Rydym yn cael ein meddiannu!

Ar gyfer Diwrnod Plant yn Meddiannu’r Amgueddfeydd eleni, rydym wedi ymuno ag Amgueddfa Abertawe a Brownis Casllwchwr. Dros y mis diwethaf, buom yn gweithio gyda’n gilydd i helpu’r Brownis i weithio tuag at fathodyn newydd, sef Her Canmlwyddiant y Bleidlais i Ferched. Fe’i lluniwyd i ddathlu canmlwyddiant y bleidlais rannol i ferched ac mae criw’r Brownis wedi bod yn dysgu am etholfraint ac etholfreintwyr yn Abertawe ar y cyd ag arddangosfa bresennol yr amgueddfa, sef  ‘Pleidleisiau i Ferched’.

Mae’r merched wedi creu sawl darn o waith i’w gynnwys yn yr arddangosfa a chawsom sesiwn wych ar ysgrifennu sloganau, lle’r oedd y merched yn gorfod meddwl am rym geiriau a’r hyn sy’n creu slogan cofiadwy. Lluniodd pawb bosteri gyda’i slogan arno ac aethant ati gyda’r artist Rhiannon Morgan i greu eu baner ‘y bleidlais i ferched’ eu hunain. Daeth y merched yn ddylunwyr ac yn dechnegwyr arddangosfa; buont yn penderfynu ar sut i arddangos eu gwaith, ei osod yn lle’r oriel ac yn curadu cas arddangos o’u gwaith eu hunain, wrth gael eu hysbrydoli a dysgu am sut mae amgueddfeydd yn gweithredu ar yr un pryd.

Mae Diwrnod Meddiannu Cymru’n ddathliad o gyfraniadau plant a phobl ifanc at amgueddfeydd, sefydliadau celf, orielau, archifau a safleoedd treftadaeth. Ar neu’n agos at y diwrnod ei hun – 15 Tachwedd – cynigir rolau ystyrlon i bobl ifanc drwy weithio ochr yn ochr â staff a gwirfoddolwyr i gymryd rhan ym mywyd yr amgueddfa a’i deall. Meddiannwyd Canolfan Dylan Thomas ac Amgueddfa Abertawe sawl gwaith dros y blynyddoedd diweddar!

Ar ben hyn, bydd Sgwad Sgwennu’r Ifanc oed cynradd Canolfan Dylan Thomas yn meddiannu’r arddangosfa Dwlu ar y Geiriau mewn ffordd greadigol ar 17 Tachwedd pan fyddant yn cymryd rhan mewn gweithdy arbennig lle byddant yn dychmygu eu hamgueddfeydd eu hunain ac yn creu cymeriadau a golygfeydd yn seiliedig arnynt. Mae rhagor o wybodaeth am Sgwad Sgwennu’r Ifanc yma yma  neu anfonwch e-bost atom yn Llenyddiaeth.dylanthomas.@abertawe.gov.uk

This post is also available in: English