Gweithdai Ysgrifennu Creadigol Am Ddim i Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches

Gweithdai Ysgrifennu Creadigol Am Ddim i Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches

Rydym yn falch o gyhoeddi y byddwn yn cynnal cyfres newydd o weithdai o 8 Tachwedd gyda’r bardd arobryn, y dramodydd a’r nofelydd, Eric Ngalle Charles.

Ysbrydoliaeth gwaith ysgrifennu Eric, sy’n dod o Cameroon, yw ei brofiadau trawmatig ar ôl iddo adael ei famwlad pan ddaeth yn ddioddefwr masnachu pobl yn hytrach na chael lloches fel roedd e’n gobeithio. Mae’r cyhoeddwr clodwiw, Parthian, ar hyn o bryd yn golygu ei hunangofiant sy’n cofnodi ei helynt o geisio lloches yn y DU. Wedi derbyn Gwobr Cymru Greadigol gan Lenyddiaeth Cymru’n ddiweddar, a chyda’i ddrama ddiweddaraf The Last Ritual i gael ei pherfformio yng Ngŵyl y Gelli eleni, mae Eric Ngalle Charles ar frig ei yrfa.

Bydd ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn gallu mynd i weithdai ysgrifennu creadigol Eric yng Nghanolfan Dylan Thomas AM DDIM, a byddant yn cael eu had-dalu am gostau teithio. Mae croeso i blant fwynhau’r posau a’r gemau sydd yn ein siop Cornel Lyfrau ar yr amod eu bod yng nghwmni eu rhieni. Darperir lluniaeth hefyd.

Yn y sesiynau hyn, a fydd yn para dwy awr, gall cyfranogwyr drafod eu profiadau personol mewn amgylchedd creadigol a diogel, dan arweiniad tiwtor sy’n ysgrifennwr profiadol, ond sydd hefyd yn sensitif i’r materion sy’n effeithio ar y rhai sy’n ceisio lloches yn benodol.

Cynhelir y sesiynau dwy awr o 10.30am i 12.30pm ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Iau 8 Tachwedd
  • Dydd Iau 15 Tachwedd
  • Dydd Iau 22 Tachwedd
  • Dydd Iau 29 Tachwedd
  • Dydd Iau 6 Rhagfyr

Diolch i Cyfuno a Llenyddiaeth Cymru am eu cefnogaeth

This post is also available in: English