Ysgogiadau Ysgrifennu

Ysgogiadau Ysgrifennu

Bob pythefnos byddwn yn postio ysgogiadau ysgrifennu ar ein tudalennau Facebook a Twitter ac ar ein blog i roi ysbrydoliaeth i chi ar gyfer ysgrifennu, i roi ffocws i chi neu i gynnig her newydd i chi. 

Yn aml, bydd yr ysgogiadau hyn ar ffurf llun, ond weithiau byddwn yn cynnig gemau geiriau neu ymarferion penodol.

Gallant eich ysbrydoli i ysgrifennu cerdd, creu stori fer, creu darn o waith bywgraffiadol creadigol, ysgrifennu llythyr neu gael peth dihangdod.

Gallech gadw’r gwaith i chi’ch hun, ei rannu â theulu a ffrindiau neu ei anfon atom ni! Byddem yn dwlu ar gynnwys eich ymatebion ar ein sianeli cyfrifon cymdeithasol @CDTAbertawe (Twitter) a @CanolfanDylanThomas (Facebook).

Ysgogiad 1 ar gyfer Diwrnod Cenedlaethol Ysgrifennu

Rydym yn dechrau’n cyfres newydd o ysgogiadau ysgrifennu heddiw!

Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.
Dyma ddau gwestiwn i’ch helpu i ddechrau:  

  • Sut daeth e’ yno?
  • Ar gyfer pwy oedd hwn tybed? 

Ysgogiad 2

Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.
Dyma ddau gwestiwn i’ch helpu i ddechrau:  

  • Pwy sy’n byw mewn fflat fel hwn?
  • Beth sy’n digwydd yn y fflat hwn?

Ysgogiad 3

Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.

  • O ble hwyliodd y llong?
  • Pwy sydd ar y llong?
  • Pam mae’r llong ym Marina Abertawe?
  • Ble fydd hi’n hwylio nesaf?

Ysgogiad 4

Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.

  • Pwy yw hwn/hon?
  • Pam mae e/hi yma?
  • Beth yw ei stori?

Ysgogiad 5

Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.

  • Pwy yw hwn/hon?
  • Sut gyrhaeddodd yma?
  • Beth sy’n digwydd nesaf?

Ysgogiad 6

Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.

  • Pwy yw hwn/hon?
  • Beth mae’n ei wneud lan fan hyn?
  • Beth mae’n edrych arno?

Ysgogiad 7

Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.

  • Pwy yw’r ddau gymeriad hwn?
  • Am beth maen nhw’n sôn?

Ysgogiad 8

Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.

  • I ba gyfeiriad mae hwn yn pwyntio a pham?
  • Pwy roddodd yr arwydd yma?

Ysgogiad ysgrifennu’r hydref (9)

Ysgrifennodd Dylan Thomas nifer o gerddi am dymor yr hydref a’r gaeaf.
Allwch chi ysgrifennu cerdd hydrefol?

  • Pa liwiau gallwch chi eu gweld?
  • Sut mae’r tywydd?
  • Sut olwg sydd ar y coed?
  • Pa bethau all fod yn cuddio yn y dail sy’n cwympo?

Syniad ysgrifennu Nos Galan Gaeaf (10)

Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.

  • Pwy yw’r ysbrydion hyn?
  • Pa ddrygioni fyddan nhw’n ei wneud?
  • Pwy yw’r arweinydd?

Ysgogiad 11 – Cath fach ar y drymiau!

Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.

  • Beth yw enw’r band y mae’n chwarae ynddo?
  • Pwy arall sydd yn y band?
  • Pa fath o gerddoriaeth maen nhw’n ei chwarae?
  • Ble maen nhw’n mynd ar daith?

Ysgogiad 12 – Malwoden ar y rheilen!

Allwch chi ysgrifennu cerdd ddwli am Falwoden ar y Rheilen?

Ysgogiad 13 – Gwas y neidr yn cael seibiant

Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.

  • Ble mae’r gwas y neidr hwn yn mynd ar ei wyliau?
  • Â phwy maen nhw’n ymweld?
  • Pa ysglyfaeth byddan nhw’n ei ddal i swper?

Ysgogiad 14 – Sbectol haul Abertawe

Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.

  • Pwy oedd yn berchen ar y sbectol haul hon?
  • Beth oedd y peth diwethaf y gwelon nhw?
  • Sut gwnaethon nhw gyrraedd fan hyn?
  • Ble byddan nhw’n mynd?

Ysgogiad 15 – Golygfa o’r Traeth

Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.

  • Pwy oedd yn eistedd fan hyn?
  • Am beth roedden nhw’n siarad?
  • Pam wnaethon nhw adael yn sydyn? 
  • Gallwch ysgrifennu ar ffurf deialog, os ydych yn dymuno.

