Your Voice Advocacy yn treialu cymhwyster newydd yn yr amgueddfa

Your Voice Advocacy yn treialu cymhwyster newydd yn yr amgueddfa

Llun wedi’i dynnu gan Your Voice Advocacy

Blog gan Your Voice Advocacy

Your Voice Advocacy (YVA) ydym ni.

Rydym yn grŵp o bobl ag anableddau dysgu.

Rydym yn gwneud cymhwyster amgueddfa gyda Chanolfan Dylan Thomas.

Mae hi wedi bod yn ddiddorol i’r grŵp fod yn helpu’r ganolfan i dreialu’r cymhwyster.

Mae’r cymhwyster yn newydd. Ni yw’r grŵp cyntaf i’w brofi.

Llun wedi’i dynnu gan Adam Dawkins

Mae hyn y tu allan i Ganolfan Dylan Thomas.

Mae rhai o’r grŵp eiriolaeth YVA wedi bod yn gwneud cymhwyster yma.

Llun wedi’i dynnu gan Richard Williams

Dyma’r grŵp yn dangos y fynedfa.

Mae’r grŵp yn cwrdd bob wythnos yng Nghanolfan Dylan Thomas.

Llun wedi’i dynnu gan Kara Williams

Dyma Matthew, yn dangos bod croeso mawr i’r cyhoedd i’r arddangosfa.

Rydym wedi bod yn dysgu sgiliau newydd fel ffotograffiaeth.

Llun wedi’i dynnu gan Matthew Heit

Dyma Elvis a Holly. Mae Holly yn gi therapi. Mae croeso i bob anifail cymorth a therapi yma.

Dyma’r lle dysgu. Dyma ble rydym yn cynnal ein grŵp eiriolaeth.

Llun wedi’i dynnu gan Elvis Presley

Dyma’r grŵp yn siarad am het o ysgol Dylan Thomas.

Rydym yn helpu i gefnogi Canolfan Dylan Thomas gyda phethau Hawdd eu Darllen a mynediad.

Llun wedi’i dynnu gan Richard Williams

Mae’r plac hwn yn dangos beth sydd yn yr arddangosfa.

Mae logo Your Voice Advocacy ar yr arddangosyn i ddangos ein bod wedi rhoi adborth a chyngor.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Your Voice Advocacy yma www.yourvoiceadvocacy.org.uk

This post is also available in: English