Dylan yn dychwelyd i Gernyw

Dylan yn dychwelyd i Gernyw
Dylan Thomas exhibition at the Dylan Thomas Centre in Swansea, UK.

Yn dilyn ei blog am amser Dylan yn Polgigga, mae Linda Evans yn edrych ar ymweliad nesaf Dylan â Chernyw.

Ar ôl ei ‘wellhad gorffwys’ fel gwestai Wyn Henderson yn ei bwthyn yn Polgigga, ger Penzance, Cernyw, ac arhosiad byr yn Llundain, dychwelodd Dylan adref i Uplands, Abertawe ym mis Mehefin 1936. Yna yng nghanol mis Gorffennaf, yn ystod ymweliad byr â Thalacharn, cyfarfu eto â Caitlin Macnamara, y ferch ifanc fywiog a di-flewyn-ar-dafod yr oedd wedi’i chyfarfod yn Llundain ar ddechrau mis Ebrill. Roedd ei steil yn un diamheuol o fohemaidd, ac roedd Dylan mewn cariad â hi. Bu’n rhaid iddo wrthsefyll cystadleuaeth oddi wrth ei chydymaith llawer hŷn, Augustus John, gan greu argraff ar y ferch y gwnaeth ei chymharu’n ddiweddarach â ‘thywysoges ar frig coeden Nadolig’.

Drannoeth, ysgrifennodd ati’n llawn disgwyliad: ‘I only want to tell you all the time and over & over again that I love you …that I’m going to see you soon and that I want us to get married once we can and that you said you wanted to too.’ Heblaw am ramant, byddai’r blynyddoedd 1936/7 yn amser ysgogol, cyffrous a hynod ddiddorol i’r bardd ifanc: aeth i Arddangosfa Swrrealyddion Ryngwladol Llundain;  dechreuodd waith ar lyfr (aflwyddiannus) a gomisiynwyd a oedd yn seiliedig ar daith o Gymru; bu’n rhan o gynlluniau ar gyfer cyhoeddiad newydd sef ‘Wales’, a oedd yn arddangos gwaith ysgrifennu Saesneg gan awduron o Gymru (a oedd yn llwyddiant); penododd David Higham yn asiant llenyddol iddo (arwydd clir o’i enw cynyddol) a helpodd ei rieni i symud o gartref ei blentyndod i Landeilo Ferwallt, ar gyrion Abertawe, ychydig cyn i’w dad ymddeol.

Roedd enw cynyddol Dylan yn ei wneud yn atyniadol iawn i’r criw llenyddol yn Llundain. Ac yntau bob amser yn brin o arian, derbyniodd yn ddiolchgar gynnig o lety am ddim gydag Emily Holmes Coleman, ysgrifennwr Americanaidd ecsentrig, yr oedd wedi torri’i chalon pan orfododd hithau iddo ddewis rhyngddi hi a Caitlin. Ym mis Mai 1937, ysgrifennodd Dylan at Caitlin, ac mae ei anobaith ynghylch bod ar wahân am gyhyd yn amlwg: ‘day and night I think of you, love you….I must see you and hear you’.

Gwireddwyd ei ddymuniad ar ddechrau mis Mehefin, pan gawsant fenthyg Oriental Cottage (annedd o’r 19eg ganrif a enwyd ar ôl gwch hwylio a suddodd oddi ar Gildraeth Lamorna), ar waelod cwm diarffordd sy’n troi a throelli i lawr i’r arfordir dramatig cernywaidd. Gyda’i hanes rhamantaidd yn y lleoliadau mwyaf rhamantaidd a hardd (bu’n wladfa artistiaid yn flaenorol), darganfu’r cwpwl a oedd wedi gwirioni â’i gilydd bleserau rhannu bywyd â’i gilydd yn Oriental Cottage, a gwnaethant gynlluniau i briodi’n dawel, yn bell o’u teuluoedd.

Daeth Constantine Fitzgibbon, bywgraffydd Dylan, i’r casgliad bod ei gefndir confensiynol wedi cyflymu’r briodas. Ac yntau wedi’i fagu mewn ‘nythaid o ysgolfeistri a ficeriaid, uwch-gapteniaid, cyfreithwyr, meddygon a modrybedd di-briod’, gwyddai fod cyd-fyw’n dderbyniol yn Llundain, ond roedd parchusrwydd o’r pwys pennaf gartref; ar y llaw arall, bu magwraeth Caitlin yn un hynod anghonfensiynol; credai mewn cariad rhydd ‘heb yr holl nonsens hwnnw’. Wrth ysgrifennu at ei rieni ar 10 Mehefin, dywedodd Dylan wrthynt ei fod yntau a Caitlin wedi symud i fwthyn hyfryd mewn lle gwych, ac am ei fwriad i briodi’r wythnos ganlynol yn y swyddfa gofrestru yn Penzance. Doedd DJ a Florence Thomas erioed wedi cwrdd â Caitlin ac ni chroesawyd y newyddion hwn, a berodd gryn sioc a syndod iddynt, yn enwedig gan ei dad, a oedd yn ofni y byddai priodi’n faen tramgwydd i lwyddiant posib ei fab; felly sicrhaodd help ei fab yng nghyfraith, Haydn Taylor, i helpu i roi stop ar y bobl ifanc anghyfrifol. Rhybuddiodd Haydn fam Caitlin, Yvonne, a chynigiodd ymweld ag Oriental Cottage, ond yn y pen draw, penderfynodd DJ nad oedd ganddo unrhyw bŵer i stopio’r briodas hon, priodas drwy drwydded arbennig, yr oedd angen rhoi ychydig ddiwrnodau’n unig o rybudd ar ei chyfer cyn y seremoni.

Clywodd Dylan, drwy Lundain, o’r ymdrechion i osgoi’r drychineb a ragwelwyd, ac ysgrifennodd at ei frawd yng nghyfraith yn manylu ar y briodas ‘bleserus ac ecsentrig’ a oedd ar ddod, gan ofyn yn ddigywilydd iddo a fyddai’n barod i roi cwpwl o bunnoedd iddo fel arwydd o ewyllys da.

Yn y pen draw, bu’n rhaid i dad siomedig Dylan dderbyn y weithred ffôl hon ac anfonodd arian at y cwpwl fel rhodd briodas. Roedd hyd yn oed cyn-gariad Caitlin, Augustus John, wedi darganfod lle’r oedd hi a chydnabu ei bwriad i briodi Dylan, gan ysgrifennu at ei seraff bach, ‘I take it you are not spliced yet.’ Roedd Caitlin (a gafodd ei magu i gredu y byddai’n priodi â dug) dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad â bardd tlawd y teimlai fod ganddo ‘gasged hudol’ o ddoniau rhyfeddol. Felly nid oedd tlodi’n rhwystr i’w hundeb, ond i gwpwl a freuddwydiai am ‘wely mewn bar’, roedd temtasiwn alcohol yn rhwystr i briodas na fyddent yn gallu’i oresgyn; gwarion nhw’r arian a arbedon nhw i dalu am gost y drwydded briodas, sef £3, ar alcohol, a hynny ddwywaith, a bu’n rhaid i ffrind caredig iawn ymyrryd er mwyn gwireddu eu breuddwyd.

Linda Evans, Canolfan Dylan Thomas

This post is also available in: English