Syniadau ysgrifennu am arth (16)

Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.

  • Pwy yw’r cymeriad hwn?
  • Ym mhle mae e’?
  • Oddi wrth bwy mae e’n cuddio?
  • Beth sy’n digwydd nesaf?

Syniadau ysgrifennu am esgidiau pêl-droed (17)

Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.

  • Pwy sy’n berchen ar yr esgidiau pêl-droed?
  • Sut maen nhw wedi cyrraedd y goeden?
  • A fyddan nhw’n dod lawr eto? Os felly, sut?

Syniadau ysgrifennu am ŵy

Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.

  • Ym mhle cafodd yr ŵy ei ddarganfod?
  • Beth fydd yn deor ohono?
  • Beth fydd ei enw? Pa bwerau fydd gan y cyw?

Ysgogiad 19

Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.

  • Edrychwch ar beth sydd wedi cyrraedd yn y post!
  • Ym mhle mae Yevgeny wedi bod?
  • Sut wnaeth ef gael ei hun yn y blwch?
  • Ym mhle mae e’ nawr?

Ysgogiad 20

Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.

  • Pwy sy’n berchen ar y rhain?
  • Pam maen nhw wedi eu gadael?
  • Ym mhle maen nhw nawr, a beth sy’n digwydd nesaf?

Ysgogiad 21

Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.

  • Mae Yevgeny wedi dod o hyd i edafedd cudd ei gaethwas!
  • Beth yw ei gynllun?
  • A fydd e’n creu creadigaeth ryfedd?
  • Pa ddifrod fydd yn dilyn hyn?

Syniadau ysgrifennu am fotel (22)

Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.

  • Beth sydd yn y botel?
  • Pwy sydd wedi’i yfed?
  • Sut flas oedd arno?
  • Beth sy’n mynd i ddigwydd iddynt?

Syniadau ysgrifennu am lyffant (23)

Image Credit: Sandy Pritchard

Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.

  • Pwy sydd wedi’i droi’n llyffant?
  • Beth wnaethon nhw?
  • I ble’r awn nhw?
  • Sut gallan nhw newid yn ôl – gan dybio eu bod eisiau gwneud?

Mae Yevgeny wrth ei fodd â llyfrau! (neu silffoedd llyfrau, beth bynnag).

Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.

  • Beth yw ei hoff fath o lenyddiaeth?
  •  A fyddai’n dewis unrhyw beth o’r silff lyfrau hon?
  • A yw e’n ddarpar awdur ei hun?

Ysgogiad 25

Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.

  • Ble mae’r cwch hwn wedi bod?
  • Pwy sydd ar y cwch?
  • A fydd yn gollwng angor yn y bae hwn, ac os felly, beth sy’n digwydd nesaf?

Ysgogiad 26

Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.

  • Pe gallai’r coed hyn siarad, pa straeon fydden nhw’n eu hadrodd?
  • Pwy sydd wedi eistedd yn eu plith?
  • Beth sydd wedi glanio arnyn nhw, neu wedi ymgartrefu ynddynt?

Ysgogiad 27

Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.

Rydych yn nofio tua’r lan, ac yn cyrraedd lle newydd. Dydych chi byth wedi bod yno o’r blaen Disgrifiwch beth rydych chi’n ei wneud a phwy rydych yn ei weld a beth sy’n digwydd yn y deng munud gyntaf ar ôl i chi gyrraedd.

Ysgogiad 28

Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.

Meddai Dylan am un o’i gerddi ‘I never thought them to be imitations but rather wonderfully original things, like eggs laid by tigers.’ Pa ddelweddau a chyfuniadau anghyffredin fyddech chi’n eu dewis i ddisgrifio’ch ysgrifennu’ch hun?

Ysgogiad 29

Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.

O ba draethell bell y golchwyd y gangen hon i’r lan? Disgrifiwch y lle hwn, a sut y daeth y gangen hon i Abertawe.

Ysgogiad 30

Ysgrifennwch gerdd neu ddarn o ffuglen fer wedi’u hysbrydoli gan y llun hwn.

Hoffai Yevgeny fynd ar wyliau! I ba le hyfryd y gall e’ fynd? Beth byddai e’n gwneud yno? Â phwy y byddai e’n cwrdd?

Ysgogiadau Ysgrifennu’r Gaeaf

Dechreuwch stori gan ddefnyddio un o’r brawddegau cychwynnol hyn, pob un wedi’i addasu o gerdd Dylan Thomas, ‘A Winter’s Tale’ 👉🏻 https://loom.ly/SYXVkmk

This post is also available in: English