‘All the fun of the fair in the hot, bubbling night’: Ysgrifennu am eich Ffair haf eich hun

‘All the fun of the fair in the hot, bubbling night’: Ysgrifennu am eich Ffair haf eich hun

Dewch yn llu! Dewch yn llu! Yn ei ddarllediad radio ‘Holiday Memory’, ysgrifennodd Dylan Thomas am Ŵyl y Banc mis Awst yn Abertawe. Mae’n disgrifio mynd i’r ffair gyda’r nos, a gweld pob math o bethau anhygoel!

Rydym wedi dewis rhai o’r anifeiliaid a’r gwrthrychau mae Dylan yn eu disgrifio er mwyn eich helpu i ysgrifennu am (neu ddylunio!) ffair yr hoffech ei harchwilio:

‘the Most Intelligent Fleas’

‘the Largest Rat in the World’

‘the smallest pony’

‘Round galleries and shies and stalls’

‘strength-machine’        

‘a bitten-eared and barndoor chested pug’

‘distorting mirrors’

‘Girls in skulled and crossboned tunnels’

‘flying chairaplanes’

‘Dragons and hippogriffs’

‘Old men, smelling of Milford Haven in the rain’

‘zebras hallooing under a circle of glow-worms’

Dyma rai awgrymiadau eraill i’ch rhoi ar ben ffordd: a fyddwch chi’n ymweld yn ystod y dydd neu’r nos? Beth yw’ch hoff reid yn y ffair? Beth yw’r golygfa mwyaf brawychus? Ydych chi’n ennill unrhyw wobrau?

Cofiwch rannu eich gwaith ysgrifennu gyda ni ar Twitter @CDTAbertawe, yn www.Facebook.com/CanolfanDylanThomas neu e-bostiwch dylanthomas.lit@swansea.gov.uk

This post is also available in: English