth yr Hollalluog.

Er bod cynnyrch barddonol Edith wedi bod yn gyfyngedig yn y 1930au, yn y 1940au dechreuodd ysgrifennu cryn dipyn o farddoniaeth. Roedd ‘Still Falls the Rain’, a gyhoeddwyd yn y Times Literary Supplement ym 1941 yn ymateb i’r Blitz yn Llundain a daeth yn un o’i cherddi enwocaf. Ym 1954, gosododd Benjamin Britten y geiriau ar ei gân Canticle III: Still Falls the Rain, ar gyfer tenor, y corn Ffrengig a’r piano. Nid dyma’r tro cyntaf i eiriau Edith gael eu gosod ar gân. Gyda’i cherdd Façade ym 1922, adroddwyd ei cherddi dros gyfeiliant cerddorol gan William Walton.

Erbyn 1946 roedd Dylan yn dyheu am deithio i America gyda Caitlin. Yn ôl Paul Ferris yn Dylan Thomas: The Biography, nid oedd Edith yn fodlon ar y syniad, a cheisiodd ei berswadio i beidio â gwneud hynny. Yn ôl Ferris, roedd hi’n bryderus gan nodi ‘the prospect of a peniless Thomas in America.’ Fodd bynnag, roedd hi’n cydnabod ei fod yn dirywio, ac fel mae Constantine Fitzgibbon yn nodi yn The Life of Dylan Thomas, ‘she was anxious that the spiral should somehow be broken.’  Fel y mae Lycett yn ei ddogfennu, unwaith eto ymyrrodd Edith drwy bwyso ar Gymdeithas yr Awduron – yr oedd hi’n aelod pwyllgor arni – i roi ysgoloriaeth deithio gwerth £150 i Dylan. Defnyddiodd yr arian hwn i fynd â’i deulu i’r Eidal lle bu’n gweithio ar ‘In Country Sleep.’

Byddai Dylan yn darllen gwaith Edith yn aml ar gyfer rhaglenni barddoniaeth y BBC. Yn rhifyn mis Chwefror 1954 o Atlantic, dywedodd Edith ei bod yn falch iawn o glywed Dylan yn darllen ei gwaith. Yn yr un erthygl, dywedodd am Dylan, ‘(he had) a speaking voice of the utmoast magnificence, range and beauty’. Nid yw’n syndod felly iddi ofyn iddo rannu darlleniad o’i cherdd The Mark of the Cain ym mis Tachwedd 1952. Un o’i cherddi eraill i’w gosod ar gân, y tro hwn gan Humphrey Searle, oedd y gerdd brotest am ollwng y bom atomig ar Hiroshima. Mae Lycett yn dogfennu bod Dylan wedi perfformio’r gerdd eto, y tro hwn ar ei ben ei hun gan fod Sitwell yn America, ar 13 Ionawr 1953 yn Neuadd Frenhinol Albert, a ddarlledwyd gan y BBC.

Yn dilyn marwolaeth Dylan, ysgrifennodd Edith yn yr Atlantic, ‘His loss to poetry and to his true friends is not to be borne’ ac aeth ati i amddiffyn a hyrwyddo’r dyn a’r bardd. Cyfansoddodd deyrnged bersonol a ddarllenwyd mewn gala a gynhaliwyd yn Theatr y Globe ar gyfer Cronfa Goffa Dylan Thomas ym mis Ionawr 1954. Yn rhifyn mis Tachwedd 1955 Poetry, cyhoeddwyd Elegy to Dylan Thomas Edith. Yn ei chyfweliad Face to Face ym 1959, disgrifiodd Dylan fel un a oedd bob amser yn ymddwyn yn berffaith o’i chwmpas.     

Bu farw’r Fonesig Edith Sitwell ar 9 Rhagfyr 1964. Roedd hi’n 77 oed. Gallwch wrando arni’n darllen Still Falls the Rain yn https://poetryarchive.org/poet/edith-sitwell/

Katie Bowman, Canolfan Dylan Thomas

This post is also available in: English