Cerdd y mis – Poem in October

Cerdd y mis – Poem in October

‘And I rose
In rainy autumn
And walked abroad in a shower of all my days.’

Oherwydd bod pen-blwydd Dylan ar 27 Hydref, rydym wedi penderfynu trafod un o gerddi pen-blwydd Dylan, ‘Poem in October’. Yn ôl Vernon Watkins, dechreuwyd ar ‘Poem in October’ ym 1941 a’r llinell gyntaf oedd ‘It was my twenty-seventh year to heaven’. Roedd gan y gerdd derfynol, a gwblhawyd ym 1944 ac a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Horizon ym mis Chwefror 1945 cyn iddi ymddangos yn ‘Deaths and Entrances’ ym 1946, y llinell wedi’i haddasu ‘It was my thirtieth year to heaven’.

Ysgrifennodd Dylan gerddi pen-blwydd eraill, ‘Twenty-four Years’ a ‘Poem on his Birthday’, ond nodwyd hon gan Dylan fel ei ‘gerdd lleoliad’ gyntaf (fel y nodwyd ganddo mewn llythyr ar 26 Awst 1944). Wedi’i gosod yn Nhalacharn, mae’r bardd yn cerdded i frig y mynydd a gall weld y dref gerllaw o’i leoliad yno. O’r lleoliad hwnnw, mae’n dyst i natur a’r tymhorau wrth iddynt newid. Mae defnydd ailadroddus y gair ‘border’ yn dangos trothwy trosiadol ei sefyllfa; mae ar y trothwy rhwng aeddfedrwydd a glasoed, a’r trothwy rhwng yr haf a’r gaeaf. Gall weld gwanwyn a haf ei ieuenctid a’u cofio’n hawdd, a’r atgofion sy’n dod i’w feddwl wrth i’r dagrau ddisgyn: ‘burned my cheeks as his heart moved in mine.’

Mewn llythyr at Vernon Watkins ar 30 Awst 1944, ysgrifennodd Dylan am y gerdd,  ‘it’s got, I think, a lovely slow lyrical movement.’ Mae’r gerdd yn sicr yn llifo’n hawdd, ac mae llinellau’n amrywio o ran hyd, llinellau cyrch a brawddegau unigol dros un pennill neu fwy. Mae’r llif sy’n ymddangos yn rhydd, fodd bynnag, yn dwyll deg, oherwydd os byddwch yn ystyried y strwythur a phatrymau’r silliau, mae’r ddwy nodwedd yn dechnegol gywir ac yn fanwl. Yn yr un modd, pan fyddwch yn ei darllen am y tro cyntaf, mae’n ymddangos nad oes patrwm odli cyson. Ond, wrth i chi ei hystyried yn fanwl, byddwch yn sylwi bod defnydd cyson o odlau â chyseinedd llafariaid sy’n ategu at lif y darn.

Mae’r gerdd yn gorffen gyda dymuniad: ‘O may my heart’s truth/ Still be sung/ On this high hill in a year’s turning.’ Gan fod cynifer o bobl a lleoedd yn dathlu geiriau Dylan hyd heddiw, gallwn obeithio y byddai’n teimlo bod ei ddymuniad wedi’i wireddu.

Katie Bowman, Canolfan Dylan Thomas

This post is also available in: English