‘A tune on an ice-cream cornet’: Holiday Memory (1946)

‘A tune on an ice-cream cornet’: Holiday Memory (1946)

Er ei fod yn adnabyddus am ei farddoniaeth, roeddwn yn llawn cyffro ar ôl darganfod bod Dylan hefyd wedi ysgrifennu ar gyfer y radio a ffilmiau. Wrth grwydro trwy’r arddangosfa, deuthum ar draws tudalen o un o’i ddarllediadau a dyna oedd dechrau fy niddordeb mawr! Un o’m ffefrynnau yw ‘Holiday Memory’, a ddarlledwyd ar Third Programme y BBC ar 25 Hydref 1946.

Mae ‘Holiday Memory’ yn sôn am hwyl a sbri gŵyl banc heulog mis Awst yn Abertawe. Mae Dylan yn lansio ei ddarllediad yn orfoleddus gyda ‘fanfare of sunshades opening’ lle gallwch glywed ‘tune on an ice-cream cornet’ a gwylio ‘a sunburn of girls and a lark of boys.’

Yr hyn yr oeddwn yn dwlu arno oedd cyffredinolrwydd y profiad glan môr Prydeinig, y gallwn uniaethu ag ef: o sioeau Pwnsh a Siwan a hel broc môr i hufen iâ’n toddi, tywod (ym mhob peth) a gemau traeth – gan gynnwys ‘the princely pastime of pouring sand from cupped hands or buckets, down collars and tops of dresses; the shriek, the shake, the slap’. Mae’r atgofion hiraethlon hyn yn llawn elfen gyfarwydd syml.

Nid yw’n ddiniwed bob tro! Mewn modd serchus, mae’r adroddwr yn gwawdio cwrteisi cymdeithasol traddodiadol sy’n cael eu cynnal, hyd yn oed ar ‘ddiwrnod bant’. Yn wir, mae mamau ‘in black, like wobbling mountains, gasp[ed] under the discarded dresses of daughters’. Mae ein sylwebydd barddonol craff hefyd yn targedu’r ‘pale young men with larded hair and Valentino-black side-whiskers’ sy’n chwarae gemau ffair, a’r tadau ‘in the once-a-year-sun, [taking] fifty winks’: yn wahanol i’r plant, a’n bardd hiraethlon, nid yw’r oedolion yn ymwybodol i’r un graddau o’r heulwen ogoneddus sy’n achlysur i’w glodfori.

Fodd bynnag, mae Dylan yn rhoi argraff o amser yn llithro ymaith, gan ein hysbysu’n drist: ‘I remember most the children, boys and girls tumbling, moving jewels, who might never be happy again. And “happy as a sandboy” is true as the heat of the sun.’ Fel petai’n ceisio atal y diwrnod rhag darfod, mae’n cynnig bendith, gan ddymuno ‘an August Bank Holiday all over the earth, from Mumbles where the aunties grew like ladies on a seaside tree to brown, bear-hugging Henty-land and the turtled Ballantyne Islands’ cyn mynd â ni yn y diwedd trwy’r cyfnos a’r daith hirfaith, lafurus ond boddhaol adref.

Alexia Bowler, Canolfan Dylan Thomas

This post is also available in: English